Bod yn gymwys i bleidleisio
Diweddarwyd y dudalen ar: 07/08/2023
Wrth lenwi'r Ffurflen Cofrestru Etholiadol cofiwch gynnwys pob un sy'n byw yn eich cartref sy'n gymwys i bleidleisio. Dyma'r unigolion sy'n gymwys:
- Dinasyddion Prydain
- Dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon
- Dinasyddion y Gymanwlad sy'n gymwys (gweler y rhestr isod)
- Dinasyddion Aelod Wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd (hefyd gweler y rhestr isod)
Gallwch gofrestru yn 16 oed neu'n hŷn (*mewn rhai achosion 16). Gan fod cyfnod y Gofrestr Etholiadol rhwng 1 Rhagfyr a 30 Tachwedd bob blwyddyn, mae arnom angen dyddiadau geni unigolion ychydig o dan 18 oed i sicrhau eu bod ar y Gofrestr mewn pryd iddynt allu pleidleisio. Er bod eich enw'n gallu ymddangos ar y Gofrestr Etholiadol cyn ichi droi'n 18 oed, ni fyddwch yn cael pleidleisio hyd nes eich bod yn 18 oed (*mewn rhai achosion 16) .
*Mae cyfraith newydd yn golygu bod pobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed a gwladolion tramor sy'n byw yma yng Nghymru yn gallu pleidleisio yn Etholiadau'r Senedd ac Etholiadau'r Lleol yn rhan o'r newidiadau mwyaf i'r broses ddemocrataidd yng Nghymru mewn hanner canrif.
Rhestr o Wledydd y Gymanwlad a Thiriogaethau Tramor Prydain sy'n gymwys
Rhaid i'r holl breswylwyr o'r Gwledydd canlynol gofrestru.
- Antigua a Barbuda
- Awstralia
- Y Bahamas
- Bangladesh
- Barbados
- Belize
- Botswana
- Britain
- Brunel
- Cameroon
- Canada
- Cyprus
- Dominica
- Ynysoedd Fiji
- Ghana
- Grenada
- Guyana
- India
- Jamaica
- Kenya
- Kiribati
- Lesotho
- Malawi
- Malaysia
- Maldives
- Malta
- Mozambique
- Namibia
- Nauru
- Seland Newydd
- Nigeria
- Pacistan
- Papua New Guinea
- Rwanda
- St Christopher a Nevis
- St Lucia
- St Vincent a’r Grenadines
- Samoa
- Seychelles
- Sierra Leone
- Singapôr
- Ynysoedd Solomon
- De Affrica
- Sri Lanka
- Swaziland
- Tonga
- Trinidad and Tobago
- Tuvalu
- Uganda
- Gweriniaeth Unedig Tanzania
- Y Deyrnas Unedig
- Vanuatu
- Zambia
Tiriogaethau Tramor Prydain
- Anguilla
- Bermuda
- Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig
- Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor yr India
- Ynysoedd yr Wyryf
- Ynysoedd y Caiman
- Ynysoedd Falkland
- Gibraltar
- Monserrat
- Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno
- St Helena, Ascension a Tristan da Cunha
- Ynysoedd Turks a Caicos
Aelod Wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd
Rhaid i ddinasyddion yr aelod wladwriaethau canlynol o'r Undeb Ewropeaidd gofrestru fel pleidleiswyr, ond cânt eu cofrestru fel pleidleiswyr llywodraeth leol yn unig (oni bai eu bod hefyd yn ddinasyddion y Gymanwlad megis dinasyddion Cyprus a Malta, neu'n ddinasyddion Gwladwriaeth Iwerddon, sy'n gallu pleidleisio ym mhob etholiad). Golyga hyn fod Dinasyddion Aelod Wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd yn gallu pleidleisio mewn etholiadau a gynhelir ar gyfer Senedd Cymru, Cynghorau Sir a Chymuned ond nid yn Etholiadau Seneddol y DU. Mewn perthynas ag Etholiad Seneddol Ewrop gall y Dinasyddion hyn wneud cais i bleidleisio o'u cyfeiriad yn y Sir yn hytrach nag o'u Haelod Wladwriaeth.
- Awstria
- Gwlad Belg
- Bwlgaria
- Croatia
- Cyprus
- Gweriniaeth Tsiec
- Denmarc
- Estonia
- Y Ffindir
- Ffrainc
- Yr Almaen
- Groeg
- Hwngari
- Yr Eidal
- Latfia
- Lithwania
- Lwcsembwrg
- Malta
- Yr Iseldiroedd
- Gwlad Pwyl
- Portiwgal
- Gweriniaeth Iwerddon
- Rwmania
- Slofacia
- Slofenia
- Sbaen
- Sweden
Hong Kong
Ers ei throsglwyddo i sofraniaeth Tsieina ar 1 Gorffennaf 1997, cafodd Hong Kong ei dileu o restr Tiriogaethau Tramor Prydain. O ganlyniad, nid yw cyn-breswylwyr Hong Kong yn ddinasyddion cymwys yn y Gymanwlad yn rhinwedd eu preswyliaeth yn Hong Kong gan nad yw Tsieineaidd Hong Kong yn genedligrwydd bellach.
Os yw etholwr yn datgan mai Tsieineaidd Hong Kong yw ei genedligrwydd, dylai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol arfer ei bwerau i fynnu tystiolaeth o genedligrwydd gwirioneddol yr etholwr a chadarnhau pa fath o basbort sydd ganddo/ganddi. Mae unrhyw un o gyn-breswylwyr Hong Kong sy'n ddeiliad pasbort Tiriogaethau Dibynnol Prydain, Dinasyddion Prydain (Dramor) neu Ddinasyddion Tramor Prydain yn bodloni'r meini prawf cenedligrwydd ar gyfer pob etholiad yn y Deyrnas Unedig. Tsieinead yw unrhyw un o gyn-breswylwyr Hong Kong sydd yn ddeiliad pasbort Rhanbarth Gweinyddol Arbennig Tsieina yn unig ac ni chaiff gofrestru.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Cynlluniau gwaith i'r dyfodol
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Ymgynghori a Pherfformiad
- Ymgynghoriadau actif
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau Lleol 2022
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2021
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Adolygiad o Ffiniau Seneddol
- Deddf Etholiadau 2022 ac ID Pleidleisiwr
- Adolygiad Cymunedol 2023
- Adolygiad o Ddosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio
Diogelu Data
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth