Cofrestru i bleidleisio

Diweddarwyd y dudalen ar: 02/09/2024

Sicrhewch eich bod yn cael dweud eich dweud – defnyddiwch eich hawl i bleidleisio. Os na fyddwch yn pleidleisio byddwch yn colli eich cyfle i ddylanwadu ar y ffordd y gweithredir y wlad.

Gallwch bleidleisio:

  • Pan fyddwch yn 18 ac wedi eich cofrestru i bleidleisio (*mewn rhai achosion 16)
  • Hefyd, mae angen i chi fod yn un o ddinasyddion Prydain, Iwerddon, y Gymanwlad (gan gynnwys Maltaidd a Chypraidd) sydd â chaniatâd  i ddod i mewn i'r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu i aros yno, neu nad oes angen caniatâd arno. Neu'r yn Wladolyn tramor sydd â chaniatâd  i ddod i mewn i'r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu i aros yno, neu nad oes angen caniatâd  arno (dim ony yn etholiadau'r Senedd ac mewn etholiadau cynghorau lleol y gallwch bleidleisio.  Neu'r Undeb Ewropeaidd (gallwch bleidleisio yn etholiadau'r Senedd ac mewn etholiadau cynghorau lleol ac efallai y byddwch yn gallu pleidleisio mewn etholiadau Comisiynwyr yr Heddle a Throseddu).

Cofiwch nad oes modd i chi bleidleisio os nad yw eich enw ar y Gofrestr Etholiadol. Os nad ydych yn siŵr a ydych wedi cofrestru i bleidleisio, llenwch ein ffurflen ar-lein a byddwn yn gwirio eich manylion.

Sut ydych yn cael eich cofrestru?

Gallwch gofrestru ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu gwnewch gais am ffurflen gan y swyddfa etholiadau.

  • Gallwch gofrestru yn 16 oed neu'n hŷn (*mewn rhai achosion 14) (gan fod y Gofrestr Etholiadol yn cael ei gweithredu o 1 Ragfyr hyd at 30 Tachwedd bob blwyddyn, mae angen dyddiadau geni'r rheiny sydd bron â chyrraedd eu 18 oed (*mewn rhai achosion 16) arnom er mwyn sicrhau eu bod ar y gofrestr mewn da bryd fel bo modd iddynt bleidleisio).  Er ei fod yn bosibl y bydd eich enw yn ymddangos ar y Gofrestr Etholiadol cyn eich bod yn 18, ni fydd hawl gennych i bleidleisio hyd nes y byddwch yn 18 (*16 mewn rhai achosion).
  • o ddinasyddion Prydain, Iwerddon, y Gymanwlad (gan gynnwys Maltaidd a Chypraidd) sydd â chaniatâd  i ddod i mewn i'r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu i aros yno, neu nad oes angen caniatâd arno. Neu'r yn Wladolyn tramor sydd â chaniatâd  i ddod i mewn i'r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu i aros yno, neu nad oes angen caniatâd  arno (dim ony yn etholiadau'r Senedd ac mewn etholiadau cynghorau lleol y gallwch bleidleisio.  Neu'r Undeb Ewropeaidd (gallwch bleidleisio yn etholiadau'r Senedd ac mewn etholiadau cynghorau lleol ac efallai y byddwch yn gallu pleidleisio mewn etholiadau Comisiynwyr yr Heddle a Throseddu).
  • Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i gael eich cofrestru i bleidleisio
  • Nid oes rheidrwydd arnoch i bleidleisio ond mae'n rhaid i chi gael eich cofrestru i bleidleisio
  • Mae'n rhaid i chi gael eich cofrestru'n flynyddol
  • Os ydych yn gwneud cais am gredyd, gall asiantaethau archwilio credyd ddefnyddio'r gofrestr i wirio eich manylion, ac os nad ydych wedi eich cofrestru gallai eich cais am gredyd gael ei wrthod.

*Mae cyfraith newydd yn golygu bod pobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed a gwladolion tramor sy'n byw yma yng Nghymru yn gallu pleidleisio yn Etholiadau'r Senedd ac Etholiadau'r Lleol yn rhan o'r newidiadau mwyaf i'r broses ddemocrataidd yng Nghymru mewn hanner canrif.  

 

Myfyrwyr

Fel myfyriwr, gallwch gofrestru yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor ac yn eich cyfeiriad cartref - felly p'un a ydych yn y brifysgol neu gartref, os ydych wedi cofrestru, gallwch bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad. Ni chewch bleidleisio ddwywaith yn un o etholiadau Seneddd nac yn un o etholiadau Seneddol y Deyrnas Unedig. Ond cewch bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol gartref ac yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor, cyhyd ag nad ydynt yn yr un ardal llywodraeth leol.

Beth yw’r cam nesaf?

Mae'r wybodaeth yr ydym yn ei derbyn ar y ffurflenni cofrestru a ddychwelir gan bob cartref yn cael ei defnyddio i lunio rhestr, a elwir yn Gofrestr Etholiadol. Cafodd cofrestr 2024 ei chyhoeddi a'i gweithredu ar 1 Rhagfyr 2023. Ceir dau fersiwn o'r gofrestr hon, sef y gofrestr lawn a'r gofrestr agored.

Mae'r gofrestr lawn yn cynnwys pawb sydd wedi eu cofrestru i bleidleisio. Fe'i defnyddir ar gyfer etholiadau a chan rai sefydliadau i wirio ceisiadau credyd ac i atal troseddau. Mae'r gofrestr agored yn cynnwys rhai o'r bobl sydd wedi eu cofrestru i bleidleisio.  Gallwch ddewis a ydych am fod ar y gofrestr hon ai peidio drwy roi tic mewn blwch ar y ffurflen gofrestru a anfonir i'ch cartref.  Gall unrhyw un brynu'r gofrestr hon a'i defnyddio at ba bwrpas bynnag.

Cofrestru i pleidleisio  Gwiriwch eich bod wedi cofrestru i bleidleisio!

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau