Etholiadau'r Senedd 2026

Diweddarwyd y dudalen ar: 13/08/2024

Bydd Etholiadau nesaf y Senedd yn cael eu cynnal ddydd Iau 7 Mai 2026. O ganlyniad i Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) byddwn yn gweld nifer o newidiadau, yn bennaf:

Y system bresennol

Y system o 2026

60 Aelod i gyd - 40 yn cynrychioli etholaethau ac 20 yn cynrychioli rhanbarthau mwy. ***96 Aelod i gyd - 16 etholaeth yn cael eu cynrychioli gan 6 Aelod yr un.
Un bleidlais yn yr etholaeth, un bleidlais yn y rhestr ranbarthol. Un bleidlais yn yr etholaeth.
Mae pobl yn dewis ymgeisydd unigol yn y bwth pleidleisio ar gyfer y bleidlais etholaeth a phlaid wleidyddol (neu annibynnol) ar gyfer y bleidlais ranbarthol. Oni bai bod pobl yn pleidleisio dros ymgeisydd annibynnol, maent yn dewis plaid wleidyddol i bleidleisio drosti, gyda'r cynrychiolwyr etholedig yn dod o restrau sy'n cael eu penderfynu gan bleidiau. Bydd enwau'r holl ymgeiswyr yn ymddangos ar y papur pleidleisio.
Etholiadau'r Senedd bob 5 mlynedd. Etholiadau'r Senedd bob 4 mlynedd.
Nid yw'n ofynnol i aelodau/ymgeiswyr breswylio yng Nghymru. Mae'n rhaid i aelodau/ymgeiswyr fod wedi cofrestru i bleidleisio yng Nghymru.

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru ('y Comisiwn') bellach yn gyfrifol am adolygu ffiniau etholaethau'r Senedd yng Nghymru ar sail y rheolau a osodwyd gan Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 ac mae'n ofynnol iddo gyflwyno adroddiad ffurfiol gyda'i benderfyniadau terfynol cyn 1 Ebrill, 2025.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn chwarae rhan bwysig yn yr adolygiad hwn a bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ei gynigion cychwynnol ddydd Mawrth 3 Medi, 2024 sy'n nodi 16 etholaeth newydd y Senedd. Bydd yr adolygiad hwn yn amodol ar gyfnod ymgynghori ysgrifenedig o bedair wythnos sy'n dod i ben ddydd Llun 30 Medi, 2024. Wedyn bydd y Comisiwn yn ystyried yr holl sylwadau a bydd yn mynd ymlaen i gyhoeddi cyfres ddiwygiedig o gynigion ar gyfer ymgynghori.

Gallwch ddod o hyd i'r canllaw i'r adolygiad hwn a sut y gallwch gyflwyno sylwadau ar yr adolygiad ar wefan y Comisiwn.

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau