Pam yr ydym wedi ymgynghori
Rydym yn gwybod bod chwarae yn bwysig iawn i blant a theuluoedd. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod plant yn cael digon o gyfleoedd i chwarae a chymdeithasu gyda'u ffrindiau.
Mae’r arolwg hwn yn gofyn cwestiynau i chi am gyfleoedd eich plant i chwarae a sut rydych chi fel rhiant neu ofalwr yn teimlo ynglŷn â chwarae. Bydd eich atebion yn ein helpu i ddiogelu a gwella'r amser a'r lle sydd ar gael i blant chwarae.
Mae’r arolwg hwn ar gyfer rhieni a gofalwyr plant rhwng 4 ac 17 oed. Os oes gennych fwy nag un plentyn, cwblhewch yr arolwg ar gyfer pob plentyn neu ei ateb ar gyfer un ohonynt.