Pam yr ydym yn ymgynghori

Ers amser maith, mae Sir Gâr wedi cael ei galw'n 'Gardd Cymru’. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae diddordeb mewn cyfleoedd tyfu bwyd lleol wedi cynyddu mewn poblogrwydd. Mae corff o dystiolaeth sy'n cefnogi'r syniad y gall tyfu eich cynnyrch eich hun fod o fudd i bobl a'r blaned, boed hynny drwy wella llesiant corfforol a meddyliol neu drwy gyfyngu ar nifer y milltiroedd bwyd ar ein platiau. Fel cydrannau cynhenid Seilwaith Gwyrdd a Glas, mae Rhandiroedd a Mannau Tyfu Cymunedol yn cynrychioli atebion pwysig sy'n seiliedig ar le tuag at hyrwyddo dewisiadau ffordd o fyw egnïol ac atal problemau iechyd a llesiant ymhlith ein cymunedau.  

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae'r Strategaeth Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol Ddrafft yn nodi'r ddarpariaeth bresennol o fannau yn y sir. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am reolau tenantiaeth, y diddordeb ymhlith ein cymunedau, a'r cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at gynnal a gwella'r ddarpariaeth yn gynaliadwy. Mae'n cynnig pedwar amcan strategol sy'n amlinellu ein hymrwymiad i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ar gael i breswylwyr gymryd rhan mewn tyfu.

Wedi'i ariannu ar y cyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Chyngor Sir Caerfyrddin, gwahoddir preswylwyr Sir Gaerfyrddin a phartïon sydd â diddordeb i roi sylwadau ar y Strategaeth Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol Ddrafft. 

Sut i gymryd rhan

Llenwch yr arolwg ar-lein hwn

Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd neu os oes angen help arnoch i gael mynediad i'r arolwg hwn, cysylltwch â thîm Prosiect Gwyrddu Sir Gâr drwy ffonio 07816 113034 (ar gael rhwng 9am ac 1pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener). Byddant ar gael i fewnbynnu'r wybodaeth hon i chi dros y ffôn.

Camau nesaf

Bydd adborth o'r ymgynghoriad hwn yn cael ei ddefnyddio i helpu i lywio'r gwaith parhaus o ddatblygu'r Strategaeth ddrafft y disgwylir iddi gael ei chyflwyno i'r Cyngor i'w hystyried ymhellach yng Ngwanwyn 2025. 

Diogelu Data 

Nid yw cwestiynau yn yr arolwg hwn yn casglu unrhyw ddata personol yn fwriadol. Os darperir unrhyw ddata personol drwy ymatebion a dderbyniwyd, caiff ei drin yn unol â'n Hysbysiad Preifatrwydd. Am fwy o wybodaeth am eich hawliau ac i gael manylion cyswllt ein Swyddog Diogelu Data