Pam yr ydym yn ymgynghori

Rydym yn gweithio gydag AtkinsRéalis i ymgymryd â dyluniad rhagarweiniol cyfleuster Cyfnewidfa Deithio Aml-ddull ar gyfer Gorsaf Reilffordd Llanelli, gyda'r weledigaeth o wella cysylltedd trwy symleiddio'r cysylltiadau rhwng rheilffyrdd, bysiau a dulliau teithio llesol.

Rydym am gynnwys y cyhoedd yn ein cynnig i sicrhau ein bod yn gweithredu cynllun priodol sy'n gwella mynediad at gyfleoedd trafnidiaeth mwy cynaliadwy i ategu'r cynigion datblygu cynyddol sy'n mynd yn eu blaenau yn ne Llanelli. 

Sut i gymryd rhan

Llenwch yr arolwg ar-lein hwn.

Sesiynau Galw Heibio Cyhoeddus lle bydd y cynlluniau ar gael i'w gweld.

Dydd Llun 17 Mawrth, Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli 10am-7pm 

Dydd Iau 27 Mawrth, Canolfan Antioch 10am-7pm

Camau nesaf

Bydd yr adborth a gawn o'r ymarfer ymgysylltu hwn yn cael ei ystyried i lywio dyluniad terfynol y cynllun ac yn bwysicach, yn rhoi cyfle i'r cyhoedd roi sylwadau ac i ddeall y cynllun yr ydym yn ei roi ar waith, gan wella mynediad at nifer o ddulliau trafnidiaeth allweddol ar gyfer Llanelli a'r ardal ehangach.