Pam yr ydym yn ymgynghori

Rydym yn gweithio gydag AtkinsRéalis i wneud gwelliannau ar ad-drefnu'r A484 Heol y Sandy/Maes y Coed yn Llanelli, gyda'r weledigaeth o leihau tagfeydd ar hyd y ffordd gerbydau i'r gorllewin er mwyn gwella amseroedd teithio a diogelwch ar hyd y ffordd gerbydau.

Rydym am gynnwys y cyhoedd ynghylch ein cynnig i sicrhau ein bod yn gweithredu cynllun priodol o ystyried cyfyngiadau heriol y lleoliad penodol hwn a rhoi sicrwydd y bydd y cynnig hwn yn gwella llif traffig yn y coridor allweddol hwn o ganol tref Llanelli ac oddi yno.

Sut i gymryd rhan

Llenwch yr arolwg ar-lein hwn.

Sesiwn Galw Heibio Gyhoeddus ddydd Gwener 7 Mawrth 2025 (10am-7pm) - Neuadd Gymunedol Ffwrnes, Heol Strade, Ffwrnes, Llanelli, SA15 4ET bydd cynlluniau ar gael i'w gweld.
 

Camau nesaf

Bydd yr adborth yr ydym yn ei gael o'r ymarfer ymgysylltu  hwn yn cael ei ystyried i gadarnhau dyluniad terfynol y cynllun ac yn bwysicach, yn rhoi cyfle i'r cyhoedd ddeall yr ymyriadau yr ydym yn eu rhoi ar waith i geisio datrys yr heriau allweddol a brofir yn y lleoliad penodol hwn.