Pam yr ydym yn ymgynghori
Mae'n ofynnol i'r awdurdod adolygu Asesiadau Effaith Gronnol, sy'n rhan o'i Bolisi Trwyddedu o leiaf bob 3 blynedd ac fel rhan o'r adolygiad rhaid i'r awdurdod gynnal ymarfer ymgynghori. Cynhaliwyd yr adolygiad llawn diwethaf o'r Polisi Trwyddedu yn 2023.
Mae’r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i chi gyfrannu at adolygu polisi trwyddedu Sir Gaerfyrddin. Edrychwn ymlaen at gael eich sylwadau a’ch syniadau er mwyn sicrhau y gallwn gynnal system drwyddedu effeithiol ar gyfer Sir Gaerfyrddin.
Dogfennau ategol a dolenni cysylltiedig
Sut i gymryd rhan
Gall yr holiadur gael ei gwblhau drwy’r arolwg ar-lein.
Caiff yr arolwg ei ddosbarthu i ddeiliaid trwydded, cynrychiolwyr trigolion lleol a busnesau. Bydd yr arolwg ar gael ar borth ymgynghori Lleol-i, a bydd yn cael ei hyrwyddo mewn cyfarfodydd a fforymau.
Camau nesaf
Bydd yr adborth o'r ymgynghoriad yn cael ei ddefnyddio i adolygu’r Polisi Trwyddedu presennol a disgwylir iddo gael ei gyflwyno i'r Cyngor yn Ionawr 2027 i'w gymeradwyo.
