Pam yr ydym wedi ymgynghori
Rydym yn ymgynghori â phreswylwyr, landlordiaid, tenantiaid a'r rhai sydd â diddordebau eraill yn Wardiau Tyisha a Glanymôr yn Llanelli, ynghylch cyflwyno cynllun trwyddedu newydd. Bydd y cynllun yn Gynllun Trwyddedu Ychwanegol o dan Ddeddf Tai 2004, a bydd yn effeithio ar eiddo amlfeddiannaeth yn y ddwy ward hynny. Rydym yn ymgynghori ar:
- Yr angen am gynllun
- Amodau'r drwydded
- Y costau cysylltiedig
- Effeithiau posibl
- Buddion posibl
Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn llunio'r Polisi Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer yr ardal, a bydd barn yn cael ei hystyried ar yr holl faterion allweddol. Yn dilyn hyn, bydd y cynllun yn cael ei ddatblygu a'i gyflwyno cyn ei weithredu.