Pam yr ydym yn ymgynghori
Yn dilyn cynnydd cyllid dros dro o 4.1% gan Lywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr, mae dal angen i Gyngor Sir Caerfyrddin bontio diffyg yr amcangyfrifir ei fod o gwmpas £18 miliwn yn ei gyllideb ar gyfer 2025/26.
Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i bennu cyllideb gytbwys yn flynyddol, gan sicrhau bod incwm o ffynonellau megis y Grant Cynnal Refeniw, y Dreth Gyngor, grantiau a gwasanaethau y telir amdanynt yn ddigon i dalu am ei wariant.
Mae'r arolwg ar-lein yn rhoi cyfle i breswylwyr fynegi eu barn. Bydd y rhain yn cael eu hystyried ochr yn ochr â 90 o gynigion gweithredol manwl, megis costau adeiladu, defnydd effeithlon o gerbydau, effeithlonrwydd digidol, strwythurau staffio a swyddogaethau mewnol a chefn swyddfa. Bydd y rhestr fanwl yn cael ei thrafod yn llawn yng nghyfarfod nesaf y Cabinet, a gynhelir ddydd Llun, 13 Ionawr 2025.
Mae penderfyniadau anodd iawn o flaen Cyngor Sir Caerfyrddin. Rydym bellach yn gwahodd preswylwyr, busnesau, sefydliadau cymunedol a gwirfoddol i ddweud eu dweud ar gynigion polisi newydd i arbed arian, o bob rhan o wasanaethau'r Cyngor. Fel Awdurdod, rydym wedi gweithio'n galed i gyfyngu ar nifer y newidiadau polisi sy'n cael eu cyflwyno ar gyfer ymgynghori eleni i leihau'r effaith ar ein preswylwyr.
Mae amseriad ein hymgynghoriad yn unol â chyllideb Llywodraeth y DU a chyllideb dros dro Llywodraeth Cymru.
Bydd y Cynghorwyr yn ystyried y farn a fynegir yn yr ymgynghoriad hwn, ochr yn ochr â chynigion gweithredol, gwerth hyd at tua £7.5 miliwn pan gaiff y gyllideb ei chymeradwyo'n derfynol gan y Cyngor Llawn ym mis Mawrth 2025.
Mae'r cyfnod ymgynghori ynghylch y gyllideb yn dod i ben ar 26 Ionawr 2025.
Sut i gymryd rhan
Gallwch roi gwybod i ni beth yw eich barn drwy gwblhau ein harolwg cyllideb ar-lein.
Fel arall, gallwch ofyn am gopi papur yn unrhyw un o'n canolfannau Hwb.
Camau nesaf
Bydd yr holl farn a gyflwynir yn ystod y cyfnod ymgynghori yn cael ei ddadansoddi fel rhan o adroddiad ymgynghori cyllideb. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei ystyried gan gynghorwyr wrth bennu cyllideb 2025/28 y cyngor.
Bydd copi o'r adroddiad ymgynghori cyllideb ar gael i'w weld ar wefan y Cyngor ym mis Mawrth 2025.