Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
Diweddarwyd y dudalen ar: 04/04/2024
Mae'r newidiadau isod yn berthnasol i'r etholwyr hynny sy'n ystyried gwneud cais am bleidleisio drwy'r post neu benodi rhywun i bleidleisio ar eu rhan, a elwir yn ddirprwy.
Newidiadau i bleidleisio drwy'r post:
Etholiadau Seneddol ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu
Byddwch yn gallu gwneud cais am bleidlais drwy'r post ar gyfer etholiadau Seneddol ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu drwy system ar-lein llywodraeth ganolog newydd. Bydd yn ofynnol cadarnhau hunaniaeth etholwyr sy'n gwneud cais am bleidlais drwy'r post ar gyfer y ddau fath hyn o etholiad gan ddefnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau, a hynny wrth wneud cais ar-lein ond hefyd wrth lenwi cais papur.
Bydd eich cais am y ddau fath hyn o etholiad yn para am hyd at dair blynedd. Bydd angen i chi wneud cais newydd erbyn y trydydd 31 Ionawr ar ôl i'ch cais gael ei ganiatáu. Bydd hysbysiad o'r angen i wneud cais newydd yn cael ei anfon cyn hyn ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.
Mewn etholiadau Seneddol neu etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, bydd terfyn hefyd ar faint o bleidleisiau drwy'r post y caiff etholwr eu cyflwyno mewn unrhyw orsaf bleidleisio neu adeilad cyngor. Byddwch yn cael cyflwyno eich un eich hun, a hyd at bump arall.
Yn y ddau fath hyn o etholiad, bydd pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr yn cael eu gwahardd rhag ymdrin â phecynnau pleidleisio drwy'r post ar ran etholwyr oni bai eu bod yn cyflwyno eu pleidlais eu hunain, perthynas agos neu rywun y maen nhw'n darparu gofal rheolaidd iddo neu y darperir gofal rheolaidd iddo gan sefydliad sy'n eu cyflogi neu'n eu defnyddio.
Cyflwyno pleidleisiau post â llaw – cofiwch:
Os byddwch yn colli'r post, gallwch gyflwyno eich pleidlais bost a/neu bleidlais bost pobl eraill yn swyddfeydd canlynol y Cyngor yn ystod oriau agor y swyddfa:
- Bloc 4, Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin, SA31 1HQ
- Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerfyrddin, Uned 22, Rhodfa'r Santes Catrin, Caerfyrddin, SA22 1GA
- Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Llanelli, 36 Stryd Stepney, Llanelli SA15 3TR
- Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Rhydaman, 41 Stryd y Cei, Rhydaman, SA18 3BS
Neu cyn 10pm mewn unrhyw orsaf bleidleisio yn y Sir ar ddiwrnod yr etholiad.
Byddwch yn cael ffurflen y mae'n rhaid i chi ei chwblhau er mwyn i'r pleidlais/pleidleisiau post rydych yn eu cyflwyno gael eu derbyn.
Gallwch gyflwyno eich pleidlais bost eich hun neu bleidleisiau post ar gyfer hyd at 5 etholwr arall.
Etholiadau'r Senedd a Llywodraeth Leol
Yn achos etholiadau'r Senedd a Llywodraeth Leol ni fyddwch yn gallu gwneud cais ar-lein am bleidlais drwy'r post ond bydd yn rhaid i chi lenwi cais papur. Gallwch ofyn am un o'r ffurflenni hyn gan eich swyddfa etholiadau neu fynd ar-lein i lawrlwytho'r ffurflen hon o wefan y Comisiwn Etholiadol. Nid oes angen cadarnhau ID ar gyfer y ddau fath hyn o etholiad.
Gall eich cais am y ddau fath hyn o etholiad bara am gyfnod amhenodol ar yr amod eich bod yn parhau i adnewyddu eich llofnod bob pum mlynedd. Bydd cais am adnewyddu eich llofnod yn cael ei anfon atoch gan y swyddfa etholiadau ar yr adeg ofynnol.
Ar gyfer etholwyr sydd â threfniant pleidlais drwy'r post ar waith cyn 31 Hydref 2023 - nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall. Bydd y swyddfa etholiadau yn cysylltu â chi pan fydd angen i chi adnewyddu eich pleidleisiau drwy'r post ar gyfer pob math o etholiad.
Pryd y bydd y newidiadau yn dod i rym?
- Disgwylir i'r broses gwneud cais bob tair blynedd i bleidleiswyr drwy'r post sy'n gwneud cais ar gyfer Etholiadau Seneddol ac Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ddechrau o fis Hydref 2023. Ni fydd angen i etholwyr sydd â threfniant pleidlais drwy'r post presennol ar waith cyn i'r newidiadau ddod i rym wneud unrhyw beth tan 31 Ionawr 2026, ond bydd y Tîm Etholiadau yn cysylltu â chi cyn y dyddiad hwn ynghylch y trefniadau pontio.
- Disgwylir i'r rheolau ynghylch cyfrinachedd a phwy sy'n cael ymdrin â phleidleisiau drwy'r post ar gyfer y mathau uchod o etholiad fod ar waith ar gyfer etholiadau sy'n cael eu cynnal ar 2 Mai 2024 neu ar ôl hynny.
- Disgwylir ceisiadau pleidleisio absennol ar-lein a gorfod gwneud cais ar wahân ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol o fis Hydref 2023.
Newidiadau i bleidleisio drwy ddirprwy
Etholiadau Seneddol ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu
Bydd newidiadau i'r terfyn ar faint o bobl y caiff pleidleisiwr fod yn ddirprwy ar eu cyfer. Ar hyn o bryd caiff person fod yn ddirprwy ar gyfer nifer diderfyn o berthnasau agos a dau etholwr arall. O dan y rheolau newydd ar gyfer y mathau hyn o etholiad, byddai pleidleiswyr yn cael eu cyfyngu i fod yn ddirprwy ar gyfer pedwar o bobl, a dim ond dau ohonynt sy'n cael bod yn etholwyr domestig sy'n byw yn y DU waeth beth fo'u perthynas (neu uchafswm o 4 o bobl, lle mae 2 berson yn byw yn y DU a 2 berson wedi'u cofrestru fel rhai sy'n byw dramor).
Etholiadau'r Senedd ac etholiadau Llywodraeth Leol
Nid oes unrhyw newid i'r rheolau cyfredol h.y., cewch fod yn ddirprwy i ddim mwy na dau etholwr, ac eithrio lle maen nhw'n ŵr neu'n wraig, yn bartner sifil, yn rhiant, yn fam-gu neu'n dad-cu, yn frawd, yn chwaer, yn blentyn neu'n ŵyr yr etholwr.
Pryd y bydd y newid hwn yn dod i rym?
Disgwylir y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym o 23 Hydref.
Yn achos etholwyr sydd â dirprwy wedi'i benodi cyn 31 Hydref 23:
Bydd angen i bob etholwr presennol (domestig a thramor) sydd â threfniant dirprwy ar waith cyn 31 Hydref 2023 wneud cais newydd erbyn 31 Ionawr 2024. Bydd y tîm etholiadau yn cysylltu â chi ac yn rhoi digon o rybudd a chymorth i chi ddiweddaru eich trefniadau.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Cyfnewidfa Trafnidiaeth Aml-ddull Llanelli
- Gwelliannau ar yr A484 Heol y Sandy (Heol y Sandy/Maes y Coed)
- Ymgynghoriad - Strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Glas Ddrafft
- Ymgynghoriad ar y Strategaeth Gyhoeddus Ddrafft - Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2025
- Gwelliannau Teithio Llesol Llanymddyfri
- Arolwg Chwarae Cyngor Sir Gâr 2024
- Strategaeth Trafnidiaeth Gymunedol ar gyfer Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Canllaw Dylunio Tu Blaen Siop Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Ardaloedd Cadwraeth: Canllaw Hanfodol i'w Gwella
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Atgyweirio, Cynnal a Chadw ac Effeithlonrwydd Ynni Priodol mewn Adeiladau Traddodiadol: Canllawiau ar Gyfer Cynaliadwyedd
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Methodoleg ar gyfer Pennu Safleoedd o Bwys ar gyfer Cadwraeth Natur yn Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Mannau Agored
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Y Gymraeg
- Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth
- Teithio Llesol Caerfyrddin
- Ymgysylltiad Teithio Llesol Llanelli
- Adolygiad o’r polisi trwyddedu
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Anghenion Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid STAR
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024 Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Terfynau Cyflymder 20mya
- Ymgynghoriad ar Leoedd Actif
- Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2024
- Trwyddedu Bridio Cŵn yn Sir Gaerfyrddin
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
Strategaethau a chynlluniau
- Polisi Diogelu Corfforaethol Tachwedd 2023
- Strategaeth Ddigidol 2024 -2027
- Strategaeth Moderneiddio Addysg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2023-24
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod y Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiadau'r Senedd 2026
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Hysbysiad o Swydd
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
- Adolygiad Cymunedol - Ardaloedd Cyngor Cymuned Llanboidy a Hendy-gwyn ar Daf