Proffil Iaith Sir Gâr

Diweddarwyd y dudalen ar: 09/06/2023

Data cyfrifiad 2011 yw prif ffynhonnell wybodaeth ar sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru. Yn dilyn y cyfrifiad, comisiynwyd adroddiad manwl o sefyllfa’r Gymraeg i fynd dan groen y ffigurau moel. Mae'r ddogfen 'Y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin' yn dadansoddi ffigurau siaradwyr Cymraeg, lefelau hyder siaradwyr Cymraeg, lefelau trosglwyddo iaith yn y cartref a llawer mwy a hynny gan roi sylw i lefel gymunedol fesul ward o fewn y sir. Mae’r ddogfen yn gosod sail amhrisiadwy ar gyfer gwaith cynllunio ieithyddol o fewn y sir.

Yn ogystal â data’r Cyfrifiad, mae yna wybodaeth ar gael ar ddefnydd y Gymraeg yn benodol yn 'Y Defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru 2013-15'. Ceir ychydig o ddata sirol ar dudalennau 32, 43, 74 a 94 sy’n dynodi nifer a rhuglder siaradwyr Cymraeg, pa mor aml mae’n trigolion y sir yn siarad Cymraeg a faint o ddefnydd o’r Gymraeg a wneir yn y gweithle.

Mae yna broffiliau iaith wedi eu gwneud yn y sir gan y mentrau iaith yn ogystal. Gellir gwêl rhain wrth gysylltu gyda iaithcymraeg@sirgar.gov.uk.

proffil iaith sir gaerfyrddin (.PDF)

Cyngor a Democratiaeth