Recriwtio ar gyfer etholiadau

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/02/2024

Mae Swyddog Canlyniadau Cyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn am geisiadau o ddiddordeb gan aelodau o'r cyhoedd sy'n dymuno bod yn rhan o gronfa o staff etholiadol achlysurol ac sydd am gael eu hystyried ar gyfer gwaith etholiadol achlysurol.

Rôl a dyletswyddau:

Mae'r rolau'n cynnwys gweithio yn un o'r gorsafoedd pleidleisio niferus ledled y Sir fel Swyddog Llywyddu neu Glerc Pleidleisio, gweithio fel cynorthwyydd gweinyddol achlysurol yn y swyddfa etholiadau, cynorthwyydd pleidleisiau drwy'r post sy'n ymwneud ag agor pleidleisiau drwy'r post neu weithio fel cynorthwyydd cyfrif yn didoli, dilysu a chyfrif pleidleisiau ar ôl yr etholiad.

Mae'r holl staff yn cael eu penodi a'u cyflogi gan y Swyddog Canlyniadau nid Cyngor Sir Caerfyrddin ac felly nid yw polisïau a gweithdrefnau recriwtio arferol y cyngor yn berthnasol i'r swyddi dros dro hyn. 

Rydym yn adolygu ein ffioedd ar hyn o bryd, a bydd y rhain yn cael eu diweddaru'n fuan.

Gofynion:

Rydym yn chwilio am unigolion cyfeillgar a phroffesiynol gyda'r cymwyseddau canlynol:

  • Sgiliau pobl / cyfathrebu da
  • Y gallu i beidio â chynhyrfu 
  • Yn rhoi sylw i fanylion ac yn deall pwysigrwydd cywirdeb
  • Trin eraill yn ddiduedd gyda pharch
  • Bod yn barod i fynychu'r holl hyfforddiant a ddarperir

Yn ogystal â'r uchod, mae'n rhaid i holl staff yr etholiad fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Bod yn 18 oed o leiaf 
  • Bod â hawl i weithio yn y DU (yn unol â darpariaethau Deddf Lloches a Mewnfudo 1996) a rhaid i chi ddarparu prawf o'r hawl i weithio yn y DU gyda'r dystiolaeth ofynnol wrth gyflwyno cais.
  • Ddim yn gweithio ar ran ymgeisydd yn ystod ymgyrch etholiad
  • Rhaid i staff y gorsafoedd pleidleisio a'r cyfrif gydsynio i weithio mwy na'r oriau gwaith arferol y darperir ar eu cyfer gan y gyfarwyddeb oriau gwaith

Os ydych yn bodloni'r meini prawf uchod ac os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Sut i wneud cais:

Gallwch fynegi eich diddordeb drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Cyngor a Democratiaeth