Pam yr ydym wedi ymgynghori

Wrthi’n cael ei archwilio ar hyn o bryd, mae’r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig 2018-2033 yn nodi fframwaith ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio ac yn arwain twf yn Sir Gaerfyrddin (ac eithrio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog).

Defnyddir Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) fel ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, mae’r canllawiau yn helpu i gefnogi’r defnydd o bolisïau’r CDLl a sicrhau eu bod yn cael eu deall a’u defnyddio’n fwy effeithiol.

Rydym yn awyddus i dderbyn adborth gan bawb sydd â diddordeb.

 

Dogfennau Ategol

Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Methodoleg ar gyfer Pennu Safleoedd o Bwys ar gyfer Cadwraeth Natur yn Sir Gaerfyrddin

 

Y Camau Nesaf

Ar ôl ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd, bydd y CCA drafft ynghyd ag unrhyw welliannau arfaethedig yn cael eu cyflwyno i'r cyngor i'w hystyried maes o law.