Y Cyngor

Rydym yn un o'r cyflogwyr mwyaf a mwyaf amrywiol yn Ne-orllewin Cymru, gan gyflogi dros 9000 o weithwyr sy'n darparu gwasanaethau ar draws sir wledig i boblogaeth o ryw 187,900 (Cyfrifiad 2021). Mae'r Cyngor yn cynnwys 75 o Gynghorwyr etholedig, o amrywiaeth o grwpiau Gwleidyddol, sy'n cynrychioli 51 Ward Etholiadol. Maent fel arfer yn cwrdd ar ffurf Cyngor bob mis.

Etholir cynghorwyr gennych chi i gynrychioli eich barn pan fyddant yn gwneud penderfyniadau ynghylch gwasanaethau a materion sy'n effeithio ar y gymuned leol. Mae ganddynt nifer o rolau a chyfrifoldebau ac mae angen iddynt gydbwyso anghenion a buddiannau eu cymuned, eu plaid wleidyddol neu eu grŵp ag anghenion trigolion yr ardal yn gyffredinol.

Maent yn gwneud penderfyniadau am wasanaethau lleol, cyllidebau, lefel gyffredinol gwasanaethau'r Cyngor a lefel Treth y Cyngor sydd i'w chodi bob blwyddyn. Etholir pob Cynghorydd i gynrychioli ardal benodol (Ward Etholiadol) ac fel arfer bydd yn gwasanaethu am gyfnod o bedair blynedd (pryd bydd yn rhaid iddynt sefyll eto os ydynt am gael eu hail-ethol). Yn lleol, mae eu gwaith yn cynnwys:

  • cynnal cymorthfeydd i helpu pobl leol
  • cefnogi sefydliadau lleol
  • ymgyrchu ynghylch materion lleol
  • datblygu cysylltiadau â phob rhan o'r gymuned, a bod yn arweinyddion cymunedol.

Y Cabinet

Deg o aelodau'r Cyngor sydd ar y Cabinet, ac maent yn cynnwys Arweinydd y Cyngor. Y Cabinet sy'n gyfrifol am wneud mwyafrif penderfyniadau pwysig y Cyngor a phenderfynu sut mae defnyddio hadnoddau i ddarparu gwasanaethau i'r sir. Aelodau'r Cabinet sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau oddi mewn i feysydd penodol o ddiddordeb, a elwir yn bortffolios.

Y Tîm Rheoli Corfforaethol

Y Tîm Rheoli Corfforaethol, dan arweiniad y Prif Weithredwr, sy'n goruchwylio gweithrediad gwasanaethau'r cyngor o ddydd i ddydd. Mae pump chyfarwyddiaeth yn strwythur corfforaethol y Cyngor:

  1. Y Prif Weithredwr
  2. Addysg a Phlant
  3. Gwasanaethau Corfforaethal
  4. Cymunedau
  5. Lle, Seilwaith a Datblygu Economaidd

Uned y Gwasanaethau Democrataidd

Uned y Gwasanaethau Democrataidd sy'n gweinyddu cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a Phwyllgorau'r Cyngor. Gan gynhyrchu agendâu cyfarfodydd, mynychu cyfarfodydd a chofnodi'r penderfyniadau a wneir, yn ogystal â rhoi cyngor ar y gyfraith a'r dull o gynnal cyfarfodydd i Gynghorwyr, swyddogion a'r cyhoedd. Mae'r uned hefyd yn rhoi cefnogaeth weinyddol i bob un o'r 75 Cynghorydd. Bydd yr uned yn eich cynghori ar eich hawliau i fynychu cyfarfodydd a sut mae mynd ati i gyflwyno deisebau neu unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych ynghylch sut mae'r Cyngor a'i Bwyllgorau'n gweithio.

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau