Yn yr adran hon
- Rhageiriau
- Ein gweledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin
- Beth yw Strategaeth Ddigidol?
- Sut y gwneir cynlluniau: Cysoni Lleol, Rhanbarthol a Chenedlaethol
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
- Amcanion Llesiant Sir Gaerfyrddin
- Nodau Llesiant Cymru
- Ymgysylltu a Chynnwys
- Partneriaethau a Chydweithio
- Llywodraethu: Ein Rhaglen Drawsnewid
Rhageiriau
Rhagair gan yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu
Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r Strategaeth Ddigidol newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin 2024 – 2027.
Mae’r Strategaeth hon yn dilyn ein llwybr parhaus tuag at ddyfodol sydd wedi’i rymuso’n ddigidol i’n trigolion, ein cymunedau, ein gwasanaethau cyhoeddus, ein busnesau a’n heconomi. Rydym yn rhagweld dyfodol lle bydd arloesedd, hygyrchedd a chynaliadwyedd yn dod ynghyd i wella ansawdd bywyd i bawb. Wrth graidd ein strategaeth mae’r ffocws diwyro ar ein trigolion, gan sicrhau eu bod nid yn unig yn derbyn gwasanaethau cyhoeddus o safon ond yn gyfranogwyr gweithredol wrth lunio tirlun digidol sy’n diwallu eu hanghenion esblygol.
Cymunedau sydd wrth galon Sir Gaerfyrddin, ac mae'r Strategaeth hon yn ceisio eu plethu ynghyd drwy gysylltedd a chydweithio. Drwy feithrin cynhwysiant digidol, ein nod yw pontio’r gagendor digidol, gan sicrhau bod pob cymuned, waeth beth fo’i lleoliad, yn gallu harneisio buddion yr oes ddigidol.
Mae’r strategaeth hon yn tystio i'n hymrwymiad i beidio â gadael neb ar ôl, ac i adeiladu sir gysylltiedig lle bydd gwybodaeth yn llifo'n ddirwystr. Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn hanfodol er llesiant cymunedau. Mae'r Strategaeth hon yn ymdrechu i wneud y gwasanaethau hyn yn fwy effeithlon, ymatebol a hygyrch. Drwy wneud defnydd doeth o ddulliau digidol, data a thechnoleg, rydym yn anelu i barhau i symleiddio prosesau, lleihau biwrocratiaeth a chreu sector cyhoeddus sy'n ystwyth ac yn ymateb i anghenion trigolion.
Mae Sir Gaerfyrddin yn gartref i gymuned fusnes fywiog, a bydd ein Strategaeth yn helpu i ddatgloi cyfleoedd newydd i dyfu ac arloesi. Drwy barhau i groesawu dulliau digidol, data a thechnoleg, rydym yn helpu i rymuso ein busnesau i gystadlu, gan feithrin amgylchedd lle gall entrepreneuriaeth ffynnu, a lle bydd pawb yn rhannu ffyniant economaidd.
Fel stiwardiaid ein hamgylchedd, ni allwn anwybyddu'r rheidrwydd i sicrhau dyfodol sero net. Mae ein Strategaeth Ddigidol yn cyd-fynd â’r ymrwymiad hwn drwy fanteisio ar dechnoleg i leihau ein hôl troed carbon, gwella effeithlonrwydd ynni, a hyrwyddo arferion cynaliadwy.
Bydd mentrau digidol yn cael eu cynllunio gyda chynhwysiant mewn golwg, gan helpu i sicrhau bod ein hunaniaeth, ein treftadaeth a’n hiaith yn parhau i ffynnu, a'u bod yn rhan annatod o’n ffordd fodern o fyw. Mae’r Strategaeth Ddigidol hon yn tystio i'n cyd-weledigaeth am ddyfodol lle mae dulliau digidol, data a thechnoleg yn rym er daioni, yn cyfoethogi bywydau ein trigolion, yn cryfhau ein cymunedau ac yn sbarduno ein heconomi ymlaen.
Gyda’n gilydd, bydded inni barhau i groesawu'r cyfleoedd a gynigir gan yr oes ddigidol, gan wneud Sir Gaerfyrddin yn enghraifft ddisglair o gymuned sydd wedi'i galluogi'n ddigidol ac sy'n gynaliadwy am genedlaethau i ddod.
Y Cynghorydd Philip Hughes
Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu
Rhagair gan Brif Weithredwr y Cyngor
Croeso i Strategaeth Ddigidol Cyngor Sir Caerfyrddin 2024 – 2027.
Ar dirlun dynamig yr unfed ganrif ar hugain, nid mater o ddewis, ond rheidrwydd, yw canlyn cynnydd ac arloesi. Mewn byd lle mae datblygiadau digidol, data a thechnoleg yn parhau i ailddiffinio’r ffordd rydym yn byw, yn gweithio ac yn rhyngweithio â'n gilydd, ni fu ein hymrwymiad i foderneiddio erioed mor bwysig.
Mae’r strategaeth hon yn dangos ein hymrwymiad parhaus i wella gwasanaethau cyhoeddus, gwella llesiant ein trigolion, meithrin amgylchedd sy'n ffafriol i fusnesau, a bywiogi'r economi leol. Wrth lywio'r gwaith hwn, rwy'n falch o arwain tîm sy'n meddwl ymlaen, ac sy'n deall mor hanfodol yw croesawu dulliau arloesol er mwyn gwella ein Sir.
Mae mwy i foderneiddio ein gwasanaethau na mabwysiadu'r technolegau diweddaraf. Mae'n golygu esblygu a newid ein dull sylfaenol o wasanaethu ein trigolion a'n busnesau. Drwy fanteisio ar ddulliau digidol, data a thechnoleg, ein nod yw gwneud gwasanaethau cyhoeddus yn fwy hygyrch, effeithlon ac wedi'u cynllunio i gyd-fynd ag anghenion esblygol ein cwsmeriaid.
Mae'r strategaeth hon yn tanlinellu ein hymrwymiad i gynnig profiad di-dor i bawb gan roi lle creiddiol i'r defnyddiwr. Mae ein trigolion wrth galon y newid hwn. Rydym yn cydnabod y gall dulliau digidol, data a thechnoleg fod yn arfau pwerus i sicrhau bod ganddynt fynediad at y cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Mae’r strategaeth hon yn amlinellu ein cynlluniau i harneisio potensial datblygiadau digidol i wella profiad ein trigolion wrth ddefnyddio gwasanaethau. Drwy sicrhau bod ein cymunedau'n cymryd rhan ac yn cael eu cynnwys yn nyluniad a darpariaeth ein gwasanaethau, ceir trawsnewid gwirioneddol gynaliadwy.
Byddwn yn trawsnewid ac yn integreiddio'r gwasanaeth a ddarperir o'r dechrau i'r diwedd drwy holl daith y gwasanaeth. Gan gydnabod y berthynas rhwng busnesau lleol a’n cymunedau, mae’r strategaeth hon yn rhoi pwyslais cryf ar greu amgylchedd sy’n ffafriol i dwf a ffyniant. Drwy feithrin datblygiadau arloesol, cefnogi twf ac entrepreneuriaeth, a symleiddio prosesau, rydym yn anelu i fod yn gatalydd ar gyfer datblygiad economaidd yn Sir Gaerfyrddin.
Gyda’n gilydd, byddwn yn adeiladu sylfaen ddigidol sydd nid yn unig yn bodloni gofynion y presennol ond hefyd yn paratoi’r ffordd am ddyfodol cynaliadwy. Bydd y Strategaeth Ddigidol yn cael ei hadolygu’n flynyddol, a byddwn yn adrodd ar ein cynnydd yn ein Hadroddiad Blynyddol.
Mae angen inni barhau i groesawu potensial yr oes ddigidol i adeiladu Sir Gaerfyrddin sy'n fwy craff, yn fwy cysylltiedig a chydnerth er budd cenedlaethau'r dyfodol.
Wendy Walters
Y Prif Weithredwr
Gallai mabwysiadu technoleg ddigidol yn eang roi hwb posibl o
£520 biliwni economi'r DU erbyn 2030.
Mae
5,500
o fusnesau technoleg ddigidol yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda throsiant cyfunol o £12.3 biliwn.
Y budd economaidd posibl sy'n gysylltiedig â mynd i'r afael ag allgáu digidol yng Nghymru erbyn 2030 yw
£5.6 biliwn
Mae
1.9 million
o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector digidol yn y DU.