Strategaeth Ddigidol 2024 -2027

Rhageiriau

Rhagair gan yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu


Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r Strategaeth Ddigidol newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin 2024 – 2027.

Mae’r Strategaeth hon yn dilyn ein llwybr parhaus tuag at ddyfodol sydd wedi’i rymuso’n ddigidol i’n trigolion, ein cymunedau, ein gwasanaethau cyhoeddus, ein busnesau a’n heconomi. Rydym yn rhagweld dyfodol lle bydd arloesedd, hygyrchedd a chynaliadwyedd yn dod ynghyd i wella ansawdd bywyd i bawb. Wrth graidd ein strategaeth mae’r ffocws diwyro ar ein trigolion, gan sicrhau eu bod nid yn unig yn derbyn gwasanaethau cyhoeddus o safon ond yn gyfranogwyr gweithredol wrth lunio tirlun digidol sy’n diwallu eu hanghenion esblygol.
Cymunedau sydd wrth galon Sir Gaerfyrddin, ac mae'r Strategaeth hon yn ceisio eu plethu ynghyd drwy gysylltedd a chydweithio. Drwy feithrin cynhwysiant digidol, ein nod yw pontio’r gagendor digidol, gan sicrhau bod pob cymuned, waeth beth fo’i lleoliad, yn gallu harneisio buddion yr oes ddigidol.
Mae’r strategaeth hon yn tystio i'n hymrwymiad i beidio â gadael neb ar ôl, ac i adeiladu sir gysylltiedig lle bydd gwybodaeth yn llifo'n ddirwystr. Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn hanfodol er llesiant cymunedau. Mae'r Strategaeth hon yn ymdrechu i wneud y gwasanaethau hyn yn fwy effeithlon, ymatebol a hygyrch. Drwy wneud defnydd doeth o ddulliau digidol, data a thechnoleg, rydym yn anelu i barhau i symleiddio prosesau, lleihau biwrocratiaeth a chreu sector cyhoeddus sy'n ystwyth ac yn ymateb i anghenion trigolion.
Mae Sir Gaerfyrddin yn gartref i gymuned fusnes fywiog, a bydd ein Strategaeth yn helpu i ddatgloi cyfleoedd newydd i dyfu ac arloesi. Drwy barhau i groesawu dulliau digidol, data a thechnoleg, rydym yn helpu i rymuso ein busnesau i gystadlu, gan feithrin amgylchedd lle gall entrepreneuriaeth ffynnu, a lle bydd pawb yn rhannu ffyniant economaidd.
Fel stiwardiaid ein hamgylchedd, ni allwn anwybyddu'r rheidrwydd i sicrhau dyfodol sero net. Mae ein Strategaeth Ddigidol yn cyd-fynd â’r ymrwymiad hwn drwy fanteisio ar dechnoleg i leihau ein hôl troed carbon, gwella effeithlonrwydd ynni, a hyrwyddo arferion cynaliadwy.
Bydd mentrau digidol yn cael eu cynllunio gyda chynhwysiant mewn golwg, gan helpu i sicrhau bod ein hunaniaeth, ein treftadaeth a’n hiaith yn parhau i ffynnu, a'u bod yn rhan annatod o’n ffordd fodern o fyw. Mae’r Strategaeth Ddigidol hon yn tystio i'n cyd-weledigaeth am ddyfodol lle mae dulliau digidol, data a thechnoleg yn rym er daioni, yn cyfoethogi bywydau ein trigolion, yn cryfhau ein cymunedau ac yn sbarduno ein heconomi ymlaen.
Gyda’n gilydd, bydded inni barhau i groesawu'r cyfleoedd a gynigir gan yr oes ddigidol, gan wneud Sir Gaerfyrddin yn enghraifft ddisglair o gymuned sydd wedi'i galluogi'n ddigidol ac sy'n gynaliadwy am genedlaethau i ddod.

Y Cynghorydd Philip Hughes
Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu

Rhagair gan Brif Weithredwr y Cyngor


Croeso i Strategaeth Ddigidol Cyngor Sir Caerfyrddin 2024 – 2027.

Ar dirlun dynamig yr unfed ganrif ar hugain, nid mater o ddewis, ond rheidrwydd, yw canlyn cynnydd ac arloesi. Mewn byd lle mae datblygiadau digidol, data a thechnoleg yn parhau i ailddiffinio’r ffordd rydym yn byw, yn gweithio ac yn rhyngweithio â'n gilydd, ni fu ein hymrwymiad i foderneiddio erioed mor bwysig.
Mae’r strategaeth hon yn dangos ein hymrwymiad parhaus i wella gwasanaethau cyhoeddus, gwella llesiant ein trigolion, meithrin amgylchedd sy'n ffafriol i fusnesau, a bywiogi'r economi leol. Wrth lywio'r gwaith hwn, rwy'n falch o arwain tîm sy'n meddwl ymlaen, ac sy'n deall mor hanfodol yw croesawu dulliau arloesol er mwyn gwella ein Sir.
Mae mwy i foderneiddio ein gwasanaethau na mabwysiadu'r technolegau diweddaraf. Mae'n golygu esblygu a newid ein dull sylfaenol o wasanaethu ein trigolion a'n busnesau. Drwy fanteisio ar ddulliau digidol, data a thechnoleg, ein nod yw gwneud gwasanaethau cyhoeddus yn fwy hygyrch, effeithlon ac wedi'u cynllunio i gyd-fynd ag anghenion esblygol ein cwsmeriaid.
Mae'r strategaeth hon yn tanlinellu ein hymrwymiad i gynnig profiad di-dor i bawb gan roi lle creiddiol i'r defnyddiwr. Mae ein trigolion wrth galon y newid hwn. Rydym yn cydnabod y gall dulliau digidol, data a thechnoleg fod yn arfau pwerus i sicrhau bod ganddynt fynediad at y cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Mae’r strategaeth hon yn amlinellu ein cynlluniau i harneisio potensial datblygiadau digidol i wella profiad ein trigolion wrth ddefnyddio gwasanaethau. Drwy sicrhau bod ein cymunedau'n cymryd rhan ac yn cael eu cynnwys yn nyluniad a darpariaeth ein gwasanaethau, ceir trawsnewid gwirioneddol gynaliadwy.
Byddwn yn trawsnewid ac yn integreiddio'r gwasanaeth a ddarperir o'r dechrau i'r diwedd drwy holl daith y gwasanaeth. Gan gydnabod y berthynas rhwng busnesau lleol a’n cymunedau, mae’r strategaeth hon yn rhoi pwyslais cryf ar greu amgylchedd sy’n ffafriol i dwf a ffyniant. Drwy feithrin datblygiadau arloesol, cefnogi twf ac entrepreneuriaeth, a symleiddio prosesau, rydym yn anelu i fod yn gatalydd ar gyfer datblygiad economaidd yn Sir Gaerfyrddin.
Gyda’n gilydd, byddwn yn adeiladu sylfaen ddigidol sydd nid yn unig yn bodloni gofynion y presennol ond hefyd yn paratoi’r ffordd am ddyfodol cynaliadwy. Bydd y Strategaeth Ddigidol yn cael ei hadolygu’n flynyddol, a byddwn yn adrodd ar ein cynnydd yn ein Hadroddiad Blynyddol.
Mae angen inni barhau i groesawu potensial yr oes ddigidol i adeiladu Sir Gaerfyrddin sy'n fwy craff, yn fwy cysylltiedig a chydnerth er budd cenedlaethau'r dyfodol.

Wendy Walters
Y Prif Weithredwr

Gallai mabwysiadu technoleg ddigidol yn eang roi hwb posibl o

£520 biliwni economi'r DU erbyn 2030.

Mae

5,500

o fusnesau technoleg ddigidol yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda throsiant cyfunol o £12.3 biliwn.

Y budd economaidd posibl sy'n gysylltiedig â mynd i'r afael ag allgáu digidol yng Nghymru erbyn 2030 yw

£5.6 biliwn

Mae

1.9 million

o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector digidol yn y DU.

Amcangyfrifir mai maint ur economi ddigidol yng Nghymru yw £9.2 biliwn.


Ein gweledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin

Sir Gaerfyrddin sydd wedi'i galluogi'n ddigidol

Blaenoriaethau Allweddol:

  • Gwasanaethau Digidol
  • Pobl a Sgiliau
  • Data a Gwneud Penderfyniadau
  • Technoleg ac Arloesi
  • Cymunedau Digidol a'r Economi

Yn 2023 cafwyd:

1,698,200

Defnyddwyr Unigryw

6,396,300

Ymweliadau â Thudalennau

4,028,700

Ymweliadau / Sesiynau

â gwefan y cyngor

 

Er mwyn gwireddu’r weledigaeth feiddgar hon, rhaid inni:

Dylunio a darparu'n effeithlon wybodaeth a gwasanaethau trafodiadol modern a dwyieithog ar-lein mewn modd cynhwysol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gan feithrin cyfranogiad trigolion a busnesau, a newid a gwella gwasanaethau traddodiadol i wella effeithlonrwydd a hygyrchedd.

Gwasanaethau Digidol >>

Blaenoriaethu ein pobl drwy fuddsoddi yn eu sgiliau a’u gallu digidol, gan ddangos ymrwymiad i werthfawrogi, cydnabod a buddsoddi yn y talentau a'r sgiliau angenrheidiol sy'n gyson â nodau'r strategaeth hon, gan wneud y gorau o'n gweithlu drwy feithrin arferion gwaith modern.

Pobl a Sgiliau >>

Coladu, dadansoddi a thynnu gwerth o ddata er mwyn gwneud penderfyniadau strategol ar sail tystiolaeth a dylunio gwasanaethau, gan fabwysiadu dull data-ganolog o wella'r ddealltwriaeth o anghenion trigolion a busnesau a gwella effeithiolrwydd gwasanaethau.

Data a Gwneud Penderfyniadau >>

Buddsoddi mewn seilwaith a systemau arloesol, cydnerth ac ystwyth sy'n weithredol yn hyrwyddo effeithlonrwydd, cydweithio â phartneriaid, yn blaenoriaethu dull sy'n canolbwyntio ar y dinesydd, yn sicrhau seibergadernid cryf, ac sy'n croesawu technolegau cwmwl, deallusrwydd artiffisial, awtomeiddio, a thechnolegau datblygol eraill.

Technoleg ac Arloesi >>

Hyrwyddo, hwyluso, dylanwadu, cefnogi a buddsoddi yng nghysylltiad ffeibr a symudol ein Sir, yng ngallu digidol ein busnesau a'n cymunedau, ac yn sgiliau a chynhwysiant digidol ein trigolion a'n busnesau, yn rhan o'n portffolio adfywio a datblygu economaidd sylweddol.

Cymunedau Digidol a'r Economi >>

Mae newidiadau digidol wedi prysuro yn y blynyddoedd diwethaf gan gynnig inni ystod o arfau newydd ar gyfer datrys problemau hen a newydd. Yn ei hanfod, mae gan y digidol y potensial i roi cyfle inni wella’n profiad o’r byd: o gyfoethogi bywydau pobl, cryfhau ein gwasanaethau cyhoeddus a gwaith y llywodraeth, yn ogystal â helpu busnesau i addasu i’r dyfodol.

Ffynhonnell: Strategaeth Ddigidol i Gymru - Llywodraeth Cymru

Mae 98% o boblogaeth y DU yn defnyddio ffon clyfar


Beth yw Strategaeth Ddigidol?

Mae ein Strategaeth Ddigidol newydd 2024-2027 yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed dros y pedair blynedd diwethaf wrth inni ymgodi ac ymadfer ar ôl pandemig COVID-19.

Rydym bellach yn canolbwyntio'n llwyr ar gyflawni blaenoriaethau ac amcanion allweddol ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Mae’r Strategaeth Ddigidol newydd hon yn amlinellu’r hyn rydym yn bwriadu ei wneud a sut y byddwn yn manteisio ar y digidol er mwyn gwella ein gweithrediadau beunyddiol, trawsnewid gwasanaethau, a sicrhau bod gan ein Sir y ffabrig digidol sydd ei angen arni er mwyn ffynnu. Er mwyn i ni gyflawni ein gweledigaeth o “Sir Gaerfyrddin sydd wedi'i galluogi'n ddigidol” byddwn yn rhoi pobl wrth galon popeth a wnawn; gwasanaethau cyhoeddus sydd “wedi'u dylunio ar gyfer pobl a’u galluogi gan dechnoleg”.

Mae ein dibyniaeth ar dechnoleg i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn dangos mor hollbresennol yw'r digidol ar draws pob sector, a'r modd y mae wedi integreiddio'n llawn i lawer o agweddau ar ein bywydau. Drwy ddatblygu a gweithredu Strategaeth Ddigidol gytbwys wedi'i llunio'n dda, gallwn barhau i wella ein heffeithlonrwydd, ein tryloywder a'n hymatebolrwydd gan fodloni anghenion ein cymunedau a busnesau yn yr oes ddigidol yn effeithiol.

Llwyddiant:Diwylliant:mesur a Gwella'n Barhaus, Timau Traws-swyddogaethol yn erbyn Seilos,Rhwyddineb Digidol Cryf, Croesawu/Addasol, Ymrwymiad Gweithredol, Cydweithio, Lleihau Risgiau | Strategaeth: Strategaeth Ddigidol, Fframweithiau Penderfynu, Gweledigaeth sydd wedi'i diffinio'n glir, Y Trefniadau Llywodraethu Gorau Posibl. Y gallu i Ailddelweddu'n Ddigidol, Nodau/Canlyniadau Busnes, Newid mawr yn erbyn atebion ar wahan | Technoleg: Cwmwl, Cymdeithasol, Symudolo, Dadansoddi, Awtomeiddio, Cyflenwi ac Integreiddio Parhaus


Sut y gwneir cynlluniau: Cysoni Lleol, Rhanbarthol a Chenedlaethol

Er mwyn sicrhau cysondeb strategol, osgoi achosion o ail-wneud gwaith a chanfod cyfleoedd i sicrhau buddion lluosog, rydym wedi gweithio i sicrhau bod ein Strategaeth Ddigidol yn gyson â chynlluniau a blaenoriaethau sector cyhoeddus lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Bydd y Strategaeth Ddigidol hon yn helpu i sicrhau y gellir cyflawni nifer o’r canlyniadau disgwyliedig a nodir yn Strategaeth Gorfforaethol ddiwygiedig 2022-2027 a Datganiad Gweledigaeth y Cabinet, a bydd hynny yn ei dro yn sail i gyflawni ein 4 nod llesiant, gan gyd-fynd â 7 nod llesiant Cymru.

Er mwyn sicrhau cysondeb a 'llinyn aur' rhwng pob lefel o'r Llywodraeth a phartneriaid a rhanddeiliaid perthnasol, rydym wedi cynllunio a sicrhau bod holl gyflawniadau'r Strategaeth Ddigidol hon yn cyd-fynd â chynlluniau a strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol allweddol, gan gynnwys:

Cenedlaethol

  • Strategaeth Ddigidol i Gymru.
  • Strategaeth Ddigidol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru.
  • Cymraeg 2050: Cynllun Gweithredu Technoleg y Gymraeg.

Rhanbarthol

  • Strategaeth Adfywio Dinas-ranbarth Bae Abertawe.
  • Fframwaith Economaidd Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru.
  • De-orllewin Cymru Ddigidol: Portffolio o Gyfleoedd.

Lleol

  • Strategaeth Gorfforaethol 2022–2027.
  • Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022–2027.
  • Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin.
  • Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2023-28.
  • Strategaeth Trawsnewid Sir Gaerfyrddin 2022-2027.
  • Ein Strategaeth Gweithlu 2024-2029
  • Gweledigaeth Economaidd Sir Gaerfyrddin 2030.
  • Strategaeth Cyllideb Cyngor Sir Caerfyrddin

Er mwyn sicrhau bod y Strategaeth Ddigidol hon yn cael ei chyflawni’n effeithiol, bydd achosion busnes a chynlluniau prosiect yn cael eu datblygu ar gyfer prosiectau a mentrau allweddol. Bydd cynnydd yn cael ei fonitro drwy ein systemau rheoli perfformiad corfforaethol. Dylunnir a chyflwynir pob prosiect a menter yn unol ag egwyddorion y 5 Ffordd o Weithio.

Dylid ystyried agweddau digidol yn rhan o broses ailadroddol a pharhaus. Er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd, a bod ein Strategaeth Ddigidol yn parhau i fod yn ddogfen 'fyw', byddwn yn:

  • Cynnal adolygiad blynyddol, a diwygio a diweddaru'r strategaeth hon lle bo angen.
  • Llunio adroddiad blynyddol ar gyfer y Strategaeth Ddigidol hon.
  • Adolygu a diweddaru'r holl gynlluniau a pholisïau digidol cysylltiedig.
  • Mabwysiadu a chadw at Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru lle bynnag y bo modd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Pwrpas cyffredinol y Ddeddf yw sicrhau bod trefniadau llywodraethu cyrff cyhoeddus ar gyfer gwella llesiant Cymru, yn ystyried anghenion cenedlaethau'r dyfodol.

Nod y Ddeddf yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn unol ag egwyddorion datblygu cynaliadwy.

(a) Mae'n rhaid inni ymgymryd â datblygu cynaliadwy, gan wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

(b) Mae'n rhaid inni ddangos ein bod yn defnyddio'r 5 ffordd o weithio:

  • Cydweithio
  • Integreiddio
  • Cynnwys
  • Hirdymor
  • Atal

(c) Mae'n rhaid inni weithio tuag at gyflawni pob un o'r 7 nod llesiant cenedlaethol yn y Ddeddf:

  • Llewyrchus

    Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy'n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnodday mewn modd effeithion a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy'n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy'n cynhyrchu cyfoeth, gan ganiatau i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael aqr waith addas.

  • Cydnerth

    Cenedl sy'n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy'n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd as ecolegol ynghyd a'r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).

  • Iachach

    Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal a phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiaday sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.

  • Mwy Cyfartal

    Cymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a'u hamgylchiadau cymdeithasol- economaidd).

  • Cymunedau Cydlynus

    Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd a chysylltiadau da.

  • Diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynny

    Cymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a'r Gymraeg ac sy'n annog pobl i gyfranogi yn y celf yddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.

  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang

    Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o'r fath gyfrfannu'n gadarnhaol at lesiant byd-eang.

Cymru oedd y wlad gyntaf i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n cyflwyno gweledigaeth gyffredin i holl gyrff cyhoeddus yng Nghymru weithio tuag ati. Fel corff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf, mae'n ofynnol inni osod a chyhoeddi Amcanion Llesiant sy'n cynyddu ein cyfraniad at y Nodau Llesiant hyd yr eithaf.

Rydym wedi ymgorffori'r Amcanion Llesiant hyn yn Strategaeth Gorfforaethol y cyngor, y mae'r Strategaeth Ddigidol hon wedi'i chysoni'n uniongyrchol â hi, ac yn ei thanategu.

Mae’r Strategaeth Ddigidol hon, a’r holl waith dilynol a gyflawnwyd, yn gyson ag un neu fwy o’n 4 amcan llesiant: sydd yn eu tro yn gyson â 7 nod llesiant Cymru.


Amcanion Llesiant Sir Gaerfyrddin

Amcan Llesiant 1: Galluogi ein plant a’n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau’n Dda)

Amcan Llesiant 2: Galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda (Byw a Heneiddio'n Dda)

Amcan Llesiant 3: Galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus)

Amcan Llesiant 4: Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon (Ein Cyngor)


Nodau Llesiant Cymru

Cymru Lewyrchus

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.

 

Cymru Gydnerth

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).

 

Cymru Iachach

Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle mae modd deall dewisiadau ac ymddygiad sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.

 

Cymru sy’n Fwy Cyfartal

Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).

 

Cymru o Gymunedau Cydlynus

Cymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu hamgylchiadau economaiddgymdeithasol).

 

Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu

Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, chwaraeon a gweithgareddau hamdden.

 

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Gwlad sydd, wrth wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud rhywbeth o’r fath wneud cyfraniad cadarnhaol at lesiant byd-eang.


Ymgysylltu a Chynnwys

Bu cryn ymgysylltu a chynnwys wrth lunio'r strategaeth hon, a bydd y gwaith hwnnw'n parhau hyd ddiwedd oes y strategaeth.

Er mwyn deall anghenion ein trigolion yn well a’r rhwystrau posibl sy’n eu hatal rhag defnyddio technoleg ddigidol, rydym yn eu cynnwys yn uniongyrchol. Am y tro cyntaf, rydym wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i gynnwys trigolion a busnesau yn y gwaith o ddatblygu ein Strategaeth Ddigidol. Rydym hefyd wedi defnyddio adborth o amrywiaeth o ymgyngoriadau cyhoeddus eraill, hy, yr arolwg trigolion, i sicrhau bod ein Strategaeth Ddigidol yn cyd-fynd ag anghenion ein trigolion a busnesau.

Bydd ymgyngoriadau ehangach yn cael eu hystyried yn barhaus wrth iddynt gael eu cynnal. Yn rhan o'n hadolygiad blynyddol o'n Strategaeth Ddigidol, byddwn yn cyflawni gwaith ymgysylltu ac ymgynghori pellach er mwyn cael dealltwriaeth well o anghenion trigolion a busnesau ar sail barhaus.


Partneriaethau a Chydweithio

Er mwyn cryfhau ein trefniadau ar gyfer sicrhau effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a darbodusrwydd trwy weithio mewn partneriaeth i gyflawni’r Strategaeth Ddigidol hon, byddwn yn parhau i gynnal ymarferion mapio rhanddeiliaid rheolaidd i nodi a blaenoriaethu’r sefydliadau y mae angen inni gydweithio â nhw a chanfod cyfleoedd i gydweithio mwy. Byddwn yn adolygu ac yn asesu effeithiolrwydd y partneriaethau hynny'n flynyddol, yn rhan o waith monitro buddion ehangach ac mewn adroddiadau blynyddol.

Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r fforymau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol canlynol i ymgysylltu, ystyried a manteisio ar gyfleoedd i gydweithio'n ehangach â phartneriaid yn y sector cyhoeddus ac osgoi achosion o ail-wneud gwaith.

  • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
  • Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru
  • Is-bwyllgor Lles Economaidd a Datblygiad Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru
  • Bwrdd Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe
  • Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol
  • Grŵp Cynghori Digidol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
  • SOCITM Cymru – Cymdeithas Arloesi, Technoleg a Moderneiddio

Llywodraethu: Ein Rhaglen Drawsnewid

Bydd y Cyngor, drwy ein Bwrdd Trawsnewid sydd newydd ei sefydlu (2022) a’n rhaglen gyflawni, yn parhau i ysgogi'r broses o weddnewid gwasanaethau mewn modd cynlluniedig a chydlynol. Prif nod y Bwrdd Trawsnewid yw darparu fframwaith strategol a threfniadau llywodraethu i danategu rhaglen o newid sefydliadol sylweddol a fydd yn cynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei nodau a'i amcanion ehangach.

Mae'r Bwrdd yn amlinellu sut mae'r sefydliad yn bwriadu gwella ei allu, a sut rydym am ddefnyddio ein hadnoddau i gynnig mwy o werth a buddion i'n trigolion a'n busnesau.

Ei nod yw cyflymu'r broses foderneiddio eto ar draws y Cyngor, gan ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau cost-effeithiol o ansawdd uchel yng nghyd-destun amgylchedd allanol heriol a phwysau cyllidebol.

Mae’r Rhaglen Drawsnewid yn canolbwyntio ar 8 ffrwd waith allweddol:

  • Arbedion a Gwerth am Arian
  • Incwm a Masnacheiddio
  • Y Gweithle
  • Y Gweithlu
  • Cynllunio a Gwella Gwasanaethau
  • Datgarboneiddio a Bioamrywiaeth
  • Ysgolion
  • Cwsmeriaid a Thrawsnewid Digidol

Mae’r Strategaeth Ddigidol hon yn cefnogi ac yn sail i bob un o’r 8 ffrwd gwaith. Mae’r Ffrwd Gwaith Cwsmeriaid a Digidol wedi’i hadlinio er mwyn goruchwylio a llywodraethu dros gyflawniad mentrau digidol o bwys a nodir yn y Strategaeth Ddigidol hon. Un o brif gryfderau'r Bwrdd Trawsnewid yw ei drefniadau llywodraethu cryf i oruchwylio dros reolaeth a chyflawniad y rhaglen.

Mae'n darparu trefniadau llywodraethu cadarn a chynhwysol sy'n anelu i annog a hyrwyddo creadigrwydd, hyblygrwydd a dysgu ar draws y sefydliad, i gefnogi newid a thrawsnewid cynaliadwy. Ceir hefyd ymagwedd gynhwysfawr at reoli prosiectau a pherfformiad i danategu hyn, er mwyn sicrhau bod y canlyniadau gofynnol yn cael eu gweithredu a'u cyflawni'n effeithiol.


Monitro Buddion

Mae trefniadau gwerthuso cryf ar waith i ddeall effaith y Strategaeth Ddigidol hon, i fonitro gwerth am arian, ac i asesu a gafodd buddion eu gwireddu.

Byddwn yn cwblhau adroddiad blynyddol yn rhan o'r trefniadau llywodraethu cyffredinol ar gyfer ein rhaglen trawsnewid corfforaethol. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg o gynnydd wrth weithredu blaenoriaethau a phrosiectau, ôl-werthusiad o'r broses gyflawni a'r canlyniadau a sicrhawyd, gan ddefnyddio data a mesurau lle bo'n briodol; gan gynnwys gwersi a ddysgwyd.

Byddwn yn defnyddio meini prawf a chwestiynau adolygiad thematig Digidol Archwilio Cymru 2023 i lywio ein dull strategol, i fesur ac i asesu ein hunain, ac i ddeall "sut mae ‘da’ yn edrych".

Byddwn yn meincnodi ac yn olrhain ac yn dadansoddi ystod o fetrigau yn rheolaidd ac yn adrodd arnynt yn flynyddol yn rhan o'n hadroddiad blynyddol ar ein Strategaeth Ddigidol. Bydd hynny'n helpu Sir Gaerfyrddin i wneud penderfyniadau deallus, i wella gwasanaethau digidol yn barhaus, a dangos effaith mentrau digidol. Dyma rai mesurau ansoddol a meintiol allweddol y byddwn yn eu defnyddio i fonitro a dadansoddi tueddiadau drwy gydol y broses o ddatblygu'r strategaeth 3 blynedd hon:

Cynhwysiant Digidol

Argaeledd cysylltedd: Mesur argaeledd ac ansawdd cysylltedd digidol (band eang a symudol) ar draws ein Sir.

Sgiliau Digidol: Asesu sgiliau a chymwyseddau digidol ein gweithlu a’r boblogaeth ehangach.

 

Darpariaeth Gwasanaeth

Bodlonrwydd Cwsmeriaid: Mesur bodlonrwydd cwsmeriaid mewnol ac allanol â'n gwasanaethau digidol drwy arolygon a mecanweithiau adborth.

Hygyrchedd Gwasanaethau: Gwerthuso pa mor hygyrch yw ein gwasanaethau digidol, yn unol â safonau hygyrchedd y diwydiant.

Metrigau'r Cyfryngau Cymdeithasol: Monitro’r defnydd o’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Gwefan y Cyngor: Olrhain y defnydd o wefan y cyngor; cyfrif nifer yr ymwelwyr unigryw, ymweliadau â thudalennau, a'r amser a dreulir ar y wefan.

Cylchlythyrau e-bost: Monitro twf y rhestr tanysgrifwyr e-bost; olrhain cyfraddau agor, cyfraddau clicio drwodd, a chyfraddau cadw tanysgrifwyr.

 

Mesurau Seiberddiogelwch a Diogelu Data

Olrhain effeithiolrwydd ein mesurau seiberddiogelwch.

Mesur effeithiolrwydd ein rhaglenni hyfforddiant ymwybyddiaeth seiber a GDPR.

Olrhain nifer a natur y digwyddiadau diogelwch dros amser.

Olrhain nifer a natur y digwyddiadau llywodraethu gwybodaeth dros amser.

Mesur digwyddiadau'n ymwneud â diogelwch sy'n targedu systemau ein cyngor dros amser.

Mesur ein cydymffurfiaeth â safonau'r diwydiant yn flynyddol.

 

Effeithlonrwydd ac Arbedion

Byddwn yn cynnal gwerthusiadau ôl-weithredol a gwireddu buddion ar gyfer prosiectau allweddol. Bydd y rhain yn cynnwys nodi'r costau a gaiff eu harbed drwy weithredu prosesau a gwasanaethau digidol, yr enillion ar fuddsoddiad am fentrau digidol a/neu fuddion eraill fel y capasiti o ran adnoddau neu'r amser a gaiff ei ryddhau yn sgil cyflwyno gwasanaethau digidol mwy effeithiol ac effeithlon.

 

Mabwysiadu Technoleg

Dyfeisiau: Monitro’r nifer a’r math o ddyfeisiau sy’n defnyddio ein gwasanaethau digidol ar-lein hy, ffonau symudol, llechi, ffonau clyfar, gliniaduron ac ati.

Cyfraddau Mabwysiadu Gwasanaethau Ar-lein: Mesur cyfraddau mabwysiadu gwasanaethau ar-lein a gynigir gan y cyngor a'u cymharu â metrigau sianeli traddodiadol hy, ffôn ac wyneb yn wyneb.

 

Cyfathrebu a Chydweithio

Mewnol: Mesur effeithiolrwydd ein hoffer digidol er mwyn cyfathrebu a chydweithio'n fewnol â'n gweithlu.

Allanol: Mesur effeithiolrwydd ein hoffer digidol er mwyn cyfathrebu a chydweithio'n allanol â'n trigolion a busnesau.

Ymgysylltu â Dinasyddion: Byddwn yn gwerthuso ymgysylltiad dinasyddion drwy fforymau ar-lein, y cyfryngau cymdeithasol, a sianeli eraill.

 

Arloesi

Mabwysiadu Technoleg Newydd: Monitro'r graddau y caiff technolegau newydd eu mabwysiadu er mwyn arloesi (deallusrwydd artiffisial, awtomeiddio prosesau robotig ac ati)

Cynnydd Trawsnewid Digidol: Byddwn yn asesu cynnydd mentrau trawsnewid digidol.

Mentrau Di-bapur: Olrhain y gostyngiad yn y defnydd o bapur yn sgil prosesau digidol.

Awtomeiddo a Deallusrwydd Artiffisial: Mesur y graddau y caiff prosesau eu hawtomeiddio i wella effeithlonrwydd.

Y gallu i newid: Cynnal hunanasesiadau aeddfedrwydd digidol rheolaidd ar bob adran a maes gwasanaeth, gan nodi rhannau o'r sefydliad sydd angen cymorth i wella darpariaeth gwasanaeth ac ysgogi arbedion effeithlonrwydd drwy ddulliau digidol.

 

 

Mae 9 o bob 10 busnes sy'n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn dweud ei fod wedi gwella awtomeiddio ac effeithlonrwydd, ac mae 79% wedi arbed costau a 64% wedi cael mwy o refeniw.


Adeiladu Sylfeini Digidol yn Sir Gaerfyrddin

Sir Gaerfyrddin

Sir Gaerfyrddin yw'r sir drydedd fwyaf yng Nghymru. Mae'n ymestyn dros tua 2,365 cilometr sgwâr ac mae ganddi'r boblogaeth fwyaf ond tair, sef 187,900 o bobl. Mae'n sir sy'n llawn gwrthgyferbyniadau. Mae economi a thirlun amaethyddol cefn gwlad Sir Gaerfyrddin yn cydfodoli ochr yn ochr ag ardal drefol a diwydiannol y de-ddwyrain.

Nodweddir y Sir gan dapestri cymdeithasol ac economaidd cyfoethog sy'n adlewyrchu ein harwyddocâd hanesyddol a'n harddwch naturiol. Gyda phoblogaeth sy'n asio cymunedau Cymreig traddodiadol a phresenoldeb amlddiwylliannol cynyddol, mae'r ffabrig cymdeithasol yn amrywiol, gan feithrin ymdeimlad o gydfodolaeth ddiwylliannol.

Mae economi Sir Gaerfyrddin yn amlweddog, gan gwmpasu amaethyddiaeth, twristiaeth a sectorau sy'n dod i'r amlwg fel ynni adnewyddadwy. Mae harddwch y tirlun yn denu ymwelwyr sy'n cyfrannu i'r economi leol. Wrth i Sir Gaerfyrddin ymaddasu i heriau modern, mae'r byd digidol yn chwarae rhan ganolog a chynyddol er mwyn llunio ein dyfodol cymdeithasol ac economaidd.

Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Nod cynnig Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe yw helpu i roi'r rhanbarth ar flaen y gad yn yr oes ddigidol a'r byd yn dilyn COVID-19, gan ganolbwyntio ar ddatblygu Seilwaith Digidol y Genhedlaeth Nesaf, gan gynnwys gwelliannau i ehangu darpariaeth band eang gwibgyswllt sefydlog, a all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit, gallu 4G/5G a di-wifr er budd ardaloedd gwledig a threfol y rhanbarth.

Bydd seilwaith digidol gwell yn galluogi’r rhanbarth i arloesi, treialu a masnacheiddio atebion clyfar ar y rhyngrwyd fydd yn trawsnewid yr economi mewn meysydd fel ynni, gweithgynhyrchu a gwyddorau bywyd.

Bydd hyn yn effeithiol o ran cefnogi gweithio gartref ar raddfa fawr, gwella mynediad i swyddi, codi lefelau cynhyrchiant yn yr economi leol, helpu i fynd i'r afael â phroblemau lleol o ran tagfeydd yn ogystal â chefnogi arloesi/gwelliannau o ran y ddarpariaeth prif ffrwd.


Y Gymraeg

Mae data'r Cyfrifiad diweddaraf ar gyfer 2021 yn dangos bod Sir Gaerfyrddin yn gartref i 72,838 o siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn cyfateb i 39.9% o gyfanswm poblogaeth y sir. Yn 2001 a 2011, Sir Gaerfyrddin oedd â'r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg o blith holl awdurdodau lleol Cymru, gydag 84,196 yn y naill flwyddyn a 78,048 yn y llall. Mae'r Sir ar hyn o bryd yn cynnwys y nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg o blith holl awdurdodau lleol Cymru ond un, ac yn dal i fod yn bedwaredd uchaf o ran canran y boblogaeth sy'n gallu siarad Cymraeg.

Mae’n hanfodol pwysleisio ac ymgorffori’r Gymraeg yn y Strategaeth Ddigidol hon er mwyn sicrhau cysondeb ag ystyriaethau diwylliannol, cyfreithiol, economaidd, addysgol a chymdeithasol. Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o ddatblygiad a llesiant cyfannol Sir Gaerfyrddin yn yr oes ddigidol. Byddwn yn sicrhau bod ein holl wasanaethau ar-lein a digidol yn cael eu darparu’n ddwyieithog a’u hyrwyddo i’n trigolion a’r economi leol yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru), 2011.

Mae Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg, yn nodi'n glir fod yn rhaid i'r Gymraeg fod yn rhan o'r chwyldro digidol, sy'n rhychwantu pob un o'r 5 maes â blaenoriaeth yn y strategaeth hon.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y Gymraeg yn cael lle creiddiol wrth arloesi mewn technoleg ddigidol, fel bo modd defnyddio'r Gymraeg ym mhob cyd-destun digidol, ac fel Cyngor, byddwn yn cefnogi ac yn cyflawni'n unol â hyn. Mae ein nod yn gyson â'r nod yng 'Nghynllun Gweithredu Technoleg y Gymraeg', sy'n deillio o Cymraeg 2050, a byddwn yn sicrhau ein bod yn cynllunio datblygiadau technolegol fel bo modd defnyddio'r Gymraeg mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau, boed hynny drwy ddefnyddio llais, bysellfwrdd neu fath arall o ryngweithio rhwng dyn a chyfrifiadur.

 

Mae Sir Gaerfyrddin yn gartref i 72,838 o siaradwyr Cymraeg 39.9% o gyfanswm poblogaeth y sir (Cyfrifiad 2021)


Carbon Sero Net

Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac yn cydnabod bod gennym ran bwysig i’w chwarae er mwyn lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr ein hunain a rhoi arweiniad er mwyn annog trigolion, busnesau a sefydliadau eraill i weithredu i leihau eu hôl troed carbon hwythau.

Mae gan dechnoleg ran gynyddol i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r heriau hyn. Nod y Strategaeth Ddigidol hon yw ategu cynllun gweithredu'r Awdurdod, a chyda datblygiadau technolegol pellach dros y blynyddoedd i ddod bydd o gymorth mawr i'r Awdurdod gyflawni'r ymrwymiad hwn.

Ar draws pum maes blaenoriaeth allweddol y strategaeth hon ceir atebion ac ymagweddau arloesol a fydd yn gwthio'r agenda hon yn ei blaen, ac yn ategu'r gwaith sylweddol a wnaed eisoes i wella hyblygrwydd ac ystwythder ein gweithlu a'n hystâd.

Un enghraifft yw technoleg 'Mesurydd Clyfar' sy'n cael ei hehangu i sicrhau bod data ar ddefnydd ynni'n cael eu casglu'n amserol o'n holl adeiladau a'n hystâd; mae hyn yn hollbwysig er mwyn cynllunio, monitro ac adrodd ar gynnydd tuag at fod yn sefydliad Carbon Sero Net.


Ysgolion

Mae’n bwysig iawn bod y gwasanaethau a’r dechnoleg yr ydym yn eu darparu i ysgolion yn sail i amcanion allweddol addysgu a dysgu, gan alluogi myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial a chyflawni ein hymrwymiad i'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol a'r Cwricwlwm i Gymru. I helpu i gyflawni hyn, byddwn yn:

  • Cysoni’r holl dechnoleg ddigidol ag anghenion yr athrawon, y dysgwyr, y Cwricwlwm a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
  • Ymdrechu i barhau i leihau allgáu digidol i ddysgwyr drwy weithio gydag ysgolion, partneriaid a rhanddeiliaid eraill i wella mynediad at adnoddau digidol. Y nod yw sicrhau nad oes unrhyw ddysgwr yn ein hysgolion ar ei hôl hi yn ddigidol.
  • Sicrhau bod cysylltedd digidol a lled band yn sylfaen i dechnoleg ein hysgolion, gan ddarparu cysylltiad cyflym, diogel a gwydn â’r rhyngrwyd ac amgylchedd Hwb ar gyfer pob ysgol.
  • Defnyddio Cynllun Cynaliadwyedd Hwb i sicrhau bod staff a dysgwyr yn cael mynediad cyfartal at offer digidol sy'n addas i’r diben, gan gynnig profiad safonol a chyson i bob un o'n hysgolion.
  • Cynorthwyo ysgolion i gael arbedion effeithlonrwydd heb effeithio ar ddeilliannau dysgwyr, gan ysgogi contractau corfforaethol lle bynnag y bo modd.
  • Darparu pecyn cymorth cynhwysfawr drwy CLG ffurfiol ar gyfer pob Ysgol Gynradd ac Uwchradd; gan sicrhau y darperir cymorth digidol o'r unfed ganrif ar hugain i'n pobl ifanc, staff a holl ysgolion Sir Gaerfyrddin.
  • Ategu ein Rhaglen Moderneiddio Addysg ar gyfer ysgolion i gefnogi dysgu digidol a datblygu sgiliau digidol.

Hwb a Chynllun Cynaliadwyedd Hwb

Ers 2012, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu mynediad at ystod eang o seilwaith, gwasanaethau ac adnoddau digidol i ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu dull cenedlaethol o ymdrin â gwasanaethau digidol, gan alluogi ysgolion yng Nghymru i fanteisio i’r eithaf yn gyson ar y manteision trawsnewidiol y gall adnoddau digidol a thechnoleg eu rhoi i addysg; gan ddarparu amrywiaeth o wasanaethau digidol a fydd yn galluogi ac yn ysbrydoli ein hymarferwyr a'n dysgwyr i ymgorffori arferion digidol yn hyderus, yn ogystal â datblygu diwylliant, cymwyseddau, sgiliau a gwybodaeth ddigidol i ategu’r Cwricwlwm i Gymru.

Mae’r offer a’r adnoddau digidol sy'n rhan o blatfform Hwb yn cefnogi dull cenedlaethol o gynllunio a darparu, yn galluogi rhannu sgiliau, dulliau ac adnoddau rhwng ymarferwyr addysgol yng Nghymru; yn cefnogi addysgu a dysgu yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn darparu mynediad cyfartal i offer ac adnoddau am ddim sy’n canolbwyntio ar yr ystafell ddosbarth i holl athrawon a dysgwyr Cymru.

I gefnogi hyn, byddwn yn:

  • Parhau i fanteisio’n llawn ar y cynnyrch a’r gwasanaethau o fewn platfform Dysgu Hwb Llywodraeth Cymru a pharhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i fod yn gyfrannwr a dylanwadwr allweddol i raglen Hwb Cymru gyfan.
  • Sicrhau bod pob dysgwr yn cael mynediad cyfartal i ddyfeisiau ym mhob ysgol, gan ddileu rhwystrau i greadigrwydd a dysgu oherwydd technoleg hen ffasiwn neu ddiffyg technoleg; gan ddileu anghydraddoldeb digidol rhwng ysgolion fel bod pob myfyriwr yn cael cyfle cyfartal i lwyddo.
  • Buddsoddi yn seilwaith a thechnoleg ein hysgolion, gan gynnwys goruchwylio a darparu Grant Hwb ar gyfer Seilwaith mewn Ysgolion a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chynllun Cynaliadwyedd Hwb, gan ategu'r ddarpariaeth addysg ar gyfer pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin.
  • Lleihau seilwaith ffisegol costus o fewn ysgolion, gan leihau'r gwariant cyfalaf sydd ei angen i adnewyddu'r seilwaith hwn. Mae lleihau'r seilwaith ffisegol mewn ysgolion hefyd yn cyfateb i ostyngiad yn y defnydd o ynni a lleihau ôl troed carbon ar gyfer pob campws ysgol, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
  • Mae data ysgol yn ased hanfodol. Byddwn yn sicrhau ei fod yn cael ei storio yn y lleoliad mwyaf diogel, gwydn, effeithlon, cost effeithiol a phriodol.
  • Darparu amgylchedd diogel i staff a dysgwyr addysgu a dysgu gartref, gan sicrhau bod ein myfyrwyr yn parhau i ddysgu pan nad yw’n bosibl mynychu’r ysgol.

Aelodau Etholedig

Mae ein haelodau etholedig yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau ein bod yn cofleidio’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf i ddarparu gwasanaethau digidol effeithiol a chynhwysol i’n trigolion. Byddwn yn parhau i alluogi ein haelodau etholedig i weithio'n symudol ac yn effeithlon yn eu cymunedau, gan ddefnyddio'r gwasanaethau a'r technolegau digidol mwyaf priodol sydd ar gael. Mae ein haelodau etholedig wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o lunio ein Strategaeth Ddigidol a byddwn yn parhau i ymgysylltu ac ymgynghori â nhw, ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ynghylch cyflawniad y Strategaeth yn rheolaidd.


Adnoddau

Rydym yn buddsoddi swm sylweddol o gyfalaf ychwanegol i sicrhau y cyflawnir y blaenoriaethau a’r canlyniadau allweddol yn y Strategaeth Ddigidol hon, gan gynnwys:

Buddsoddiad o

£1.58 miliwn

dros y 3 blynedd nesaf tuag at sicrhau bod ein seilwaith craidd, a'n canolfannau cyfathrebu a data yn cael eu cynnal a’u diweddaru.

£1.14 miliwn

£1.14 miliwn wedi'i ddyrannu dros y 4 blynedd nesaf i ddatblygu ein rhwydwaith, cefnogi'r broses o fudo i'r cwmwl a sicrhau y gall ein gweithlu hybrid ddarparu eu gwasanaethau'n effeithiol.

£600k

i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau ar-lein drwy ein Ffrwd Waith Cwsmeriaid a Thrawsnewid Digidol.

£530k

i wrthsefyll risgiau Seiberdroseddu a gwella diogelwch ar-lein.

£129k

o gyllid ar gyfer hyfforddi staff gwasanaethau digidol er mwyn sicrhau y gall Cyngor Sir Caerfyrddin fanteisio ar y technolegau a'r datblygiadau arloesol diweddaraf.

Mae economi ddigidol y DU yn werth

£95

biliwn y flwyddyn.


Yr hyn a gyflawnir gennym

Mae ein Strategaeth Ddigidol yn cynnwys 5 maes blaenoriaeth.

Byddwn yn cyflawni’r gwaith canlynol dros y 3 blynedd nesaf, o dan bob un o’r 5 maes blaenoriaeth allweddol, y mae pob un ohonynt yn cyd-fynd â’n nodau llesiant lleol a chenedlaethol.

I sicrhau hyblygrwydd a chysoni parhaus, mae pob blaenoriaeth yn sefydlog am y flwyddyn gyntaf ac mae adolygiad blynyddol yn cael ei gynnal drwy gydol oes y strategaeth ar gyfer y blynyddoedd sydd ar ôl.

Maes Blaenoriaeth 1: Gwasanaethau Digidol

Maes Blaenoriaeth 2: Pobl a Sgiliau

Maes Blaenoriaeth 3: Data a Gwneud Penderfyniadau

Maes Blaenoriaeth 4: Technoleg ac Arloesi

Maes Blaenoriaeth 5: Cymunedau Digidol a'r Economi

 

 

Maes Blaenoriaeth 1: Gwasanaethau Digidol

Beth mae'n ei olygu?

  • Gwasanaethau a gwybodaeth ar-lein hawdd eu defnyddio ac o ansawdd uchel i drigolion, cydweithwyr a phartneriaid.
  • Mwy o fynediad at wasanaethau digidol sy’n ddwyieithog ac yn canolbwyntio ar y defnyddiwr.
  • Darparu gwasanaethau digidol personol wedi'u cynllunio o amgylch anghenion parhaus cwsmeriaid.
  • Canolbwyntio ar hygyrchedd a chynhwysiant digidol i gefnogi anghenion pob defnyddiwr.

Pam bod hyn yn bwysig?

  • Sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau a gwybodaeth arlein rhagorol i'r cwsmer.
  • Bodloni'r galw gan gwsmeriaid ac ymateb i ddisgwyliadau cwsmeriaid, sy'n cynyddu ac yn esblygu.
  • Gwella ymgysylltiad cwsmeriaid drwy gynnig mynediad at wybodaeth a gwasanaethau wedi'u personoli.
  • Sicrhau bod modd cael mynediad at wasanaethau ar-lein ar adeg a thrwy ddull cyfleus; 'unrhyw bryd, yn unrhyw le' o unrhyw ddyfais.

Sut y byddwn yn cyflawni hyn?

  • Drwy wella'r modd rydym yn dylunio ac yn adeiladu systemau a phrosesau ar-lein yn barhaus, gan roi anghenion a phrofiadau defnyddwyr wrth graidd ein gwaith.
  • Drwy foderneiddio darpariaeth gwasanaeth digidol, gan ddefnyddio technoleg briodol ac arloesol.
  • Drwy sicrhau gwybodaeth a gwasanaethau hygyrch ar bob dyfais symudol.
  • Drwy barhau i ddatblygu ein dealltwriaeth o'r sianeli digidol a ffafrir gan gwsmeriaid er mwyn cyfathrebu a rhyngweithio.
  • Drwy sicrhau trefniadau cadarn i ddiogelu gwybodaeth er mwyn gwarchod data a hunaniaeth ein cwsmeriaid.
  • Drwy sicrhau ein bod yn bodloni ac yn rhagori ar y canllawiau a'r safonau hygyrchedd cyfredol.
  • Drwy fabwysiadu, a chadw at, Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru, lle bynnag y bo modd.
Teitl Yr hyn a gyflawnir gennym Canlyniadau 24/25 25/26 26/27
Y wefan a Fy Nghyfrif Hwb Parhau i ddatblygu Gwefan y Cyngor a Fy Nghyfrif Hwb ar gyfer ein cwsmeriaid. Darparu gwasanaethau cyngor drwy un pwynt mynediad canolog, sydd ar gael 24/7 ac yn syml i'w ddefnyddio, yn hygyrch ac yn gynhwysol. To be delivered in 2024/2025    
Gwasanaethau Digidol Trafodiadol Parhau i ddylunio a datblygu gwasanaethau digidol trafodiadol ar-lein i gwsmeriaid. Cynyddu darpariaeth gwasanaethau ar-lein i gwsmeriaid, gyda rhagor o integreiddio ac awtomeiddio o'r naill ben i'r llall. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026 To be delivered in 2026/2026
Porth Aelodau Etholedig Gweithredu a datblygu Porth Aelodau Etholedig ar-lein ymhellach. Mynediad hunanwasanaeth 24/7 i aelodau etholedig at ystod o wasanaethau digidol, er mwyn cynorthwyo ein haelodau a'n trigolion. To be delivered in 2024/2025    
Map Ffordd Digidol Gwasanaethau Cwsmeriaid Adolygu, datblygu a gweithredu map ffordd digidol ar gyfer gwasanaethau cwsmeriaid a chanolfan gyswllt. Profiad digidol hygyrch drwy ein gwasanaethau cwsmeriaid, sydd wedi'i ddiogelu i'r dyfodol ac sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid. To be delivered in 2024/2025    
Etholiadau a Democratiaeth Cefnogaeth ddigidol gynhwysfawr ar gyfer etholiadau a democratiaeth drwy dechnolegau cydnerth ac arloesol a seiberddiogelwch cadarn. Etholiadau diogel, tryloyw ac effeithlon, wedi'u hwyluso gan y technolegau mwyaf priodol, arloesol a diogel. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026 To be delivered in 2026/2026
Gwasanaeth Cymorth Digidol Gwasanaeth cymorth digidol cynhwysfawr a desg gymorth ar gyfer pob cwsmer corfforaethol, ysgol a phartner. Gwasanaeth cymorth digidol rhagweithiol, effeithlon ac effeithiol sy’n gallu cynnal darpariaeth gwasanaeth cyhoeddus yn yr unfed ganrif ar hugain. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026 To be delivered in 2026/2026
Llesiant Delta Pecyn cymorth a datblygu digidol cynhwysfawr, drwy CLG ffurfiol, ar gyfer Llesiant Delta Darpariaeth technoleg gydnerth a dibynadwy, cyngor, arweiniad a phecyn cymorth y tu allan i oriau ar gyfer Llesiant Delta. To be delivered in 2024/2025    
Cefnogaeth Ddigidol i Ysgolion Pecyn cymorth cynhwysfawr drwy CLG ffurfiol ar gyfer pob Ysgol Gynradd ac Uwchradd Darparu cymorth digidol o'r unfed ganrif ar hugain i bobl ifanc, staff ac ysgolion Sir Gaerfyrddin. To be delivered in 2024/2025    
Ymgysylltu Strategol Rhaglen gynhwysfawr i ymgysylltu'n strategol ar draws yr holl adrannau corfforaethol, ysgolion, aelodau etholedig a phartneriaid. Dealltwriaeth gref o anghenion a dyheadau digidol ein harweinwyr, ein cydweithwyr a'n partneriaid, gan weithredu atebion priodol i sicrhau gwasanaethau cyhoeddus effeithiol To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026 To be delivered in 2026/2026

 

Maes Blaenoriaeth 2: Pobl a Sgiliau

Beth mae'n ei olygu?

  • Blaenoriaethu ein cydweithwyr drwy fuddsoddi yn eu sgiliau a’u gallu digidol.
  • Gwerthfawrogi, cydnabod a buddsoddi yn y doniau a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i lwyddo.
  • Cael y gorau o'n gweithlu drwy feithrin arferion gwaith modern.
  • Bod yn ymatebol i anghenion ein pobl a'n gwasanaethau, gan alluogi ffyrdd newydd o weithio.
  • Datblygu sgiliau a chapasiti'r Cyngor o ran casglu a dadansoddi data.

Pam bod hyn yn bwysig?

  • Sgiliau a gallu priodol i gyflawni nodau ac amcanion sefydliadol allweddol.
  • Sgiliau a chapasiti priodol i weithredu'n effeithiol fel sefydliad sy'n cael ei yrru gan ddata.
  • Cynyddu hyder, diwylliant ac arweinyddiaeth ddigidol ar draws y sefydliad.
  • Sicrhau gwelliant parhaus yng nghynhyrchiant a gallu'r gweithle.
  • Cefnogi arbedion effeithlonrwydd a chynnydd mewn cynhyrchiant drwy wella ffyrdd o weithio.
  • Helpu i sicrhau cydbwysedd bywyd gwaith iach a chydfuddiannol i'n gweithlu.
  • Denu’r dalent angenrheidiol i gynnal a gwella ein gweithlu.

Sut y byddwn yn cyflawni hyn?

  • Cydnabod bod a wnelo gwasanaethau a darpariaeth ddigidol o ansawdd yn bennaf â phobl.
  • Cyfleu pwysigrwydd sgiliau a gallu digidol yn gyson ac yn glir.
  • Annog a chefnogi ein pobl i feithrin eu sgiliau, eu gallu a'u hyder yn barhaus.
  • Rhoi ystyriaeth gyson i'r sgiliau a'r gallu digidol sydd eu hangen wrth ddylunio a darparu gwasanaethau.
  • Integreiddio polisïau a strategaethau allweddol ag uchelgeisiau digidol.
  • Sicrhau bod gan ein pobl fynediad at dechnoleg, systemau, data a gwybodaeth briodol.
Teitl Yr hyn a gyflawnir gennym Canlyniadau 24/25 25/26 26/27
Archwiliad Sgiliau Digidol Archwiliad sgiliau digidol er mwyn nodi anghenion cyfredol ein gweithlu, a'i anghenion i'r dyfodol, o ran gwybodaeth a sgiliau. Gwella'r gallu i ddenu, recriwtio a chadw talent. Dangos i'n pobl ein bod yn eu gwerthfawrogi drwy roi cefnogaeth iddynt feithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi'r dyfodol. To be delivered in 2024/2025    
Dysgu a Datblygu Digidol Cynnig gwell i'n staff o ran dysgu a datblygu digidol, gan sicrhau y gellir cyrchu cyfleoedd dysgu priodol o ystod o ddyfeisiau a lleoliadau. Cynnig sgiliau gwell i'n pobl a fydd yn ein helpu i drawsnewid, moderneiddio ac adfywio gwasanaethau. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026 To be delivered in 2026/2026
Rhannu Adnoddau Dysgu Adnoddau dysgu wedi'u datblygu'n dda a'u rhannu i gefnogi cynhwysiant digidol ar draws ein gweithlu. Ymgysylltu'n well â'r gweithlu, a gweithlu sy'n fwy cynhwysol ac sy'n ddigidol hyderus. To be delivered in 2024/2025    
Fframwaith Sgiliau Digidol Rhoi ein Fframwaith Sgiliau Digidol newydd ar waith. Diwylliant o berfformiad uchel, o arloesi ac o gyflawni. Gweithwyr sydd â'r sgiliau, yr wybodaeth a'r feddylfryd i ddefnyddio technoleg yn effeithiol ac yn effeithlon wrth eu gwaith. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026 To be delivered in 2026/2026
System Rheoli Dysgu (LMS) Gweithredu, datblygu a manteisio ar System Rheoli Dysgu (LMS). Ecosystem dysgu well sy'n darparu cynnwys dysgu diddorol wedi'i bersonoli i'n pobl, a llwybrau sy'n cefnogi gwaith i gynllunio'r gweithlu. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026  
Mentoriaid Digidol Nodi, hyfforddi a chefnogi mentoriaid digidol ar draws yr awdurdod yn barhaus, a fydd yn chwarae rhan hanfodol er mwyn hyrwyddo llythrennedd digidol a meithrin amgylchedd digidol-gynhwysol. Cymorth gan gyfoedion i'n pobl mewn gweithle digidol. Gwell sgiliau digidol. Canllawiau i sicrhau bod cydweithwyr yn teimlo'n hyderus ac wedi'u grymuso. Trefniadau gwell i rannu gwybodaeth To be delivered in 2024/2025    
Cynllun Gweithlu'r Gwasanaethau Digidol Cyflwyno cynllun gweithlu blynyddol cynhwysfawr i ddatblygu a gwella sgiliau technegol ac annhechnegol ein gweithlu Gwasanaethau Digidol. Sicrhau bod gan y Gwasanaethau Digidol y gallu technegol ac annhechnegol i gyflawni amcanion strategol y Cyngor mewn cyd-destun sy'n esblygu o hyd. To be delivered in 2024/2025    

 

Maes Blaenoriaeth 3: Data a Gwneud Penderfyniadau

Beth mae'n ei olygu?

  • Ymwreiddio diwylliant lle caiff data eu gwerthfawrogi'n wirioneddol ar bob lefel o fewn y sefydliad, ac ar draws pob adran.
  • Sicrhau bod yr ehangder amrywiol o wybodaeth a data sydd ar gael inni fel sefydliad yn cael ei ystyried mewn modd cyfannol yn sail ar gyfer penderfyniadau.
  • Rhannu gwybodaeth a data yn well yn fewnol ar draws y sefydliad, ac yn allanol â phartneriaid a rhanddeiliaid.
  • Archwilio ymarferoldeb rhannu 'data ffynhonnell agored' i gefnogi tryloywder.
  • Defnydd arloesol a thrawsnewidiol o ddata trwy ddysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial.

Pam bod hyn yn bwysig?

  • Mae'n sicrhau bod data a gwybodaeth yn cael eu casglu, eu dadansoddi a'u darlunio mewn modd sy'n creu'r potensial mwyaf am fudd i'r sefydliad ac i'r Sir yn ei chyfanrwydd.
  • Mae'n sicrhau bod yr wybodaeth a’r data sydd ar gael inni yn gadarn, yn berthnasol, ac yn amserol, fel bo modd gwneud penderfyniadau'n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Mae'n symleiddio'r ffordd yr ydym yn rhannu data gyda phartneriaid a sefydliadau eraill gan sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn rhan o un tîm sy'n gweithio ar amcanion cyffredin.

Sut y byddwn yn cyflawni hyn?

  • Drwy reoli gwybodaeth yn effeithiol a sicrhau bod trefniadau rhannu data priodol ar waith â phob sefydliad a phartner.
  • Drwy fanteisio'n llawn ar dechnolegau newydd a ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys atebion data agored / ffynhonnell agored.
  • Datblygu cysondeb corfforaethol yn y modd rydym yn casglu ac yn cofnodi data, gan leihau sefyllfaoedd lle ceir amryw o setiau data ar wahân a ffafrio cael fersiwn gyfun o'r gwirionedd y gall defnyddwyr fod yn hyderus yn ei gylch.
  • Drwy ddefnyddio technoleg ddatblygol a thechnoleg arloesol i gasglu, storio, dadansoddi a darlunio data er mwyn gwneud penderfyniadau gwell.
  • Sicrhau bod data, systemau a gwasanaethau'n cael eu cynnal a'u rheoli'n effeithlon ar blatfformau priodol.
Teitl Yr hyn a gyflawnir gennym Canlyniadau 24/25 25/26 26/27
Llywodraethu Gwybodaeth Rhaglen waith flynyddol gadarn a chynhwysfawr ar gyfer Llywodraethu Gwybodaeth, gan gynnwys cyflawni ein rhwymedigaethau statudol o dan y Ddeddf Diogelu Data a sicrhau ein bod yn gyson â diwygiadau sy'n cael eu cyflwyno i'r gyfraith yn y DU. Byddwn yn sicrhau bod asedau data a gwybodaeth y Cyngor yn cael eu rheoli'n effeithiol, eu diogelu, a'u defnyddio i gyflawni nodau strategol a grymuso penderfyniadau a gaiff eu gyrru gan ddata. To be delivered in 2024/2025  To be delivered in 2025/2026  To be delivered in 2026/2027
Cyfres Ddata Gorfforaethol Datblygu ac ymwreiddio Cyfres Ddata Gorfforaethol gynhwysfawr. Darparu cyfres ddata gynhwysfawr i benderfynwyr ar lefel uwch, a mynediad at gyfoeth o setiau data canolog, gan gynnwys offer dadansoddi ac adrodd cadarn. To be delivered in 2024/2025  To be delivered in 2025/2026  
Gwybodaeth a Data Cwsmeriaid Archwilio dull integredig o drin gwybodaeth a data cwsmeriaid Creu 'un pwynt gwirionedd' ar gyfer data cwsmeriaid, fel bo modd ymholi'n ddi-dor. To be delivered in 2024/2025  To be delivered in 2025/2026  
Deallusrwydd Busnes PowerBI Mabwysiadu a manteisio ymhellach ar blatfform Deallusrwydd Busnes PowerBI ar draws y sefydliad. Galluogi'r cyngor ac adrannau gwasanaeth i ddeall a dadansoddi ein data yn well er mwyn helpu i wneud penderfyniadau gwell. To be delivered in 2024/2025  To be delivered in 2025/2026 To be delivered in 2026/2027
Platfform Storio Data a Chydweithio Defnyddio, datblygu a manteisio ar SharePoint ar draws pob maes gwasanaeth. Platfform cyson ar gyfer rhannu gwybodaeth a chydweithio, gyda chyfleuster datblygedig i reoli cofnodion, cadw data a dosbarthu. To be delivered in 2024/2025  To be delivered in 2025/2026  
Hunanasesiadau Aeddfedrwydd Digidol Hunanasesiadau aeddfedrwydd digidol drwy broses yr hunanasesiad corfforaethol blynyddol ar gyfer pob adran a maes gwasanaeth. Data a thystiolaeth er mwyn helpu i ganfod rhannau o'r sefydliad sydd angen cefnogaeth a newid er mwyn gwella darpariaeth gwasanaeth ac ysgogi arbedion effeithlonrwydd, drwy ddulliau digidol, data a thechnoleg. To be delivered in 2024/2025    

Maes Blaenoriaeth 4: Technoleg ac Arloesi

Beth mae'n ei olygu?

  • Buddsoddi mewn dyfeisiau, seilwaith a systemau arloesol, cydnerth ac ystwyth.
  • Ysgogi a hwyluso effeithlonrwydd drwy dechnoleg ac arloesi.
  • Cefnogi cydweithio â phartneriaid a rhanddeiliaid.
  • Sicrhau cydnerthedd seiber cadarn drwy’r systemau mwyaf datblygedig sydd ar gael.
  • Croesawu deallusrwydd artiffisial, awtomeiddio a thechnolegau datblygol mewn modd cyfrifol a moesegol.
  • Defnyddio technoleg arloesol a phriodol i ategu darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd.

Pam bod hyn yn bwysig?

  • Mae'n defnyddio atebion arloesol i wella profiadau cwsmeriaid a swyddogaethau swyddfa gefn.
  • Mae'n defnyddio datblygiadau arloesol fel catalydd i ganolbwyntio ar gwsmeriaid mewn adrannau.
  • Mae'n cynnig hyblygrwydd, y gallu i weithredu'n gyflym a gwasanaethau effeithlon y gellir eu cynyddu/lleihau i gyd-fynd ag anghenion.
  • Mae'n cefnogi gwaith diogel o bell, gan alluogi staff i weithio o blatfformau a lleoliadau amrywiol.
  • Mae cysylltedd rhwydweithiau data a llais yn hollbwysig wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus modern.
  • Mae'n cydnabod gwerth strategol ein seilwaith, ein systemau a'n cysylltedd, a pha mor dyngedfennol ydynt.

Sut y byddwn yn cyflawni hyn?

  • Amnewid a diweddaru systemau, seilwaith a dyfeisiau etifeddol sydd wedi dyddio.
  • Cydgrynhoi gweinyddwyr, storfeydd a rhaglenni meddalwedd er mwyn gwella perfformiad.
  • Manteisio ar ddull cwmwl yn gyntaf, lle gall wella cydnerthedd, effeithlonrwydd a gwerth.
  • Troi systemau llais yn rhithwir a'u cydgyfnerthu er mwyn cynyddu eu swyddogaethau ac arbed costau.
  • Cael y gorau o gydweithio a rhannu gwasanaethau drwy gysylltiadau â Rhwydweithiau'r Sector Cyhoeddus.
  • Sicrhau cysylltedd cyflym, diogel a chydnerth â'r rhyngrwyd i'r ochr gorfforaethol, i ysgolion ac i bartneriaid.
  • Integreiddio data cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth i leihau achosion o ail-wneud gwaith a symleiddio cofnodion.
  • Buddsoddi mewn technolegau seiberddiogelwch i atal ymosodiadau ar wybodaeth y Cyngor.
  • Cynnal profion trylwyr ar weithdrefnau parhad busnes ac adfer ar ôl trychineb.
Teitl Yr hyn a gyflawnir gennym Canlyniadau 24/25 25/26 26/27
Strategaeth Deallusrwydd Artiffisial Strategaeth a chynllun gweithredu cynhwysfawr ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial. Ymagwedd glir ac ystyriol at fabwysiadu galluogrwydd Deallusrwydd Artiffisial mewn modd diogel a chyfrifol, lle bo hynny'n briodol ac yn werthfawr. To be delivered in 2024/2025    
Awtomeiddio Prosesau Robotig (RPA) Datblygu a gweithredu RPA ar draws gwasanaethau allweddol, fel y nodir ac a flaenoriaethir drwy ein rhaglen drawsnewid. Prosesau symlach a phrofiad llawer gwell i gwsmeriaid drwy leihau'r gofynion amser ac adnoddau ar gyfer tasgau ailadroddus sy'n feichus o ran adnoddau. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026  
Systemau a Gynhelir yn y Cwmwl Cydgysylltu a hwyluso'r broses o fudo rhaglenni a systemau hanfodol i fusnes i amgylcheddau a gynhelir yn y cwmwl (lle bo'n briodol). Gwell cydnerthedd, hygyrchedd, perfformiad a threfniadau i integreiddio systemau a rhaglenni adrannol a chorfforaethol allweddol. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026 To be delivered in 2026/2027
Seibergadernid ac Ymateb Rhaglen seibergadernid ac ymateb flynyddol gynhwysfawr a chadarn. Safonau, mesurau, polisïau, gweithdrefnau a thechnolegau cryf o ran seiberddiogelwch, gan fynd ati'n barhaus i gryfhau ein hymagwedd at ddiogelu'r sefydliad. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026 To be delivered in 2026/2027
Parhad Busnes ac Adfer ar ôl Trychineb Rhaglen waith gynhwysfawr i sicrhau cynlluniau parhad busnes ac adfer ar ôl trychineb, a phrofion cadarn a mynych a ffugymarferion ar yr holl seilwaith, systemau a gwasanaethau sy'n hanfodol i fusnes. Cynlluniau parhad busnes ac adfer ar ôl trychineb sy'n gwella'n barhaus. Cynyddu'r gallu i gynnal darpariaeth gwasanaeth hanfodol os bydd systemau'n methu, ac adfer yn effeithiol ac effeithlon. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026 To be delivered in 2026/2027
Seilwaith, Systemau a Gwasanaethau Corfforaethol Cynllun cynhwysfawr i ddisodli a gwella seilwaith, systemau a gwasanaethau gweithredol y sefydliad, gan gynnwys gweinyddwyr, storio, cyfrifiadura, systemau wrth gefn a'r holl systemau rheoli perthnasol. Seilwaith, systemau a gwasanaethau dibynadwy a diogel y gellir eu graddoli i fodloni gofynion cynyddol sefydliad modern a medrus sy'n ddigidol-soffistigedig. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026 To be delivered in 2026/2027
Seilwaith a Thechnoleg Ysgolion Buddsoddi yn seilwaith a thechnoleg ein hysgolion, gan gynnwys goruchwylio a darparu Grant Hwb ar gyfer Seilwaith mewn Ysgolion a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chynllun Cynaliadwyedd Hwb. Seilwaith a thechnoleg ddigidol yr unfed ganrif ar hugain i danategu darpariaeth addysg i bobl ifanc Sir Gaerfyrddin. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026 To be delivered in 2026/2027
Rhwydweithiau a Chysylltedd Rhaglen gynhwysfawr i wella a datblygu ein galluoedd rhwydwaith data a llais ar draws ein hamgylcheddau corfforaethol ac ysgol. Mae cysylltedd eithriadol yn darparu'r sylfaen ar gyfer cyfathrebu, cydweithio, mynediad at wybodaeth, arloesi a mabwysiadu technoleg. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026 To be delivered in 2026/2027
Dyfeisiau Defnyddiwr Terfynol Cefnogi, cynnal ac uwchraddio ein casgliad sylweddol o liniaduron, cyfrifiaduron desg, llechi a ffonau clyfar yn barhaus. Gweithlu a chanddo'r dyfeisiau mwyaf priodol ac effeithiol, ynghyd â mynediad effeithlon at ddata a systemau swyddfa gefn, a mwy o allu i weithio mewn modd hybrid. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026 To be delivered in 2026/2027
Technoleg Llais Datblygu a buddsoddi ymhellach yn ein technoleg llais, gan barhau i symud oddi wrth deleffoni traddodiadol i amgylchedd ‘ffôn meddal’ integredig sy’n ffafriol i weithlu ystwyth yr unfed ganrif ar hugain. Platfformau cyfathrebu llais cydnerth ac ystwyth sy'n hwyluso cydweithio a gweithio hybrid. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026 To be delivered in 2026/2027
Rhesymoli Adeiladau Darparu adnoddau a chefnogaeth lawn ar gyfer raglen rhesymoli adeiladau'r cyngor. Darparu technoleg gynhwysfawr wedi'i hadlinio ar safleoedd presennol, a datgomisiynu safleoedd sy'n cael eu gwagio yn ddiogel a thrwyadl. To be delivered in 2024/2025    
Rhaglen Moderneiddio Addysg Mae ffabrig digidol o'r radd flaenaf ym mhob ysgol newydd yn adeiladu ac adnewyddu gan gynnwys cysylltedd, seilwaith, systemau a gwasanaethau. Ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd sydd â'r holl offer i ddiwallu anghenion addysg nawr ac yn y dyfodol. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026 To be delivered in 2026/2027

 

Maes Blaenoriaeth 5: Cymunedau Digidol a'r Economi

Beth mae'n ei olygu?

  • Gwella cysylltedd ffeibr a symudol ein Sir.
  • Helpu i hybu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth â chyfraddau mabwysiadu band eang cyflym a rhwydweithiau symudol.
  • Cefnogi sgiliau digidol a chynnwys ein trigolion a busnesau.
  • Cydweithio â'r sector preifat a'r sector cyhoeddus er budd ein trigolion a busnesau.
  • Cynorthwyo trigolion i fanteisio ar y dechnoleg ddigidol ddiweddaraf i wella'u bywydau.
  • Annog busnesau i fanteisio ar dechnolegau datblygol i gyflymu cynhyrchiant.

Pam bod hyn yn bwysig?

  • Mae ein plant yn haeddu byw mewn cymunedau gwybodus sydd wedi’u galluogi’n ddigidol, a chael y technolegau diweddaraf sydd ar gael er mwyn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.
  • Dylai holl drigolion Sir Gaerfyrddin allu cyrchu gwasanaethau ar-lein y gellir eu defnyddio i wella'u llesiant.
  • Dylid annog a chefnogi busnesau i fuddsoddi yn y Sir, gan gefnogi'r economi leol a denu cyflogaeth gynaliadwy.
  • Dylai busnesau gael y cyfle a’r gefnogaeth i arloesi a manteisio ar gyfleoedd newydd.
  • Dylai fod gan ein hadeiladau a’n hasedau masnachol y seilwaith, y cyfleusterau a’r galluoedd angenrheidiol ar gyfer y dyfodol er mwyn ffynnu.

Sut y byddwn yn cyflawni hyn?

  • Meithrin perthnasoedd effeithiol â phartneriaid allweddol yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, a chydweithio â nhw ar dechnoleg ddigidol ledled Sir Gaerfyrddin.
  • Ystyried anghenion digidol trigolion, busnesau, prosiectau, a phartneriaid ar draws ein holl weithgarwch adfywio a datblygu economaidd sylweddol.
  • Cydnabod a throsoli ein dylanwad a’n gallu sylweddol fel awdurdod lleol yn gyson i gyfrannu at seilwaith, sgiliau a buddsoddiad digidol ein Sir.
  • Cael cyllid i ddatblygu gweithgareddau digidol cynaliadwy yn Sir Gaerfyrddin, lle bynnag y bo modd.
Teitl Yr hyn a gyflawnir gennym Canlyniadau 24/25 25/26 26/27
Pentre Awel Ffabrig digidol o'r radd flaenaf ym Mhentre Awel gan gynnwys yr holl gysylltedd, seilwaith, systemau a gwasanaethau perthnasol. Datblygiad o safon fyd-eang gyda'r galluoedd digidol priodol i gyflawni ei amcanion yn llawn. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026 To be delivered in 2026/2027
Hwb Caerfyrddin Ffabrig digidol o'r radd flaenaf yn Hwb newydd Caerfyrddin gan gynnwys yr holl gysylltedd, seilwaith, systemau a gwasanaethau perthnasol. Cyfleuster canol tref â'r galluoedd digidol priodol i sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026  
Ffyniant Bro Canol Tref Llanelli Cefnogaeth, cyngor ac adnoddau i sicrhau bod yr holl dechnoleg berthnasol ac angenrheidiol yn cael ei defnyddio a'i gweithredu yn ei prosiect i fuddsoddi yng Nghanol Tref Llanelli. Cynllun adfywio canol tref â'r galluoedd digidol angenrheidiol, sydd wedi'u diogelu i'r dyfodol, er mwyn sicrhau ei lwyddiant. To be delivered in 2024/2025    
Llwybr Dyffryn Tywi Cefnogaeth, cyngor ac adnoddau i sicrhau bod yr holl dechnoleg berthnasol ac angenrheidiol yn cael ei defnyddio a'i gweithredu ar Lwybr newydd Dyffryn Tywi. Atyniad yr unfed ganrif ar hugain yng nghanol Dyffryn Tywi, sy'n barod ac yn gallu croesawu datblygiadau digidol er mwyn gwella profiadau ymwelwyr. To be delivered in 2024/2025    
Asedau masnachol Cefnogaeth ddigidol a buddsoddiad yn ein hasedau masnachol blaenllaw, gan gynnwys Parc Gwledig Pen-bre, Prosiect Denu Ymwelwyr Pentywyn, Neuadd y Farchnad Llandeilo, Marchnadoedd Canol Tref, a Chanolfan Fenter y Goleudy. Asedau masnachol sydd â'r holl gyfarpar angenrheidiol i fodloni anghenion ein tenantiaid busnes, partneriaid, cwsmeriaid ac ymwelwyr. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026 To be delivered in 2026/2027
Cronfa Ffyniant Gyffredin Thema ddigidol drawsbynciol o fewn prosiectau a ariennir o'r Gronfa Ffyniant Cyffredin ar draws Sir Gaerfyrddin, gan gynnig cefnogaeth ac arbenigedd lle bo angen. Cyllid grant a phrosiectau sy'n mynd ati'n weithredol i ystyried ac ymwreiddio anghenion a meddylfryd digidol yn eu cynlluniau, er budd Sir Gaerfyrddin. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026  
Trefi Clyfar Gweithio gyda’r holl bartneriaid, rhanddeiliaid, a busnesau sydd â diddordeb mewn defnyddio atebion clyfar a chasglu a rhannu data yn sail ar gyfer creu lleoedd o fewn ein 10 tref farchnad a'n 3 prif dref. Trefi sydd â'r hyder a'r gallu i fanteisio ar ddulliau digidol a data er mwyn cefnogi ffyniant economaidd a chymdeithasol. To be delivered in 2024/2025    
Cynnig sgiliau digidol trydydd sector, y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Gweithio i nodi cynnig llawn y 3ydd sector, y sector cyhoeddus a'r sector preifat o ran sgiliau digidol ar draws Sir Gaerfyrddin, a hybu, cefnogi a hwyluso lle bynnag y o modd. Sir wybodus ag ymwybyddiaeth o ystod o sgiliau digidol a chynhwysiant, a mynediad at y sgiliau hynny. To be delivered in 2024/2025    
Rhaglen Sgiliau a Thalentau Ranbarthol Arwain a chyflwyno Rhaglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar draws y rhanbarth ar ran yr holl bartneriaid a rhanddeiliaid. Atebion addysg a hyfforddiant pwrpasol sy’n cyd-fynd ag anghenion diwydiant a themâu lleol a rhanbarthol allweddol, gan gynnwys digidol. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026 To be delivered in 2026/2027
Rhaglen Seilwaith Digidol Ranbarthol Arwain a chyflwyno’r rhaglen Seilwaith Digidol gwerth £55 miliwn ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar ran ein holl bartneriaid a rhanddeiliaid. Band eang gwell i drigolion a busnesau. Rhanbarth clyfar sy'n barod ac yn gallu arloesi a mabwysiadu technoleg ddatblygol. Tirlun digidol cynhwysol sy'n bodloni ein hanghenion. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026  
Cysylltu Sir Gâr (Band Eang) Gweithio gyda phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat i gynyddu darpariaeth band eang ffeibr llawn a lleihau safleoedd heb gysylltiad cyflym iawn ledled Sir Gaerfyrddin. Gwell cysylltedd ag eiddo preswyl a busnes. Cynyddu cydraddoldeb o ran mynediad at wasanaethau ac adnoddau arlein. Lleihau allgáu digidol. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026  
Cysylltu Sir Gâr (Symudol) Gweithio gyda phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat i gynyddu darpariaeth cysylltedd symudol 4/5G a chynyddu'r dewis o gysylltedd symudol ledled Caerfyrddin. Gwell capasiti a chwmpas i ddarparu gwasanaethau digidol i bawb, ym mhobman. Mwy o ddewis a chystadleuaeth i drigolion a busnesau o ran cysylltedd symudol. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026  
Adnoddau cymorth i drigolion a busnesau Datblygu adnoddau cymorth ar y we ar gyfer trigolion a busnesau, gan eu helpu i sicrhau gwell cysylltedd drwy gyllid, cynlluniau a gweithredwyr perthnasol. Lleoliad ar-lein i rannu adnoddau, cyfeirio, helpu a hysbysu. Rhannu a hyrwyddo defnydd o astudiaethau achos o fanteision a'r defnydd o Gysylltedd Digidol gan godi ymwybyddiaeth ynghylch pam bod gwella cysylltedd mor bwysig, a'r modd y gellir defnyddio hynny i helpu cwsmeriaid a busnesau ledled Sir Gaerfyrddin. To be delivered in 2024/2025    
Diffodd y Rhwydwaith Ffôn Cyhoeddus Analog (PSTN) Ymgyrch gyfathrebu addysgiadol ar gyfer trigolion a busnesau ynghylch mudo’r DU o’r hen rwydwaith ffôn analog cyhoeddus (PSTN) i rwydwaith cwbl ddigidol erbyn 2025. Poblogaeth fwy gwybodus sy'n deall beth sy'n digwydd, pam, ac unrhyw gamau y mae angen iddynt eu cymryd i baratoi. To be delivered in 2024/2025 To be delivered in 2025/2026