Yn yr adran hon
- Rhageiriau
- Ein gweledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin
- Beth yw Strategaeth Ddigidol?
- Sut y gwneir cynlluniau: Cysoni Lleol, Rhanbarthol a Chenedlaethol
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
- Amcanion Llesiant Sir Gaerfyrddin
- Nodau Llesiant Cymru
- Ymgysylltu a Chynnwys
- Partneriaethau a Chydweithio
- Llywodraethu: Ein Rhaglen Drawsnewid
- Monitro Buddion
- Adeiladu Sylfeini Digidol yn Sir Gaerfyrddin
- Y Gymraeg
- Carbon Sero Net
- Ysgolion
- Hwb a Chynllun Cynaliadwyedd Hwb
- Aelodau Etholedig
- Adnoddau
- Yr hyn a gyflawnir gennym
Hwb a Chynllun Cynaliadwyedd Hwb
Ers 2012, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu mynediad at ystod eang o seilwaith, gwasanaethau ac adnoddau digidol i ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu dull cenedlaethol o ymdrin â gwasanaethau digidol, gan alluogi ysgolion yng Nghymru i fanteisio i’r eithaf yn gyson ar y manteision trawsnewidiol y gall adnoddau digidol a thechnoleg eu rhoi i addysg; gan ddarparu amrywiaeth o wasanaethau digidol a fydd yn galluogi ac yn ysbrydoli ein hymarferwyr a'n dysgwyr i ymgorffori arferion digidol yn hyderus, yn ogystal â datblygu diwylliant, cymwyseddau, sgiliau a gwybodaeth ddigidol i ategu’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae’r offer a’r adnoddau digidol sy'n rhan o blatfform Hwb yn cefnogi dull cenedlaethol o gynllunio a darparu, yn galluogi rhannu sgiliau, dulliau ac adnoddau rhwng ymarferwyr addysgol yng Nghymru; yn cefnogi addysgu a dysgu yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn darparu mynediad cyfartal i offer ac adnoddau am ddim sy’n canolbwyntio ar yr ystafell ddosbarth i holl athrawon a dysgwyr Cymru.
I gefnogi hyn, byddwn yn:
- Parhau i fanteisio’n llawn ar y cynnyrch a’r gwasanaethau o fewn platfform Dysgu Hwb Llywodraeth Cymru a pharhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i fod yn gyfrannwr a dylanwadwr allweddol i raglen Hwb Cymru gyfan.
- Sicrhau bod pob dysgwr yn cael mynediad cyfartal i ddyfeisiau ym mhob ysgol, gan ddileu rhwystrau i greadigrwydd a dysgu oherwydd technoleg hen ffasiwn neu ddiffyg technoleg; gan ddileu anghydraddoldeb digidol rhwng ysgolion fel bod pob myfyriwr yn cael cyfle cyfartal i lwyddo.
- Buddsoddi yn seilwaith a thechnoleg ein hysgolion, gan gynnwys goruchwylio a darparu Grant Hwb ar gyfer Seilwaith mewn Ysgolion a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chynllun Cynaliadwyedd Hwb, gan ategu'r ddarpariaeth addysg ar gyfer pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin.
- Lleihau seilwaith ffisegol costus o fewn ysgolion, gan leihau'r gwariant cyfalaf sydd ei angen i adnewyddu'r seilwaith hwn. Mae lleihau'r seilwaith ffisegol mewn ysgolion hefyd yn cyfateb i ostyngiad yn y defnydd o ynni a lleihau ôl troed carbon ar gyfer pob campws ysgol, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
- Mae data ysgol yn ased hanfodol. Byddwn yn sicrhau ei fod yn cael ei storio yn y lleoliad mwyaf diogel, gwydn, effeithlon, cost effeithiol a phriodol.
- Darparu amgylchedd diogel i staff a dysgwyr addysgu a dysgu gartref, gan sicrhau bod ein myfyrwyr yn parhau i ddysgu pan nad yw’n bosibl mynychu’r ysgol.