Yn yr adran hon
- Rhageiriau
- Ein gweledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin
- Beth yw Strategaeth Ddigidol?
- Sut y gwneir cynlluniau: Cysoni Lleol, Rhanbarthol a Chenedlaethol
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
- Amcanion Llesiant Sir Gaerfyrddin
- Nodau Llesiant Cymru
- Ymgysylltu a Chynnwys
- Partneriaethau a Chydweithio
- Llywodraethu: Ein Rhaglen Drawsnewid
Sut y gwneir cynlluniau: Cysoni Lleol, Rhanbarthol a Chenedlaethol
Er mwyn sicrhau cysondeb strategol, osgoi achosion o ail-wneud gwaith a chanfod cyfleoedd i sicrhau buddion lluosog, rydym wedi gweithio i sicrhau bod ein Strategaeth Ddigidol yn gyson â chynlluniau a blaenoriaethau sector cyhoeddus lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Bydd y Strategaeth Ddigidol hon yn helpu i sicrhau y gellir cyflawni nifer o’r canlyniadau disgwyliedig a nodir yn Strategaeth Gorfforaethol ddiwygiedig 2022-2027 a Datganiad Gweledigaeth y Cabinet, a bydd hynny yn ei dro yn sail i gyflawni ein 4 nod llesiant, gan gyd-fynd â 7 nod llesiant Cymru.
Er mwyn sicrhau cysondeb a 'llinyn aur' rhwng pob lefel o'r Llywodraeth a phartneriaid a rhanddeiliaid perthnasol, rydym wedi cynllunio a sicrhau bod holl gyflawniadau'r Strategaeth Ddigidol hon yn cyd-fynd â chynlluniau a strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol allweddol, gan gynnwys:
Cenedlaethol
- Strategaeth Ddigidol i Gymru.
- Strategaeth Ddigidol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru.
- Cymraeg 2050: Cynllun Gweithredu Technoleg y Gymraeg.
Rhanbarthol
- Strategaeth Adfywio Dinas-ranbarth Bae Abertawe.
- Fframwaith Economaidd Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru.
- De-orllewin Cymru Ddigidol: Portffolio o Gyfleoedd.
Lleol
- Strategaeth Gorfforaethol 2022–2027.
- Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022–2027.
- Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin.
- Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2023-28.
- Strategaeth Trawsnewid Sir Gaerfyrddin 2022-2027.
- Ein Strategaeth Gweithlu 2024-2029
- Gweledigaeth Economaidd Sir Gaerfyrddin 2030.
- Strategaeth Cyllideb Cyngor Sir Caerfyrddin
Er mwyn sicrhau bod y Strategaeth Ddigidol hon yn cael ei chyflawni’n effeithiol, bydd achosion busnes a chynlluniau prosiect yn cael eu datblygu ar gyfer prosiectau a mentrau allweddol. Bydd cynnydd yn cael ei fonitro drwy ein systemau rheoli perfformiad corfforaethol. Dylunnir a chyflwynir pob prosiect a menter yn unol ag egwyddorion y 5 Ffordd o Weithio.
Dylid ystyried agweddau digidol yn rhan o broses ailadroddol a pharhaus. Er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd, a bod ein Strategaeth Ddigidol yn parhau i fod yn ddogfen 'fyw', byddwn yn:
- Cynnal adolygiad blynyddol, a diwygio a diweddaru'r strategaeth hon lle bo angen.
- Llunio adroddiad blynyddol ar gyfer y Strategaeth Ddigidol hon.
- Adolygu a diweddaru'r holl gynlluniau a pholisïau digidol cysylltiedig.
- Mabwysiadu a chadw at Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru lle bynnag y bo modd.