Rheoli Perfformiad
Diweddarwyd y dudalen ar: 30/04/2026
Mae Rheoli Perfformiad Effeithiol yn ein galluogi i nodi meysydd sy'n peri pryder sydd angen eu gwella yn ogystal â chydnabod a hyrwyddo meysydd perfformiad llwyddiannus o safon uchel. Prif nod rheoli perfformiad yw sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud a chyflawni canlyniadau gwell i'n preswylwyr a'n defnyddwyr gwasanaeth.
Heb wybodaeth rheoli perfformiad dibynadwy, amserol a chywir, mae'n anodd i breswylwyr, aelodau, cyrff craffu a swyddogion wybod y canlynol:
- Sut mae'r Cyngor yn perfformio
- Lle gellir datblygu gwasanaethau
- A ydym yn bodloni ein hamcanion allweddol?
Mae angen i'r wybodaeth hon fod yn gynrychioladol, yn dryloyw ac yn ystyrlon.
Ein Strategaeth Gorfforaethol
Mabwysiadwyd a chyhoeddwyd ein Strategaeth Gorfforaethol gyfredol ym mis Mawrth 2023. Mae hyn yn nodi'r hyn rydyn ni'n dymuno ei gyflawni yn erbyn ein pedwar amcan llesiant. Bwriad y rhain yw mynd i'r afael â heriau pennaf a mwyaf cymhleth y sir, gan sicrhau ein bod yn cyfrannu cymaint ag sy'n bosibl i'r saith nod llesiant cenedlaethol.
Hunanasesu ac Adrodd
Mae'r ffordd rydyn ni'n rheoli perfformiad wedi'i wreiddio'n gadarn mewn dull hunan-asesu. Mae'r ymagwedd hon yn rhan o'n hamcanion llesiant ac mae'n rhoi'r cyd-destun yr ydym yn arfer ein swyddogaethau ynddo, yn defnyddio adnoddau, ac yn sicrhau bod llywodraethu'n effeithiol.
Mae rheoleiddwyr allanol yn dilysu ein hunanasesiad ac mae ein cynlluniau a'n gweithdrefnau yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Asesiad Perfformiad y Panel
Mae'r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn gosod dyletswydd ar gynghorau i drefnu i banel gynnal asesiad lefel sefydliadol, corfforaethol, o'r graddau y mae'r cyngor yn bodloni ei ofynion perfformiad. Mae'r gofynion perfformiad hyn yn cynnwys a yw'r Cyngor:
- yn arfer ei swyddogaethau'n effeithiol;
- yn sicrhau ei fod yn defnyddio ei adnoddau mewn modd darbodus, effeithlon ac effeithiol; ac
- a yw'r trefniadau llywodraethu yn effeithiol ar gyfer sicrhau'r uchod.
Cynhaliwyd yr asesiad hwn yn Sir Gaerfyrddin yn ystod mis Mehefin 2025, a pharatodd y Panel adroddiad ac argymhellion ar ei ganfyddiadau. Mae canfyddiadau'r Panel wedi cael eu hystyried gan y Cyngor, gyda'n hymateb yn nodi'r camau y cytunwyd arnynt fel y rhai yr ydym yn bwriadu eu cymryd mewn perthynas â phob argymhelliad. Bydd ein cynnydd yn cael ei fonitro drwy ein systemau rheoli perfformiad arferol.


