Strategaeth Drawsnewid 2022 - 2027

Rhagair

Prif Weithredwr

Croeso i Strategaeth Drawsnewid Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer y cyfnod 2022-27.

Hwn yw’r tro cyntaf i’r Cyngor gynhyrchu Strategaeth Drawsnewid, a’r bwriad yw y bydd yn darparu’r fframwaith strategol ar gyfer tanio rhaglen o newid a thrawsnewid arwyddocaol ar draws y sefydliad dros y 5 mlynedd nesaf.

Bydd hyn yn cynnig cyfle i adeiladu ar lwyddiant Rhaglen TIC dros y 10 mlynedd diwethaf, ac ehangu rhychwant ac effaith y rhaglen er mwyn iddi allu cefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau allweddol eraill y Cyngor.

Nid oes unrhyw amheuaeth y bu profiad y ddwy flynedd diwethaf a delio ag effaith pandemig Covid-19 yn un o’r cyfnodau mwyaf heriol a wynebodd y Cyngor hwn erioed. Wrth inni ddod allan o’r argyfwng, mae casgliad arall o heriau yn ein hwynebu, ond mae gennym hefyd gyfleoedd pwysig i drawsnewid y ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu ein gwasanaethau.

Mae’r profiad o ymateb i’r pandemig wedi codi disgwyliadau ynghylch y defnydd o dechnoleg i’r dyfodol, a bydd yn chwarae rôl arwyddocaol yn moderneiddio a thrawsnewid ein ffordd o weithio yn y dyfodol. Mae hwn yn gyfle i edrych yn sylfaenol ar ‘pam’ a ‘sut’ rydym yn cyflawni ein prosesau ac yn darparu ein gwasanaethau.

Bydd rôl staff yn elfen allweddol o sicrhau’r trawsnewid hwn, gan mai nhw’n aml sydd yn y sefyllfa orau i ddeall ym mha feysydd mae angen inni newid a gwella. Gwyddom fod ymateb staff wrth gynnal gwasanaethau yn wyneb yr heriau digynsail a grëwyd gan y pandemig yn greadigol a deinamig. Mae cynnal yr ethos hwn yn gonglfaen y Strategaeth hon, a byddwn yn annog ein staff i gymryd pob cyfle i gymryd rhan yn y rhaglen gyffrous o drawsnewid dros y 5 mlynedd nesaf.

 

Arweinydd

Rwyf yn falch iawn o allu cyflwyno Strategaeth Drawsnewid newydd y Cyngor. Bydd gweithredu’r Strategaeth hon yn chwarae rôl allweddol yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r nodau ac amcanion a gyflwynir yn ein Strategaeth Gorfforaethol newydd, fydd yn cynnwys y cyfnod 2022-2027.

Er bod y Cyngor wedi wynebu heriau digynsail dros y 2 flynedd ddiwethaf, gellid dadlau fod y degawd diwethaf wedi bod yn gyfnod o her barhaus i lywodraeth leol. Arweiniodd penderfyniad Llywodraeth y DU i dorri gwariant cyhoeddus yn sylweddol wrth ymateb i argyfwng ariannol 2008 at heriau cyllidebol difrifol i lywodraeth leol a barhaodd am gyfnod o bron i 10 mlynedd.

Mae’r ffaith ein bod wedi gallu dal ati i ddarparu gwasanaethau o ansawdd yn ystod cyfnod pan oedd y galw am wasanaethau yn cynyddu hefyd yn dyst i’r blaengaredd a’r creadigrwydd a ddangoswyd gan staff y Cyngor wrth geisio dod o hyd i ffyrdd o ddarparu gwasanaethau mewn ffyrdd mwy effeithlon.

Mae Rhaglen TIC y Cyngor wedi chwarae rôl arwyddocaol yn hyn trwy helpu annog y newidiadau diwylliannol ac ymddygiadol a chefnogi newid yn ein ffordd o feddwl am ‘beth rydym yn ei wneud’ a ‘sut rydym yn ei wneud’. Fel aelodau etholedig, rydym wastad yn falch o glywed am sut mae tîm TIC yn gweithio gyda chydweithwyr i ddarganfod ffyrdd gwell o weithio, yn aml yn arwain at welliannau i gost ac ansawdd gwasanaethau.

Mae’r ychydig flynyddoedd nesaf yn debygol o fod yr un mor, os nad yn fwy heriol, gan fod codiadau costau allanol yn debygol o roi mwy o straen ar gyllidebau ariannol. Rydym hefyd yn debygol o barhau i weld cynnydd arwyddocaol yn y galw am wasanaethau megis gofal cymdeithasol yn y cyfnod wedi Covid hwn, ynghyd â chynnydd yn nisgwyliadau cwsmeriaid a gododd hefyd yn ystod y pandemig. Bydd y rhaglen newid hon yn galluogi’r Cyngor i edrych i’r dyfodol yn hyderus a pharhau i gyflawni ein dyheadau a’n blaenoriaethau er budd y bobl sy’n byw yn ein sir.