Strategaeth Drawsnewid 2022 - 2027
Ein Blaenoriaethau Trawsnewid
Cynigir fod y Rhaglen yn canolbwyntio ar gefnogi’r gwaith o gyflawni’r blaenoriaethau thematig canlynol:
Blaenoriaeth |
Nod |
Arbedion a Gwerth am Arian |
Parhau i sicrhau arbedion ariannol trwy weithio’n fwy effeithlon neu dorri costau a ffyrdd mwy clyfar o weithio. |
Incwm a Masnacheiddio |
Datblygu agwedd fwy masnachol at ddarparu gwasanaethau’r Cyngor gyda’r bwriad o gynyddu lefel yr incwm a gynhyrchir. |
Gweithle |
Manteisio ar y cyfleoedd a gyflwynwyd gan symud at weithio hybrid ac ad-drefnu ymhellach bortffolio adeiladau’r Cyngor a moderneiddio a gwella’r amgylchedd gwaith yn yr adeiladau craidd eraill. |
Gweithlu |
Goruchwylio’r gwaith o ddatblygu Strategaeth Weithlu a chyflawni blaenoriaethau allweddol ar gyfer y gweithlu i alluogi’r Cyngor i ddod yn sefydliad mwy modern ac ymatebol ac yn ‘Gyflogwr o Ddewis’. |
Cynllunio a Gwella Gwasanaethau |
Darparu ar gyfer ymagwedd fwy cynaliadwy a chreadigol at yr adolygiad, ailfodelu a gwella gwasanaethau’r Cyngor. |
Cwsmeriaid a Thrawsnewid Digidol |
Parhau i wneud gwell defnydd o dechnoleg i ddarparu prosesau gwasanaeth mwy clyfar ac effeithlon a chynnig gwell profiad i gwsmeriaid. |
Datgarboneiddio a bioamrywiaeth |
Cefnogi’r Cyngor i greu newid trawsnewidiol i gefnogi amcanion a thargedau datgarboneiddio a bioamrywiaeth allweddol. |
Ysgolion |
Cynorthwyo ysgolion i ddod o hyd i ffyrdd o dorri costau a ffyrdd gwell o weithio, a chefnogi’r gwaith o ddatblygu cyllidebau ysgol mwy cynaliadwy a helpu diogelu darpariaeth academaidd rheng flaen. |
Blaenoriaethau Croestoriadol
Hefyd, gofynnir i bob un o’r ffrydiau gwaith ystyried y themâu trawsbynciol canlynol fel rhan o’u gwaith:
Cwsmeriaid |
Sut mae’r hyn rydym yn gobeithio ei gyflawni yn cwrdd ag anghenion ein cwsmeriaid? |
Gwneud Gwell Defnydd o Adnoddau |
A fydd yn creu ffordd well a mwy effeithlon o weithio allai arwain at dorri costau, arbedion ariannol neu wneud mwy am yr un lefel o fewnbynnau? |
Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant |
Sut mae’n cefnogi’r 5 Ffordd o Weithio sy’n cynnal y Ddeddf?
|
Datgarboneiddio |
Sut mae’r gwaith hwn yn helpu amcanion Carbon Sero Net y Cyngor? |
Data |
Gofalu fod pob penderfyniad yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth briodol? |