Strategaeth Drawsnewid 2022 - 2027
Ysgolion
1. Nod cyffredinol
Cynorthwyo ysgolion i ddod o hyd i ffyrdd o dorri costau a ffyrdd gwell o weithio, a chefnogi’r gwaith o ddatblygu cyllidebau ysgol mwy cynaliadwy a helpu i ddiogelu darpariaeth academaidd rheng flaen.
2. Beth mae angen inni ei drawsnewid a pham?
Sefydlwyd Rhaglen Ysgolion TIC yn 2017 i gefnogi ein hysgolion wrth i gyllidebau addysg ddod o dan bwysau cynyddol tra bod ysgolion yn ceisio cynnal deilliannau o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc. Mae’r rhaglen yn defnyddio egwyddorion craidd TIC sef cydweithio a herio arferion presennol trwy weithio gydag ysgolion i gefnogi penaethiaid a chyrff llywodraethol i fanteisio ar gyfleoedd i dorri costau ar draws ystod eang o weithgareddau.
Un o brif elfennau’r rhaglen hyd yn hyn oedd gweithio gydag ysgolion i ddod o hyd i drefniadau caffael amgen ar gyfer nifer o wasanaethau cymorth, ac mae’r gwaith hwn wedi helpu i greu arbedion cost o fwy na £1miliwn hyd yn hyn. Mae’r rhain wedi cynnwys argraffu a chopïo, gwasanaethau ffôn, deunydd papur ac adnoddau addysgol a gwastraff ac ailgylchu, ymhlith eraill. Wrth edrych i’r dyfodol, bydd angen parhau i godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd hyn ac annog ysgolion i ddal ati i roi sylw i sicrhau Gwerth Gorau ac ystyried y ffordd fwyaf effeithlon o ddefnyddio adnoddau yn eu cynlluniau gwario, yn enwedig felly pan mae newidiadau yn yr arweinyddiaeth. Gellir gwneud hyn trwy gylchlythyron rheolaidd a sesiynau ymgysylltu ffurfiol gyda llywodraethwyr ysgol a gynhaliwyd yn y gorffennol.
Hefyd, mae’r rhaglen wedi ceisio gwella ansawdd a gwerth am arian nifer o wasanaethau gweithredol a ddarperir i ysgolion gan gynnwys glanhau adeiladau, cynnal a chadw eiddo a chynnal a chadw tir. Mae’r adolygiadau hyn wedi creu nifer o ddeilliannau cadarnhaol, gan gynnwys cyflwyno’r Gwasanaeth Eiddo ‘Tasgfan’ i ysgolion sy’n cynnig y potensial i greu newid a gwelliannau arwyddocaol yn ansawdd y gwasanaeth y mae ysgolion yn ei dderbyn. Mae’r adborth cynnar i’r gwasanaeth gan benaethiaid cynradd yn awgrymu ei fod yn cael effaith gadarnhaol a’r gobaith yw, yn dilyn y cyfnod prawf presennol, y bydd ysgolion yn fodlon cyllido’r gwasanaeth yn uniongyrchol o gyllidebau ysgol yn y dyfodol.
Gweithgaredd allweddol arall a hyrwyddir gan y rhaglen yw rhannu arfer da wrth gynllunio’n effeithlon ar gyfer pennu cyllidebau a gwneud arbedion ymhob agwedd ar waith yr ysgol trwy ddefnyddio data meincnodi lleol i gymharu eu gwariant gydag eraill. Mae galluogi ysgolion i gymharu eu hunain ag eraill yn y sir ar draws nifer o feysydd cwricwlaidd, staffio a gweithredol yn hytrach na gweithio ar eu pen eu hunain wedi golygu y gellir rhannu deialog agored ac arfer da rhwng ysgolion er mwyn gweithio’n fwy effeithlon. Er enghraifft, mae nifer o ysgolion wedi adolygu eu proffiliau staffio yng ngoleuni gwybodaeth yn y dogfennau meincnodi ac wedi adolygu eu strwythurau TLR gan greu arbedion a strwythurau mwy darbodus. Cafodd pandemig Covid-19 effaith arwyddocaol ar effeithiolrwydd data ariannol ysgolion, ac mae hyn wedi golygu y cafodd y gweithgarwch meincnodi ei gyfyngu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond mae’n fwriad aildanio’r gwaith hwn yn y misoedd nesaf ac i mewn i’r flwyddyn academaidd nesaf.
Mae defnyddio templedi effeithlonrwydd ariannol i roi ‘archwiliad iechyd’ ariannol i ysgolion wedi cael ei dreialu gyda nifer o ysgolion, a’r gobaith yw y bydd modd datblygu hyn yn y dyfodol ynghyd â’r gwaith meincnodi er mwyn cefnogi ysgolion i ddatblygu cyllidebau cynaliadwy. Gellir defnyddio’r adroddiadau hyn hefyd i gyfrannu at y corff tystiolaeth wrth ystyried cynlluniau busnes a phenderfyniadau yng nghyd-destun adolygiad y Rhaglen Moderneiddio Addysg.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, cafodd y rhaglen ei gwreiddio’n ddyfnach yng ngwaith yr is-adran Mynediad at Addysg o fewn yr Adran Addysg a Phlant, yn benodol felly trwy gyfrannu at adolygiad y Rhaglen Moderneiddio Addysg sy’n ystyried cynaliadwyedd ôl-troed ysgolion i’r dyfodol ar draws yr Awdurdod. Mae hyn wedi cynnwys gwaith parhaus i ddatblygu rhaglen newydd o asesiadau Addasrwydd Ysgolion a chefnogi ysgolion gyda chyfrifiadau capasiti ysgolion, sydd oll yn cyfrannu at adolygiad strategol y Rhaglen Moderneiddio Addysg.
3. Prif Amcanion
- Cefnogi ysgolion i ddod o hyd i ffyrdd o ddatblygu cyllidebau ariannol cynaliadwy yn y tymor, canol a hir a sicrhau bod y gwaith hwn yn gydnaws â Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy’r Cyngor.
- Trafod arbedion effeithlonrwydd ac arbedion costau posib o fewn cyllidebau ysgol gyda chyrff llywodraethu.
- Datblygu fframwaith i rannu a lledaenu arfer da ar draws ysgolion.
- Gweithio’n agos gyda gwasanaethau allweddol yn y Cyngor i adnabod data a gwybodaeth y gellir eu defnyddio mewn trafodaethau gydag ysgolion ynghylch cyfleoedd arbedion ariannol posib e.e. strwythurau staffio, cymorth busnes, maint dosbarthiadau.
- Datblygu ymhellach a chryfhau rôl caffael strategol mewn ysgolion a chefnogi’r defnydd o fframweithiau priodol i sicrhau bod gwariant ysgolion yn cynnig gwerth am arian.
- Cefnogi’r gwaith o ailfodelu’r berthynas rhwng ysgolion a gwasanaethau allweddol yn y Cyngor ynghylch meysydd gwariant dirprwyedig e.e. cynnal a chadw eiddo a thiroedd..
- Datblygu dulliau o gefnogi meincnodi data ar draws ysgolion y sir ynghylch meysydd gwariant allweddol.
- Gweithio gydag Uned Adnoddau Dynol y Cyngor a Phenaethiaid er mwyn ceisio lleihau gwariant ar absenoldebau salwch, a recriwtio a phenodi staff, gan gynnwys y defnydd o athrawon cyflenwi.
4. Beth fydd ein prif flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt?
- Cynnal gweithgareddau Meincnodi Gwariant / Gwariant Rheolaidd a rhannu data gydag ysgolion uwchradd i symbylu trafodaeth a hwyluso proses o rannu arfer da wrth bennu cyllidebau cynaliadwy erbyn Tachwedd 2022.
- Datblygu ac ehangu’r defnydd o dempledi Effeithlonrwydd Ariannol gydag ysgolion penodol er mwyn cefnogi a herio’r rhai sydd mewn anawsterau ariannol. Ysgolion blaenoriaeth gychwynnol erbyn Mawrth 2023.
- Adolygu effaith Gwasanaeth Eiddo Ysgolion ‘Tasgfan’ i sicrhau ei fod yn gost effeithiol i ysgolion a’r Awdurdod Lleol a chyfrannu at ei ddatblygu mewn ffordd gynaliadwy i’r dyfodol. Cwblhau adroddiad a gwerthusiad cychwynnol, monitro parhaus a gwerthusiad terfynol erbyn Chwefror 2023.
- Parhau i wreiddio argymhellion o’r adolygiad o Gynnal a Chadw Tiroedd er mwyn cefnogi ysgolion gyda gwasanaeth mwy effeithlon a chost-effeithiol erbyn Mawrth 2023.
- Ymchwilio i feysydd gwariant uchel yng nghyllidebau ysgolion, e.e defnyddio staff asiantaethau/cyflenwi a sefydlu cysylltiadau gyda’r agenda corfforaethol ehangach. Cysoni gyda gwaith corfforaethol yn y maes hwn erbyn Mehefin 2023.
- Ymchwilio i drefniadau clwstwr/a rennir ar gyfer swyddogaethau swyddfa gefn mewn ysgolion er mwyn manteisio ar arbedion maint a ffyrdd mwy effeithlon o weithio, yn enwedig felly mewn ysgolion cynradd llai erbyn Gorffennaf 2023.
- Gweithredu canfyddiadau’r Adolygiad o Gytundebau Lefel Gwasanaeth ar draws adrannau a gydag ysgolion. Adolygu’r argymhellion erbyn Mawrth 2023.
- Parhau i adnabod cyfleoedd i wneud arbedion o gontractau caffael corfforaethol i ysgolion a rhoi gwybod i ysgolion amdanynt i sicrhau ymagweddau Gwerth Gorau at wasanaethau a meysydd gwariant allweddol. Parhaus.
- Defnyddio’r Briffiau Gwaith Ysgolion rheolaidd a Chylchlythyron Addysg a Gwasanaethau Plant i gyfathrebu a rhannu arfer da ymhob mater ariannol. Parhaus.
Parhau â’r rhaglen dreigl o Arolygon Addasrwydd Ysgolion fel rhan o’r adolygiad ehangach a gweithredu’r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Rhaglen Moderneiddio Addysg). Parhaus, cwblhau ysgolion uwchradd erbyn Rhagfyr 2022. - Arwain ar y prosiect Plant sy’n Codi’n 4 oed er mwyn cytuno darpariaeth feithrin fwy effeithlon a chost-effeithiol mewn ysgolion erbyn Mawrth 2023.
- Cynnal adolygiad o ddalgylchoedd yn unol â rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Rhaglen Moderneiddio Addysg). Cadarnhau ei fod yn gydnaws â’r adolygiad Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
- Cefnogi’r adran ADY i ddatblygu modelau cyllido mwy cost effeithiol ar gyfer darpariaeth ADY prif ffrwd ac arbenigol mewn ysgolion ac unedau arbenigol erbyn Mawrth 2023.
5. Sut fyddwn ni’n mesur effaith y gwaith hwn?
- Arbedion ariannol i ysgolion
- Effaith gyffredinol ar gyllidebau ysgolion
- Gwella gwasanaethau
- Cyfrannu at newid systemau