Strategaeth Drawsnewid 2022 - 2027
Llywodraethu ac Ymagwedd
Llywodraethu
Un o gryfderau tybiedig y drefn bresennol ar gyfer TIC yw’r trefniadau llywodraethu ar gyfer goruchwylio rheoli a chyflawni’r rhaglen. Un o brif amcanion Bwrdd Rhaglen TIC oedd darparu ar gyfer ‘trefniadau llywodraethu cadarn a chynhwysol fydd yn ceisio annog a hyrwyddo creadigrwydd, hyblygrwydd a dysgu ar draws y sefydliad i gefnogi newid a thrawsnewid cynaliadwy, ond bydd yn seiliedig hefyd ar drefn prosiect a pherfformiad cynhwysfawr i sicrhau y caiff y deilliannau angenrheidiol eu gweithredu a’u cyflawni’n effeithiol.’
Yn adolygiad ‘Pwyso a Mesur’ TIC a gynhaliwyd yn 2019, amlygwyd y diwylliant a’r amgylchedd cadarnhaol a grëwyd o fewn Bwrdd Rhaglen TIC, sydd wedi cynhyrchu agwedd onest a thryloyw at waith gwella’r Rhaglen. Mae’r Bwrdd hefyd wedi ceisio cryfhau ei rôl yn monitro a goruchwylio cynnydd a chyflawni deilliannau o’r rhaglen waith. Mae cyfle erbyn hyn i adolygu ymhellach ein ffordd o weithio yn y maes hwn a chreu ffocws manylach fyth ar agweddau cyflawni’r rhaglen.
Cynigir y dylid ailenwi Bwrdd Rhaglen TIC yn ‘Fwrdd Trawsnewid’ a bydd yn cyfarfod yn chwarterol o hyn ymlaen. Bydd y cyfarfodydd hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar y cynnydd a’r deilliannau a gyflawnwyd ar y blaenoriaethau trawsnewid a nodwyd yn y Strategaeth Drawsnewid a’r Rhaglen Gyflawni flynyddol ac yn helpu adnabod atebion i broblemau neu rwystrau all fod yn effeithio ar gynnydd.
Argymhellir hefyd y dylid ehangu aelodaeth y Bwrdd Trawsnewid i gynnwys pob Cyfarwyddwr, ac y dylai adlewyrchu rhai o’r blaenoriaethau newydd fydd yn cael eu cynnwys yn y Rhaglen e.e., Gweithlu, Carbon Sero Net a’r blaenoriaethau Swyddfeydd/Adeiladau.
Cyflawni
Bydd Grwpiau Cyflawni bach, penodedig yn cael eu sefydlu hefyd i gefnogi’r gwaith o gyflawni pob un o’r blaenoriaethau trawsnewid a byddant yn cael eu harwain gan Gyfarwyddwr/Pennaeth Gwasanaeth.
Bydd pob Grŵp Cyflawni yn cynhyrchu crynodeb diwedd blwyddyn ac yna’n cytuno cynllun cyflawni newydd ar gyfer y flwyddyn ganlynol, gan adlewyrchu’r blaenoriaethau a gytunwyd yn y Bwrdd Trawsnewid.
Cynhelir cyfarfodydd cynnydd chwarterol gyda’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Drawsnewid a chaiff diweddariadau 6 misol eu hadrodd i’r Cabinet.
Adnoddau
Mae’r deilliannau llwyddiannus a gynhyrchwyd gan Raglen TIC yn ystod y 10 mlynedd diwethaf hefyd yn dangos pwysigrwydd cael adnoddau pwrpasol i ddarparu’r capasiti angenrheidiol i helpu creu newid sefydliadol effeithiol a Rhaglen Drawsnewid.
Mae’r capasiti hwn yn golygu y gellir datblygu a chyflawni’r rhaglen mewn ffordd amserol a’i bod yn symbylu gweithredoedd, goruchwylio cynnydd a chefnogi fframwaith monitro ac adrodd effeithiol.
Bydd y tîm TIC presennol yn cyflawni’r rôl hon ond caiff ei ailenwi’n ‘Tîm Trawsnewid’.
Efallai y bydd angen adolygu adnoddau’r tîm i sicrhau bod ganddo’r capasiti a’r sgiliau i gefnogi’r blaenoriaethau a amlinellir yn y rhaglen.
Pobl, Sgiliau a Diwylliant
Ymgysylltu a chyfathrebu â staff
Bydd angen i bobl fod ynghanol y broses o greu newid a thrawsnewid ar draws y Cyngor. Bydd newid diwylliant y sefydliad a chyflymu newid yn allweddol i sicrhau y byddwn yn llwyddo i weithredu rhaglen uchelgeisiol fydd yn gwella gwasanaethau, yn ogystal â gwneud gwell defnydd o adnoddau.
Rydym eisiau grymuso ein gweithlu i fod yn flaengar a chreadigol ac i gyflwyno syniadau newydd i wella gwasanaethau. Yn ogystal â ‘beth’ rydym yn ei gyflawni, mae hefyd yn fater o ‘sut’ rydym yn gwneud hynny. Rydym eisiau meithrin diwylliant un Cyngor sy’n ymgorffori positifrwydd, cyfrifoldeb personol, bod yn agored, a thryloywder. Bydd angen grymuso pobl i fod yn eiriolwyr newid ac i fabwysiadu ein gwerthoedd a’n hymddygiadau. Gall yr ymddygiadau hyn greu diwylliant cyffredin sy’n dathlu ymagwedd ffres ac unigryw at wasanaeth cyhoeddus, a sut rydym yn disgwyl i’n gweithlu ymddwyn. Trwy arddangos mwy o ddeilliannau a gwerthoedd ac ymddygiadau sy’n rhoi pobl yn gyntaf, gallwn helpu darparu’r gwasanaeth gorau posib i’n cymunedau a chreu lle gwych i weithio ynddo.
Bydd gan staff nifer o gyfleoedd gwahanol i gymryd rhan yn y Rhaglen Drawsnewid:
- Mewnrwyd Staff
- Awgrymiadau a syniadau
- Cymryd rhan mewn prosiectau ac adolygiadau
- Cyfleu barn ac adborth cwsmeriaid
- Arolygon Staff
- Cylchlythyr Trawsnewid
Dysgu a Datblygu
Bydd gan swyddogaeth dysgu a datblygu’r Cyngor rôl allweddol i’w chwarae hefyd mewn unrhyw Raglen Drawsnewid sefydliadol, trwy sicrhau y gall staff ddatblygu’r sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau angenrheidiol i gefnogi’r math o newid sydd ei angen.
Gall y Rhaglen Drawsnewid ei hun chwarae rôl hefyd trwy gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r sgiliau a’r ymddygiadau hyn, trwy geisio cael staff i gymryd rhan weithredol yng ngwaith y rhaglen.
Un o’r prif themâu a ddaeth allan o’r adolygiad o ymateb y Cyngor i Covid-19 oedd bod staff yn teimlo’n fwy grymus a’u bod wedi cael eu hannog i feddwl yn greadigol wrth geisio datblygu atebion newydd i heriau’r pandemig. Dylai’r Rhaglen chwilio’n barhaus am gyfleoedd i staff chwarae rhan weithredol yn y prosiectau ac adolygiadau fydd yn sylfaen i gyflawni’r rhaglen. Mae egwyddorion cydweithio a gwaith partneriaeth wedi bod yn ganolog i ffordd TIC o weithio a dylai cam nesaf y broses drawsnewid geisio adeiladu ymhellach ar hynny.
Hefyd, dylai’r Rhaglen geisio datblygu’r sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen i gynnal ffordd gynaliadwy o gyflawni’r daith drawsnewid fydd yn galluogi timau i ddarparu ar gyfer eu gwaith newid a gwella eu hunain ar sail barhaus.
Sefydlwyd Rhaglen Arweinwyr y Dyfodol i helpu’r Cyngor i adnabod a datblygu ei uwch arweinwyr, ac fe gytunwyd y bydd cysylltiad agos rhwng Rhaglen Arweinwyr y Dyfodol â’r Rhaglen Drawsnewid i sicrhau bod gan y sawl sy’n cymryd rhan y sgiliau a’r profiad o arwain ar brosiectau trawsnewidiol.
Bydd gweithgarwch dysgu a datblygu yn cael ei gysoni er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r Rhaglen Drawsnewid trwy’r canlynol:
- Arweinyddiaeth – Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Datblygu Gwasanaethau/Rhaglen Arweinwyr y Dyfodol
- Rhaglenni datblygu rheoli
- Sgiliau penodol e.e. sgiliau digidol, gwelliant parhaus