Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027

Cyflwyniad gan yr Arweinydd

Mae'n bleser mawr gennyf rannu Datganiad Gweledigaeth y Cabinet hwn gyda chi. Mae'r weledigaeth hon yn amlinellu man cychwyn ein huchelgais dros y pum mlynedd nesaf.

Yn ystod etholiadau diweddar y Cyngor Sir bu'r aelodau yn sgwrsio â thrigolion a busnesau lleol ledled y Sir i ganfasio a rhannu eu barn wleidyddol. Mae'r datganiad hwn yn cynnwys rhai o'r materion a'r themâu allweddol a nodwyd gan aelodau yn ystod y sgyrsiau hynny. Ers yr etholiadau rydym wedi gweithio i gasglu'r wybodaeth hon i ffurfio datganiad o'n gweledigaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Mae pob gweinyddiaeth yn cyflwyno newidiadau sy'n adlewyrchu'r dirwedd bresennol ac rwyf wedi gwneud rhai newidiadau i bortffolios fy Nghabinet mewn ymateb i ddigwyddiadau lleol a byd-eang. Mae newid yn yr hinsawdd yn amlwg iawn ar yr agenda fyd-eang felly am y tro cyntaf rydym wedi creu portffolio penodol ar newid yn yr hinsawdd i ganolbwyntio ar ein huchelgais i fod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030 a'i sbarduno. Mae tymor y Cyngor hwn yn rhedeg tan 2027 felly mae gan bob un ohonom rôl allweddol i'w chwarae wrth gyflawni'r uchelgais hwnnw.

Rwyf hefyd wedi penodi aelod arweiniol dros Drechu Tlodi i gydlynu mater sy'n effeithio ar sawl portffolio. Er ein bod bellach yng ngham adfer y pandemig, ni allwn anwybyddu ei effaith ar ein cymunedau a hefyd y gwersi a ddysgwyd. Tynnodd Covid sylw at rai bylchau economaidd-gymdeithasol a'i effaith anghymesur ar rai grwpiau. Mae angen i ni fynd i'r afael â'r materion hynny, ac ynghyd â'r argyfwng costau byw presennol, gwyddom fod yr amseroedd eisoes yn anodd a'u bod yn debygol o waethygu cyn iddynt wella. Rydym wedi ymrwymo i ddeall anghenion lleol a gweithio gyda phartneriaid i'w diwallu.

Ers ymgymryd â rôl yr Arweinydd, rwyf wedi gweithio i ymgysylltu â grwpiau gwleidyddol eraill ac aelodau o'r Cyngor sydd heb gysylltiad pleidiol. Yn y Senedd, mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithio ar gyflawni eu cytundeb cydweithredu a bydd y weinyddiaeth hon yn cefnogi'r dull hwnnw lle bynnag y gallwn. Yn wir, gobeithiaf y bydd y weinyddiaeth hon hefyd yn un a gaiff ei diffinio gan gydweithredu, a gobeithiaf y bydd aelodau o bob rhan o'r siambr yn ymateb yn gadarnhaol i ddod o hyd i feysydd o dir cyffredin a gwerthoedd cyffredin.

Mae'r datganiad hwn yn rhoi syniad o'r math o wahaniaeth yr ydym am ei wneud ar draws y sir. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid i gryfhau'r economi, cynyddu ffyniant, a buddsoddi mewn tai, addysg, diwylliant, seilwaith a'r amgylchedd. Ond rydym am glywed beth yw'r blaenoriaethau yn eich barn chi. Dros yr ychydig fisoedd nesaf byddwn yn gweld canlyniadau'r Arolwg Trigolion a'r Arolwg Staff a byddwn yn gwrando ar awgrymiadau gan aelodau wrth i ni ddatblygu ein Strategaeth Gorfforaethol, i'w chyhoeddi yn yr Hydref, a fydd yn nodi amcanion strategol y Cyngor dros y pum mlynedd nesaf.

 

Y Cynghorydd Darren Price
Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin

 

 

Llinell Amser

18 Gorffennaf - yr Arweinydd yn cyflwyno'r Datganiad Gweledigaeth yn y Cabinet.

5 Awst – yr Arolwg Trigolion a'r Arolwg Staff yn cau.

Awst/Medi 2022 – Adolygiad o'r Datganiad Gweledigaeth i gyd-fynd â chanlyniadau'r Arolwg Trigolion a'r Arolwg Staff.

Hydref 2022 – Cyhoeddi'r Strategaeth Gorfforaethol.