Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027

Yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth

  • Parhau a chyflymu'r nod o fod yn Awdurdod Lleol Carbon Sero Net erbyn 2030 a sefydlu gweithgor trawsbleidiol i symud yr agenda Carbon Sero Net ac Argyfwng Natur yn ei blaen.
  • Defnyddio dull graddol o weithredu system newydd o gasglu gwastraff o dŷ i dŷ yn 2024/25, sy'n cydymffurfio â methodoleg casglu Glasbrint Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn golygu y bydd cartrefi yn derbyn gwasanaethau casglu deunydd i'w ailgylchu, bwyd a gwydr wythnosol o 24/25 ymlaen. Yn y cyfamser, bydd yna gyfnod pontio dros dro pryd y ceir casgliadau bagiau glas wythnosol, casgliadau gwastraff bwyd wythnosol, a chasgliadau gwydr a gwastraff na ellir ei ailgylchu o dŷ i dŷ bob tair wythnos o hydref 2022. Yn ogystal, byddwn yn cyflwyno gwasanaeth casglu cewynnau o ddechrau haf 2022.
  • Adolygu'r strategaeth fflyd cerbydau bresennol gyda'r bwriad o ddefnyddio'r dechnoleg cerbydau mwyaf addas ac allyriadau isel (gan gynnwys ffynonellau trydan neu ffynonellau pŵer eraill) dros y blynyddoedd nesaf. Bydd hyn yn cynnwys amnewid cerbydau casglu sbwriel a cherbydau eraill o fewn ein fflyd fel y bo'n briodol. Bydd hyn yn gwneud cyfraniad sylweddol i'n hymdrechion i ddatgarboneiddio ein gwasanaethau er mwyn mynd i'r afael â'n hymrwymiad lleol, cenedlaethol a byd-eang i fod yn Garbon Sero Net.
  • Cynyddu ynni adnewyddadwy ar dai cyngor ac adeiladau eraill i leihau biliau domestig a helpu i gyrraedd targedau newid yn yr hinsawdd.
  • Helpu pobl nad oes ganddynt geir neu ddulliau teithio personol eraill i fynd o gwmpas trwy ddatblygu strategaeth trafnidiaeth gymunedol a fydd yn nodi mentrau newydd posibl ac yn nodi sut y gellid ehangu neu wella cynlluniau presennol e.e. cynlluniau bwcabus a broceriaeth bysiau mini.
  • Gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol i ystyried dichonoldeb sefydlu cwmni bysiau sydd mewn eiddo cyhoeddus a'r gofynion logistaidd cysylltiedig i wasanaethu ardaloedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu gan gwmnïau presennol ar hyn o bryd, yn amodol ar newid mewn deddfwriaeth i ganiatáu i gwmnïau bysiau trefol gael eu sefydlu.
  • Parhau i lobïo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am gyfran deg o fuddsoddiad rheilffyrdd yng ngorllewin Cymru. Galw am wasanaeth trên cyflym 1 awr uniongyrchol o Gaerdydd i Gaerfyrddin. Bydd hyn yn cynnwys lobïo am ailagor rheilffyrdd gwasanaeth lleol a rheilffyrdd cangen eraill a chefnogi hyn.
  • Lobïo Llywodraeth Cymru am astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer llwybr rheilffordd a beicio i deithwyr ar hyd Cwm Gwendraeth.
  • Parhau i wneud cais am gyllid drwy Lywodraeth Cymru i alluogi rhagor o bwyntiau gwefru mynediad cyhoeddus i gael eu cyflwyno ledled y sir yn unol â'n strategaeth Seilwaith Cerbydau Trydan, gan ganolbwyntio'n benodol ar y rhwydwaith priffyrdd strategol i ddechrau, yn ogystal ag edrych ar leoliadau ar draws ardaloedd trefol a gwledig, wrth i nifer y cerbydau trydan gynyddu. Bydd hyn yn ein galluogi i adeiladu ar lwyddiant y gyfres bresennol o bwyntiau gwefru sydd wedi'u gosod, gan gynnwys y ganolfan uwch-wefru gyntaf yn Cross Hands.
  • Cynyddu bioamrywiaeth yr holl dir sy'n eiddo i'r Cyngor, a chydnabod y gydberthynas gref rhwng newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth a llesiant pobl. Ystyried defnyddio tir Cyngor Sir Caerfyrddin i greu cynefinoedd blodau gwyllt a phryfed peillio, gan gynnwys ochrau ac ymylon ffyrdd. Ni allwn ddatrys bygythiadau newid hinsawdd wedi’u peri gan fodau dynol a cholli bioamrywiaeth ar eu pen eu hunain. Rydyn ni naill ai’n datrys y ddau neu ddim un ohonynt.
  • Gweithio gyda Chronfa Bensiwn Dyfed i barhau â'r daith o leihau ei dwysedd carbon ac annog Cronfa Bensiwn Dyfed i weithio gyda chronfeydd pensiwn eraill a dysgu oddi wrthynt gyda'r bwriad o ddadfuddsoddi ymhellach mewn tanwydd ffosil a buddsoddiadau anfoesegol.
  • Sicrhau bod systemau ar waith i reoli gwaith Gorfodi Rheolau Cynllunio yn effeithlon ar draws y sir.
  • Parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a'i lobïo ar eu hymrwymiad i adeiladu ffordd osgoi ar gyfer Llandeilo.
  • Cynyddu ynni adnewyddadwy ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor a gweithio gyda phartneriaid i gefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy ledled y sir.
  • Cefnogi'r gwaith o gyflawni Amcanion Economaidd Strategol y Cyngor drwy benderfynu ar geisiadau cynllunio mawr o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt.
  • Sicrhau gwasanaethau effeithiol o ran rheoli a chynnal asedau seilwaith allweddol sy'n cynnwys asedau priffyrdd, draenio, gwasanaethau stryd ac amwynderau lleol.
  • Cefnogi'r egwyddor o goedwigaeth gyfrifol, mewn ymgynghoriad â chymunedau lleol a heb gael effaith andwyol ar gyflogaeth leol, diwylliant a hyfywedd cymunedol.
  • Parhau i adolygu ac asesu'r angen am lwybrau mwy diogel a mesurau gostegu traffig ar draws trefi a phentrefi Sir Gaerfyrddin fel rhan o'n mentrau diogelwch ar y ffyrdd, wrth aros am ganlyniad astudiaeth beilot Llywodraeth Cymru o derfyn cyflymder arfaethedig o 20mya, cyn i Lywodraeth Cymru benderfynu'n derfynol ar weithredu'r fenter terfyn cyflymder 20mya lawn ledled Cymru.
  • Datblygu cyfleusterau o fewn swyddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin i gefnogi Teithio Llesol i ymwelwyr, aelodau a swyddogion. Ystyried raciau beiciau, ystafelloedd newid, cyfleusterau cawod ac ati.
  • Cyflawni'r llwybr beicio a cherddwyr o Gaerfyrddin i Landeilo a fydd yn hwb enfawr i drefi a phentrefi lleol, a thwristiaeth ledled y sir.
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod seilwaith trydan ar waith i'n galluogi i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy uchelgeisiol i gyrraedd sero net.