Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027
Trechu Tlodi
- Penodi Aelod Cabinet i arwain yr Agenda Trechu Tlodi.
- Adolygu Cylch Gorchwyl y Panel Ymgynghorol ynghylch Trechu Tlodi er mwyn sicrhau bod ganddynt y cwmpas angenrheidiol i gynnal adolygiad o'r gwaith sy'n ofynnol mewn perthynas â Threchu Tlodi.
- Gofyn i'r Panel Ymgynghorol ynghylch Trechu Tlodi ddechrau ar unwaith ar faes gwaith ychwanegol mewn perthynas â'r argyfwng costau byw presennol.
- Gweithio gyda chyrff allanol i ddeall a mynd i'r afael â'r hyn y gellir ei wneud i gefnogi preswylwyr ar unwaith ac yn y tymor byr er mwyn lliniaru'r effaith negyddol ar gyllid unigol wrth i gostau byw barhau i gynyddu.
- Cefnogi'r gwaith o ddatganoli gweinyddiaeth llesiant a'r seilwaith angenrheidiol sydd ei angen i baratoi ar ei gyfer.