Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027

Cyflwyniad gan yr Arweinydd

Mae'n bleser mawr gennyf rannu Datganiad Gweledigaeth y Cabinet hwn gyda chi. Mae'r weledigaeth hon yn amlinellu man cychwyn ein huchelgais dros y pum mlynedd nesaf.

Yn ystod etholiadau diweddar y Cyngor Sir bu'r aelodau yn sgwrsio â thrigolion a busnesau lleol ledled y Sir i ganfasio a rhannu eu barn wleidyddol. Mae'r datganiad hwn yn cynnwys rhai o'r materion a'r themâu allweddol a nodwyd gan aelodau yn ystod y sgyrsiau hynny. Ers yr etholiadau rydym wedi gweithio i gasglu'r wybodaeth hon i ffurfio datganiad o'n gweledigaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Mae pob gweinyddiaeth yn cyflwyno newidiadau sy'n adlewyrchu'r dirwedd bresennol ac rwyf wedi gwneud rhai newidiadau i bortffolios fy Nghabinet mewn ymateb i ddigwyddiadau lleol a byd-eang. Mae newid yn yr hinsawdd yn amlwg iawn ar yr agenda fyd-eang felly am y tro cyntaf rydym wedi creu portffolio penodol ar newid yn yr hinsawdd i ganolbwyntio ar ein huchelgais i fod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030 a'i sbarduno. Mae tymor y Cyngor hwn yn rhedeg tan 2027 felly mae gan bob un ohonom rôl allweddol i'w chwarae wrth gyflawni'r uchelgais hwnnw.

Rwyf hefyd wedi penodi aelod arweiniol dros Drechu Tlodi i gydlynu mater sy'n effeithio ar sawl portffolio. Er ein bod bellach yng ngham adfer y pandemig, ni allwn anwybyddu ei effaith ar ein cymunedau a hefyd y gwersi a ddysgwyd. Tynnodd Covid sylw at rai bylchau economaidd-gymdeithasol a'i effaith anghymesur ar rai grwpiau. Mae angen i ni fynd i'r afael â'r materion hynny, ac ynghyd â'r argyfwng costau byw presennol, gwyddom fod yr amseroedd eisoes yn anodd a'u bod yn debygol o waethygu cyn iddynt wella. Rydym wedi ymrwymo i ddeall anghenion lleol a gweithio gyda phartneriaid i'w diwallu.

Ers ymgymryd â rôl yr Arweinydd, rwyf wedi gweithio i ymgysylltu â grwpiau gwleidyddol eraill ac aelodau o'r Cyngor sydd heb gysylltiad pleidiol. Yn y Senedd, mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithio ar gyflawni eu cytundeb cydweithredu a bydd y weinyddiaeth hon yn cefnogi'r dull hwnnw lle bynnag y gallwn. Yn wir, gobeithiaf y bydd y weinyddiaeth hon hefyd yn un a gaiff ei diffinio gan gydweithredu, a gobeithiaf y bydd aelodau o bob rhan o'r siambr yn ymateb yn gadarnhaol i ddod o hyd i feysydd o dir cyffredin a gwerthoedd cyffredin.

Mae'r datganiad hwn yn rhoi syniad o'r math o wahaniaeth yr ydym am ei wneud ar draws y sir. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid i gryfhau'r economi, cynyddu ffyniant, a buddsoddi mewn tai, addysg, diwylliant, seilwaith a'r amgylchedd. Ond rydym am glywed beth yw'r blaenoriaethau yn eich barn chi. Dros yr ychydig fisoedd nesaf byddwn yn gweld canlyniadau'r Arolwg Trigolion a'r Arolwg Staff a byddwn yn gwrando ar awgrymiadau gan aelodau wrth i ni ddatblygu ein Strategaeth Gorfforaethol, i'w chyhoeddi yn yr Hydref, a fydd yn nodi amcanion strategol y Cyngor dros y pum mlynedd nesaf.

 

Y Cynghorydd Darren Price
Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin

 

 

Llinell Amser

18 Gorffennaf - yr Arweinydd yn cyflwyno'r Datganiad Gweledigaeth yn y Cabinet.

5 Awst – yr Arolwg Trigolion a'r Arolwg Staff yn cau.

Awst/Medi 2022 – Adolygiad o'r Datganiad Gweledigaeth i gyd-fynd â chanlyniadau'r Arolwg Trigolion a'r Arolwg Staff.

Hydref 2022 – Cyhoeddi'r Strategaeth Gorfforaethol.


Addysg

Dechrau'n Dda - Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd

  • Parhau i fuddsoddi mewn adeiladau ysgolion ar draws y sir ac ailwampio Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Sir Gaerfyrddin i ddiwallu anghenion yr 21ain ganrif. Sicrhau bod pob ysgol newydd yn bodloni'r safonau gofynnol o ran inswleiddio ac awyru er mwyn lleihau biliau ynni a bod yn fwy cydnaws â'r amgylchedd.
    Ceisio sicrhau bod mwy o leoliadau addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant ar gael ledled y sir, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig; gan ganolbwyntio'n benodol ar ddarparu a chryfhau gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ardal.
  • Parhau i sicrhau bod disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael eu cefnogi'n llawn i gyflawni eu potensial yn unol â Diwygio ADY.
  • Gweithio ochr yn ochr ag ysgolion i gynyddu cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion a gwella mynediad i addysg ar gyfer disgyblion sy'n agored i niwed.
  • Cynyddu'r defnydd o gyfleusterau ysgol sydd i'w defnyddio gan y gymuned y tu allan i oriau addysgu.
  • Gweithio gydag ysgolion i gyflwyno cwricwlwm llawn a chyflawn sy'n anelu at godi safonau addysgol a sicrhau bod disgyblion yn deall ac yn dathlu eu hanes, eu daearyddiaeth a'u diwylliant lleol.
  • Yn unol â gweledigaeth Llywodraeth Cymru, darparu prydau ysgol am ddim, sy'n faethlon ac o ansawdd uchel, i bob disgybl ysgol gynradd, dros oes y weinyddiaeth.
  • Cefnogi'r gwaith o ddarparu cyfleoedd i drigolion y sir gymryd rhan mewn dysgu hanfodol mewn sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol, yn unol â chyllid cyfredol Llywodraeth Cymru. Galluogi dysgwyr ôl-16 i wella eu sgiliau ar gyfer ar gyfer cyflogaeth a dilyniant, yn ogystal â dysgu gydol oes a budd i'r gymuned a chynnig amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel i ddysgwyr yn yr 21ain ganrif.
  • Sicrhau bod safon y dysgu a'r addysgu yn ein hysgolion o ansawdd uchel i gynorthwyo ein dysgwyr i wneud cynnydd priodol.
  • Yn unol â rhaglen Llywodraeth Cymru, sicrhau bod mwy o addysg ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg ar gael yn ein hysgolion, ar ôl ymgynghori'n drylwyr â rhieni, cyrff llywodraethu ysgolion, dysgwyr a'r gymuned leol.
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried effeithiolrwydd dyfeisiau awyru gwrth-covid mewn ysgolion.

 


Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Byw'n Dda - Galluogi ein Trigolion i fyw a heneiddio'n dda

  • Gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu Iechyd a Gofal Cymdeithasol integredig di-dor lle bynnag y bo modd.
  • Buddsoddi mewn gwasanaethau lleol effeithlon gan y Cyngor i adfer cydbwysedd y farchnad ar draws holl elfennau gofal cymdeithasol i oedolion a phlant.
  • Cynyddu lefel y llety â chymorth i hwyluso'n benodol y broses o ryddhau cleifion yn ddiogel o'r ysbyty a/neu'r angen am ofal preswyl i oedolion sy'n agored i niwed.
  • Ehangu gwasanaeth Delta Connect ymhellach i ddarparu gofal rhagweithiol trwy gymorth technoleg i bobl agored i niwed yn eu cartrefi eu hunain ynghyd â phecyn o gymorth brys, monitro, a galwadau llesiant.
  • Gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd i ddarparu lefelau hygyrch a phriodol o gymorth i bawb sydd â phroblemau Iechyd Meddwl gan ehangu mynediad a chymorth i Blant ac Oedolion Agored i Niwed.
  • Cefnogi ymhellach Academi Gofal sy'n rhoi llwybr gyrfa i waith gofal, gan gynnwys datblygiad proffesiynol a hyfforddiant i bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol. Gweithio i ddyblu nifer y staff sy'n cael cefnogaeth i ennill gradd mewn Gwaith Cymdeithasol.
  • Cefnogi'r uchelgais i adfer cydbwysedd y farchnad a chymryd elw allan o ofal plant trwy agor Cartref Plant i blant ag anghenion cymhleth yn Sir Gaerfyrddin.
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i greu a diffinio Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol sy'n darparu safonau gofal cenedlaethol gan ddarparu gwasanaethau'n lleol i ddiwallu anghenion ein cymuned.
  • Parhau i integreiddio iechyd a gofal yn well a gweithio tuag at gydnabyddiaeth a thâl cyfartal i weithwyr iechyd a gofal.
  • Parhau i ddarparu cymorth i gadw plant gartref gyda'u teuluoedd ac allan o'r system ofal lle bynnag y bo modd a lobïo Llywodraeth Cymru i ddarparu adnoddau ychwanegol i ofalwyr maeth a gofalwyr sy'n berthnasau i gefnogi'r plant sydd yn eu gofal.
  • Parhau i wella'r cymorth sydd ar gael i ofalwyr ledled y sir.
  • Datblygu gwasanaethau ataliol i fodloni gofynion poblogaeth sy'n heneiddio.

 


Cartrefi

  • Buddsoddi mewn tai o safon, gan roi hwb cynaliadwy i dwf economaidd a chefnogi'r egwyddor y dylai pawb allu byw a gweithio yn y cymunedau y cawsant eu magu ynddynt.
  • Darparu cartrefi deiliadaeth gymysg, sy'n cynnwys tai ar gyfer rhent cymdeithasol, perchentyaeth cost isel a gwerthiannau ar y farchnad agored, gan greu cymunedau cytbwys, cryf a gwydn.
  • Cydnabod anghenion ein cymunedau amrywiol, gan sicrhau bod y cartrefi cywir yn cael eu hadeiladu yn y mannau cywir. Bydd y rhain yn cynnwys llety i un person, tai o faint teuluol, byngalos a fflatiau.
  • Darparu tai fforddiadwy i bobl ifanc a phobl oedran gweithio i'w helpu i aros yn y sir ac elwa ar y swyddi ychwanegol sydd wedi'u creu. Bydd hyn yn helpu i gynnal diwylliant a hunaniaeth, yn enwedig mewn trefi a phentrefi gwledig.
  • Helpu i adfywio canol trefi trwy ddarparu tai deiliadaeth gymysg yng nghanol ein trefi.
  • Canolbwyntio ar ddatblygu tai sy'n gynyddol gynaliadwy ac effeithlon gyda stoc yn cael ei diogelu a'i hôl-ffitio yn y dyfodol i fynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd a chostau ynni cynyddol.
  • Lobïo Llywodraeth Cymru am ateb i reoliadau ffosffad sydd ar hyn o bryd yn rhwystro cartrefi fforddiadwy a thai ar y farchnad agored rhag cael eu hadeiladu.
  • Ystyried mwy o ddefnydd o'r pwerau ychwanegol a roddir gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi.
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu system o renti teg gyda'r bwriad o wneud y farchnad rhentu preifat yn fforddiadwy i bobl leol ar incwm lleol a dulliau newydd o wneud cartrefi'n fforddiadwy.
  • Parhau i weithio gyda phartneriaid allweddol i roi terfyn ar ddigartrefedd.
  • Lleihau nifer y tai cyngor gwag ac eiddo gwag ar draws y sir gan greu mwy o gartrefi i bobl leol.

 

 


Economi

Gwneud ein cymunedau a'n hamgylchedd yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus

  • Parhau â chynlluniau adfywio i ddiogelu a chefnogi dros 1,400 o fusnesau. Yn y tymor byrrach byddwn yn darparu cymorth cyflogaeth i ryw 3,000 o bobl, gan helpu 850 arall i gael gwaith llawn amser. Bydd buddsoddiad a datblygiadau mawr yn helpu'r economi leol i adfer ar ôl Covid.
  • Yn Llanelli byddwn yn darparu nifer o safleoedd adwerthu yng nghanol y dref, sydd eisoes wedi cael caniatâd cynllunio. Byddwn yn manteisio i'r eithaf ar y manteision cymunedol sy'n deillio o'r cynllun Pentre Awel gwerth miliynau o bunnoedd yn Llanelli, y datblygiad cyntaf o'r maint a'r cwmpas hwn yng Nghymru, a fydd yn creu 1,800 o swyddi sy'n talu'n dda.
  • Byddwn yn cynorthwyo ac yn annog pobl i fyw bywydau egnïol ac iach, yn sicrhau cyfleoedd cadwyn gyflenwi i fusnesau lleol, ac yn recriwtio'n lleol.
  • Yng Nghaerfyrddin, ar ôl i'r Cyngor Sir brynu'r hen adeilad Debenhams, bydd gwaith yn dechrau'n fuan ar drawsnewid yr adeilad yn hwb cymunedol sy'n cynnwys gweithgareddau iechyd, hamdden, addysg a diwylliannol ynghyd â gwasanaethau gwybodaeth a chyngor ynghylch y sector cyhoeddus, busnesau a thwristiaeth. Bydd busnesau bach ac annibynnol yn cael eu hannog i ddatblygu, tyfu ac ehangu yng nghanol y dref, gan gefnogi cyfleusterau lletygarwch a gwella'r economi gyda'r nos.
  • Bydd y Prif Gynllun ar gyfer Rhydaman yn cael ei weithredu i ddod â bywyd newydd yn ôl i dref sydd wedi dioddef dirywiad graddol a gofidus ers i'r pyllau glo lleol gau. Bydd rhannau digyswllt canol y dref yn cael eu huno drwy ddyluniad priffyrdd o ansawdd gwell, cysylltiadau i gerddwyr ac ailgynllunio mannau agored allweddol. Bydd y farchnad wythnosol yn cael ei thyfu i gynnwys mwy o stondinau. Cynnal astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer canolfan hamdden yng nghanol y dref.
  • Parhau i lobïo Llywodraeth Cymru i ailagor rheilffordd Dyffryn Aman i deithwyr fel rhan o Fetro Bae Abertawe.
  • Deg Tref - Parhau i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ein 10 tref wledig a'n hardaloedd cyfagos: Llandeilo, Llanymddyfri, Llanybydder, Castellnewydd Emlyn, Cross Hands, Cwmaman, Cydweli, Talacharn, Sanclêr a Hendy-gwyn ar Daf. Nod y cynlluniau hyn yw sicrhau cynaliadwyedd economaidd, diwylliannol, cymdeithasol ac amgylcheddol.
  • Gweithio gyda phartneriaid i greu ail gam ARFOR er mwyn manteisio i'r eithaf ar y manteision economaidd i Sir Gaerfyrddin.
  • Parhau i gyflwyno ceisiadau cadarn er mwyn denu cyllid ar draws y sir, gan gynnwys Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a'r Gronfa Ffyniant Bro, gan ddisodli hen ffynonellau cyllid yr UE.
  • Parhau i ddenu mewnfuddsoddiad lle gellir cyflawni lefelau uchel o gynhyrchiant, cystadleugarwch a chyflog.
  • Byddwn yn hyrwyddo'r dull 'Meddwl am Sir Gaerfyrddin yn Gyntaf' yn eang ar draws yr Awdurdod, gan annog swyddogion i ofyn am ddyfynbrisiau gan gyflenwyr lleol. Byddwn yn parhau i gynorthwyo busnesau lleol i wneud cynigion am waith trwy dargedu cyfleoedd tendro penodol ledled y sir a hyrwyddo ein blaenraglen waith ymlaen llaw.
  • Gwneud popeth o fewn ein gallu i gynyddu ein gwariant caffael lleol a symud i fyny'r raddfa uwchlaw'r 53% presennol.

 

 


Yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth

  • Parhau a chyflymu'r nod o fod yn Awdurdod Lleol Carbon Sero Net erbyn 2030 a sefydlu gweithgor trawsbleidiol i symud yr agenda Carbon Sero Net ac Argyfwng Natur yn ei blaen.
  • Defnyddio dull graddol o weithredu system newydd o gasglu gwastraff o dŷ i dŷ yn 2024/25, sy'n cydymffurfio â methodoleg casglu Glasbrint Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn golygu y bydd cartrefi yn derbyn gwasanaethau casglu deunydd i'w ailgylchu, bwyd a gwydr wythnosol o 24/25 ymlaen. Yn y cyfamser, bydd yna gyfnod pontio dros dro pryd y ceir casgliadau bagiau glas wythnosol, casgliadau gwastraff bwyd wythnosol, a chasgliadau gwydr a gwastraff na ellir ei ailgylchu o dŷ i dŷ bob tair wythnos o hydref 2022. Yn ogystal, byddwn yn cyflwyno gwasanaeth casglu cewynnau o ddechrau haf 2022.
  • Adolygu'r strategaeth fflyd cerbydau bresennol gyda'r bwriad o ddefnyddio'r dechnoleg cerbydau mwyaf addas ac allyriadau isel (gan gynnwys ffynonellau trydan neu ffynonellau pŵer eraill) dros y blynyddoedd nesaf. Bydd hyn yn cynnwys amnewid cerbydau casglu sbwriel a cherbydau eraill o fewn ein fflyd fel y bo'n briodol. Bydd hyn yn gwneud cyfraniad sylweddol i'n hymdrechion i ddatgarboneiddio ein gwasanaethau er mwyn mynd i'r afael â'n hymrwymiad lleol, cenedlaethol a byd-eang i fod yn Garbon Sero Net.
  • Cynyddu ynni adnewyddadwy ar dai cyngor ac adeiladau eraill i leihau biliau domestig a helpu i gyrraedd targedau newid yn yr hinsawdd.
  • Helpu pobl nad oes ganddynt geir neu ddulliau teithio personol eraill i fynd o gwmpas trwy ddatblygu strategaeth trafnidiaeth gymunedol a fydd yn nodi mentrau newydd posibl ac yn nodi sut y gellid ehangu neu wella cynlluniau presennol e.e. cynlluniau bwcabus a broceriaeth bysiau mini.
  • Gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol i ystyried dichonoldeb sefydlu cwmni bysiau sydd mewn eiddo cyhoeddus a'r gofynion logistaidd cysylltiedig i wasanaethu ardaloedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu gan gwmnïau presennol ar hyn o bryd, yn amodol ar newid mewn deddfwriaeth i ganiatáu i gwmnïau bysiau trefol gael eu sefydlu.
  • Parhau i lobïo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am gyfran deg o fuddsoddiad rheilffyrdd yng ngorllewin Cymru. Galw am wasanaeth trên cyflym 1 awr uniongyrchol o Gaerdydd i Gaerfyrddin. Bydd hyn yn cynnwys lobïo am ailagor rheilffyrdd gwasanaeth lleol a rheilffyrdd cangen eraill a chefnogi hyn.
  • Lobïo Llywodraeth Cymru am astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer llwybr rheilffordd a beicio i deithwyr ar hyd Cwm Gwendraeth.
  • Parhau i wneud cais am gyllid drwy Lywodraeth Cymru i alluogi rhagor o bwyntiau gwefru mynediad cyhoeddus i gael eu cyflwyno ledled y sir yn unol â'n strategaeth Seilwaith Cerbydau Trydan, gan ganolbwyntio'n benodol ar y rhwydwaith priffyrdd strategol i ddechrau, yn ogystal ag edrych ar leoliadau ar draws ardaloedd trefol a gwledig, wrth i nifer y cerbydau trydan gynyddu. Bydd hyn yn ein galluogi i adeiladu ar lwyddiant y gyfres bresennol o bwyntiau gwefru sydd wedi'u gosod, gan gynnwys y ganolfan uwch-wefru gyntaf yn Cross Hands.
  • Cynyddu bioamrywiaeth yr holl dir sy'n eiddo i'r Cyngor, a chydnabod y gydberthynas gref rhwng newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth a llesiant pobl. Ystyried defnyddio tir Cyngor Sir Caerfyrddin i greu cynefinoedd blodau gwyllt a phryfed peillio, gan gynnwys ochrau ac ymylon ffyrdd. Ni allwn ddatrys bygythiadau newid hinsawdd wedi’u peri gan fodau dynol a cholli bioamrywiaeth ar eu pen eu hunain. Rydyn ni naill ai’n datrys y ddau neu ddim un ohonynt.
  • Gweithio gyda Chronfa Bensiwn Dyfed i barhau â'r daith o leihau ei dwysedd carbon ac annog Cronfa Bensiwn Dyfed i weithio gyda chronfeydd pensiwn eraill a dysgu oddi wrthynt gyda'r bwriad o ddadfuddsoddi ymhellach mewn tanwydd ffosil a buddsoddiadau anfoesegol.
  • Sicrhau bod systemau ar waith i reoli gwaith Gorfodi Rheolau Cynllunio yn effeithlon ar draws y sir.
  • Parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a'i lobïo ar eu hymrwymiad i adeiladu ffordd osgoi ar gyfer Llandeilo.
  • Cynyddu ynni adnewyddadwy ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor a gweithio gyda phartneriaid i gefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy ledled y sir.
  • Cefnogi'r gwaith o gyflawni Amcanion Economaidd Strategol y Cyngor drwy benderfynu ar geisiadau cynllunio mawr o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt.
  • Sicrhau gwasanaethau effeithiol o ran rheoli a chynnal asedau seilwaith allweddol sy'n cynnwys asedau priffyrdd, draenio, gwasanaethau stryd ac amwynderau lleol.
  • Cefnogi'r egwyddor o goedwigaeth gyfrifol, mewn ymgynghoriad â chymunedau lleol a heb gael effaith andwyol ar gyflogaeth leol, diwylliant a hyfywedd cymunedol.
  • Parhau i adolygu ac asesu'r angen am lwybrau mwy diogel a mesurau gostegu traffig ar draws trefi a phentrefi Sir Gaerfyrddin fel rhan o'n mentrau diogelwch ar y ffyrdd, wrth aros am ganlyniad astudiaeth beilot Llywodraeth Cymru o derfyn cyflymder arfaethedig o 20mya, cyn i Lywodraeth Cymru benderfynu'n derfynol ar weithredu'r fenter terfyn cyflymder 20mya lawn ledled Cymru.
  • Datblygu cyfleusterau o fewn swyddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin i gefnogi Teithio Llesol i ymwelwyr, aelodau a swyddogion. Ystyried raciau beiciau, ystafelloedd newid, cyfleusterau cawod ac ati.
  • Cyflawni'r llwybr beicio a cherddwyr o Gaerfyrddin i Landeilo a fydd yn hwb enfawr i drefi a phentrefi lleol, a thwristiaeth ledled y sir.
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod seilwaith trydan ar waith i'n galluogi i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy uchelgeisiol i gyrraedd sero net.

 


Hamdden a Threftadaeth

  • Dechrau gweithio ar Ganolfan Hamdden newydd i Lanelli, fel rhan o gam cyntaf Pentre Awel.
  • Darparu cae chwaraeon 3G newydd yn Rhydaman.
  • Cwblhau astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer Parc Sglefrfyrddio a datblygu'r trac Pwmpio BMX ym Mhen-bre ymhellach.
  • Ystyried dichonoldeb datblygu mwy o lwybrau beicio/cerdded ar reilffyrdd segur, gan gynnwys hen reilffordd y Cardi Bach i'r gogledd o Hendy-gwyn ar Daf.
  • Datblygu strategaeth ac asesu'r angen am leiniau pob tywydd ar draws y sir.
  • Datblygu Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin fel Canolfan Gelfyddydau Gorllewin Cymru ac agor Archif y Sir yn Heol y Brenin.
  • Gweithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu llwybrau diwylliannol a hanesyddol sy'n hygyrch i drigolion a thwristiaid. Annog trigolion i gymryd perchnogaeth o'u hardaloedd lleol drwy greu llwybrau cymunedol yn seiliedig ar wybodaeth leol. Fel rhan o gynllun ehangach, edrych ar ffyrdd o ddatblygu llwybrau sy'n seiliedig ar y cestyll a'r safleoedd hanesyddol niferus ar draws y sir.
  • Adolygu arddangosion a digwyddiadau diwylliannol yn barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru'n rheolaidd, yn amserol ac yn berthnasol. Manteisio i'r eithaf ar hanes cyfoethog Sir Gaerfyrddin.
  • Ystyried y pwerau sydd ar gael mewn perthynas ag ardollau twristiaeth lleol ac effaith eu cyflwyno'n lleol.
  • Datblygu dull 'chwaraeon i bawb' i gynorthwyo ystod eang o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon, o ddechreuwyr i'r elît.
  • Cynyddu effaith ymwelwyr dydd a thwristiaid sy'n aros dros nos ar yr economi leol ar draws sir Gaerfyrddin wledig a threfol.
  • Byddwn yn hyrwyddo ac yn cefnogi cyfleoedd priodol yng Nghwrs Rasio Pen-bre.

 

 


Materion Gwledig

  • Gwneud y mwyaf o'r cyfraniad cadarnhaol posibl i gynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol y gymuned leol drwy ein perchnogaeth ar bortffolio gwledig a gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol.
  • Adeiladu ymhellach ar ein perthynas â Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, sydd yn sefydliad amhrisiadwy mewn ardaloedd gwledig.
  • Gweithio mewn ysgolion i addysgu dysgwyr am gynhyrchu bwyd a sut i goginio prydau iach gan ddefnyddio cynnyrch lleol.
  • Ystyried ffyrdd o symleiddio'r broses o droi adeiladau fferm segur yn gartrefi neu'n weithdai i bobl leol.
  • Helpu neuaddau pentref lleol i ehangu ar eu gwasanaethau, e.e. caffi cymunedol, er budd economaidd, mynediad at wasanaethau, i fynd i'r afael ag unigrwydd gwledig a chynyddu cydnerthedd.
  • Ar ôl i gyllid Llywodraeth Cymru gael ei dynnu yn ôl, archwilio'r holl opsiynau ariannu posibl i gefnogi rhaglen o wella cyflwr ffyrdd gwledig.
  • Parhau i adeiladu ar statws Sir Gaerfyrddin fel man bwyd cynaliadwy ac, mewn cydweithrediad â phartneriaid eraill, datblygu strategaeth fwyd gymunedol i annog y gwaith o gynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru.

 


Diwylliant a Chydraddoldeb

  • Cefnogi cyhoeddi'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.
  • Cefnogi ymgyrchoedd i gryfhau hawliau pobl anabl a mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y maent yn parhau i'w hwynebu.
  • Cefnogi cyhoeddi Cynllun Gweithredu LGBTQ+ Llywodraeth Cymru.
  • Parhau i gynyddu a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg o fewn gweinyddiaeth y Cyngor Sir.
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid i gynyddu cyfran y prentisiaethau cyfrwng Cymraeg.

Trechu Tlodi

  • Penodi Aelod Cabinet i arwain yr Agenda Trechu Tlodi.
  • Adolygu Cylch Gorchwyl y Panel Ymgynghorol ynghylch Trechu Tlodi er mwyn sicrhau bod ganddynt y cwmpas angenrheidiol i gynnal adolygiad o'r gwaith sy'n ofynnol mewn perthynas â Threchu Tlodi.
  • Gofyn i'r Panel Ymgynghorol ynghylch Trechu Tlodi ddechrau ar unwaith ar faes gwaith ychwanegol mewn perthynas â'r argyfwng costau byw presennol.
  • Gweithio gyda chyrff allanol i ddeall a mynd i'r afael â'r hyn y gellir ei wneud i gefnogi preswylwyr ar unwaith ac yn y tymor byr er mwyn lliniaru'r effaith negyddol ar gyllid unigol wrth i gostau byw barhau i gynyddu.
  • Cefnogi'r gwaith o ddatganoli gweinyddiaeth llesiant a'r seilwaith angenrheidiol sydd ei angen i baratoi ar ei gyfer.

 

 


Trefniadaeth

Gweithio'n dda - Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon

  • Ystyried a gweithredu newidiadau priodol yn unol â diwygio'r Dreth Gyngor gan Lywodraeth Cymru.
  • Sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn sefydliad amrywiol a chynhwysol
  • Gweithio gyda grwpiau perthnasol i hyrwyddo'r Cyngor fel cyflogwr ar draws pob cymuned gan gynnwys o fewn y gymuned Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
  • Gweithio gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i sbarduno gwaith ymgysylltu cymunedol ac arfer da mewn perthynas â recriwtio o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
  • Gweithio gyda grwpiau allanol perthnasol, i wella cynrychiolaeth a chyfeirio ar gyfer cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar wefan y Cyngor.
  • Edrych ar ffyrdd o wella ansawdd data cydraddoldeb ein gweithlu a gwella ansawdd y wybodaeth a gesglir yn barhaus er mwyn gwella'r broses o gynllunio a rheoli'r gweithlu.
  • Recriwtio mewn modd cystadleuol a gweithio tuag at wella lefelau recriwtio yn barhaus ar draws y sefydliad. Ceisio deall y camau sydd eu hangen er mwyn dod yn gyflogwr o ddewis yng Ngorllewin Cymru.
  • Gweithio i farchnata Cyngor Sir Caerfyrddin fel cyflogwr deniadol i brentisiaid, pobl sy'n gadael yr ysgol a graddedigion. Canolbwyntio ar leihau nifer y bobl ifanc sy'n mudo o Sir Gaerfyrddin ac o ardaloedd gwledig.
  • Ystyried gallu ein gweithlu yn y tymor byr a'r tymor hir i gyflawni gweledigaeth y weinyddiaeth bresennol.
  • Datblygu hyfforddiant penodol i Aelodau ar feysydd sy'n ymwneud yn benodol â chydraddoldeb, amrywiaeth, a thegwch, i'w cynnwys yn hyfforddiant y Côd Ymddygiad.
  • Ymrwymiad diwylliannol i graffu, gan gymryd camau i annog craffu sy'n heriol ac sy'n cydnabod bod yn rhaid i'w waith gael effaith. Cydnabod bod cyfranogiad gan Aelodau a'r cyhoedd yn allweddol er mwyn sicrhau craffu da.
  • Parhau i groesawu a hyrwyddo arferion gweithio ystwyth, cyfarfodydd hybrid a ffyrdd newydd o weithio ar draws y sefydliad.
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid y Gwasanaeth Cyhoeddus ac Undebau Llafur i ddatblygu'r agenda Cyflog Byw Gwirioneddol ymhellach.
  • Cynyddu ymhellach ein defnydd o'r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf i drawsnewid ymhellach y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.
  • Datblygu Strategaeth Trawsnewid y Cyngor a fydd yn darparu'r fframwaith strategol i gefnogi'r gwaith o weithredu rhaglen drawsnewid a newid ar draws y sefydliad.
  • Parhau i adolygu gwaith partneriaeth rhanbarthol, ynghyd â phartneriaid llywodraeth leol, er mwyn sicrhau eu bod yn effeithlon ac yn gweithio i Sir Gaerfyrddin wrth i drefniadau newydd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol gael eu cyflwyno.
  • Parhau i weithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned er budd ein trigolion a'n cymunedau.