Strategaeth Drawsnewid 2022 - 2027
Gweithle
1. Nod cyffredinol
Manteisio ar y cyfleoedd a gyflwynwyd gan symud at weithio hybrid ac ad-drefnu ymhellach bortffolio adeiladau’r Cyngor a moderneiddio a gwella’r amgylchedd gwaith yn yr adeiladau craidd eraill.
2. Beth mae angen inni ei drawsnewid a pham?
Mae portffolio eiddo’r Cyngor yn cynnwys nifer o adeiladau gwahanol gan gynnwys adeiladau swyddfeydd, depos gweithredol, ysgolion, cyfleusterau cymunedol a hamdden. Un o nodau’r prosiect Gweithio’n Ystwyth a gyflwynwyd ar draws yr awdurdod rhwng 2017-18 oedd addasu adeiladau’r Cyngor er mwyn creu amgylchedd gwaith oedd yn cefnogi’r newid at weithio mewn ffordd fwy ystwyth. Roedd hynny’n cynnwys newidiadau i gynllun a gosodiad mewnol rhai adeiladau i greu amgylcheddau swyddfa cynllun agored, addas ynghyd â defnyddio cyfleusterau gweithfannau cyfleus dynodedig.
Mae effaith pandemig Covid-19 wedi cyflymu ymhellach y defnydd o weithio hybrid, sydd erbyn hyn yn cynnig mwy o gyfleoedd i’r Cyngor resymoli ei stoc adeiladau.
Mae’n naturiol fod y symud i ffwrdd o weithio’n llawn amser mewn swyddfeydd yn debygol o olygu y bydd angen llai o adeiladau arnom yn y dyfodol, ac y gallai fod angen inni ailbwrpasu’r rhai y penderfynwn eu cadw. Bydd yn bwysig datblygu corff o dystiolaeth am yr angen am adeiladau a’r cyflenwad ohonynt i sicrhau bod y model hybrid yn cwrdd ag anghenion gwasanaethau ac wrth bennu strategaethau i’r dyfodol.
Bydd gofynion gweithio mewn swyddfeydd yn cael eu diwallu trwy sefydlu hybiau canolog yn y prif drefi, fydd wedyn yn golygu y gellir rhyddhau adeiladau eraill i’w gwerthu neu eu rhentu. Bydd hyn yn creu cyfle i wneud arbedion ariannol, ond bydd yn golygu hefyd y gall y Cyngor ystyried sut all foderneiddio gweddill ei adeiladau (gan gynnwys depos gweithredol), i sicrhau y gall gefnogi anghenion gweithlu modern a denu mwy o bobl i leoliadau canol trefi.
3. Prif Amcanion
- Cryfhau trefniadau rheoli asedau’r Awdurdod er mwyn cefnogi amcanion ariannol, economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol.
- Egluro gweledigaeth yr Awdurdod ynghylch yr adeiladau fydd eu hangen i’r dyfodol a gwella rheoli perfformiad asedau. Defnyddio a gwreiddio egwyddorion datblygu cynaliadwy yn y ffordd yr ydym yn cynllunio, darparu a monitro’r gwaith o reoli asedau.
- Goruchwylio’r gwaith o gyflwyno cynllun rhesymoli adeiladau er mwyn lleihau’r portffolio gan hyd at 50%, lleihau costau cynnal a chadw a chyfleustodau adeiladau: a mwy o bwyslais ar drosglwyddo asedau ac effeithlonrwydd ynni.
- Gweithio mewn partneriaeth gyda rheolwyr, staff ac undebau llafur i greu gweithleoedd cynhwysol sy’n cefnogi llesiant staff a darparu gwell gwasanaethau. Bydd gweithleoedd yn gyson, byddant yn cynnwys y cyfarpar angenrheidiol ac yn gymwys i’w pwrpas. Cefnogi symudiad at fwy o bobl yn gweithio o bell, a’u helpu i adeiladu ar gynnydd a wnaed yn ystod y pandemig a chael gwell dealltwriaeth o fuddion gweithio o bell.
- Cryfhau gwaith rheoli a chynnal a chadw parhaus ar adeiladau i sicrhau bod cyfleusterau’n cael eu darparu mewn ffordd gost effeithlon a chynaliadwy tra’n cwrdd ag anghenion defnyddwyr yr adeilad.
- Sicrhau y datblygir strategaethau a chynlluniau i gefnogi datblygu cynaliadwy a chyfrannu at dargedau Carbon Sero Net. Annog a grymuso staff i fod yn flaengar wrth gymudo i’r gweithle ac wrth deithio fel rhan o’u gwaith beunyddiol.
- Gweithio mewn partneriaeth â’r sector cyhoeddus ehangach, trwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, i wneud y defnydd gorau o adnoddau ar draws sefydliadau yn Sir Gaerfyrddin.
- Cynnig dewis a chyfle i staff fyw a gweithio yn eu cymunedau lleol a hyrwyddo cydbwysedd da rhwng gwaith/bywyd a llesiant. Sicrhau bod systemau adeiladau a thechnolegau ar gael i staff i gefnogi’r model gweithio hybrid hwn.
4. Beth yw ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt?
- Datblygu Cynllun Swyddfeydd 2023 – 2028 strategol er mwyn rhesymoli’r stad. Dylid cytuno a chymeradwyo’r cynllun hwn yn gorfforaethol erbyn Ionawr 2023
- Cyflwyno cynllun adeiladau:
- Caerfyrddin:
- Cadarnhau gofynion gweithleoedd tref Caerfyrddin ar gyfer pob gwasanaeth erbyn Tachwedd 2022.
- Adolygu Neuadd y Sir a 3 Heol Spilman ac ystyried cyfyngiadau mecanyddol a thrydanol a gosodiadau swyddfa er mwyn creu mwy o gapasiti erbyn Ionawr 2023.
- Diweddaru’r cynlluniau rheoli tanau ar gyfer 3 Heol Spilman a Neuadd y Sir erbyn Ionawr 2023.
- Cynllun adleoli ar gyfer gwasanaethau gwahanol erbyn Rhagfyr 2022.
- Cynhyrchu cynllun graddol ar gyfer symudiadau erbyn Rhagfyr 2022.
- Rhydaman:
- Cyflwyno adroddiad ar gyflwr a chostau adnewyddu Neuadd y Dref Rhydaman. Wedi’i gwblhau.
- Gweithio gyda Tai i ddatblygu cynllun ar gyfer yr Hen Lyfrgell a Chanolfan Cennen erbyn Chwefror 2023.
- Datblygu cynllun i wneud y defnydd gorau o Dŷ Parc-yr-hun erbyn Chwefror 2023.
- Llanelli:
- Cyflwyno gosodiadau newydd ar gyfer llawr 1af ac 2il lawr Tŷ Elwyn i gefnogi gweithio hybrid a chreu mwy o gapasiti yn y gweithle erbyn Tachwedd 2022.
- Adleoli staff Tai o Borth y Dwyrain i Dŷ Elwyn erbyn Tachwedd 2022.
- Adolygu’r cynigion meddiant ar gyfer gweddill Tŷ Elwyn gyda’r bwriad o symud staff o Borth y Dwyrain a Neuadd y Dref i Dŷ Elwyn erbyn Chwefror 2023.
- Creu cynllun is-osod ar gyfer Porth y Dwyrain erbyn Chwefror 2023.
- Caerfyrddin:
- Adolygu’r ddarpariaeth o hybiau amlasiantaethol yn y 10 tref erbyn Mawrth 23.
- Defnyddio system Rheoli Adnoddau ac archebion ‘Occupeye’ erbyn Ionawr 2023.
- Datblygu cynllun teithio a pharcio integredig ar gyfer adeiladau a gedwir erbyn Ionawr 2023.
- A rhesymwaith parcio ar gyfer Neuadd y Sir a Spilman.
- Sefydlu 6 man cyfarfod corfforaethol hybrid ar draws y sir, fyddai ar gael i bawb trwy system archebu. Wedi’i gwblhau.
- Datblygu casgliad o fesuriadau perfformiad a deilliannau ar gyfer asedau a’u monitro ar lefel gorfforaethol erbyn Ionawr 2023.
- Casglu ac adolygu’r data a gasglwyd gan system Occupeye erbyn Mawrth 2023.
- Adolygu rôl y ‘Person sy’n Gyfrifol am y Safle’ (PRP). Datblygu dewisiadau ac awgrymiadau ar ffordd ymlaen i ddelio â chyfrifoldebau’r rôl mewn amgylchedd hybrid erbyn Mehefin 2023.
5. Sut fyddwn ni’n mesur effaith y gwaith hwn?
- Cefnogi effeithlonrwydd a llesiant y gweithlu/gwasanaethau
- Arbedion refeniw a chyfalaf
- Buddion amgylcheddol
- Defnyddio adeiladau
- Nifer y staff sy’n gweithio o bell yn rheolaidd
- (Occupeye?)
- Data mewngofnodi TGCh o systemau TGCh
- System mynediad drysau Chubb