Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb

Diweddarwyd y dudalen ar: 22/04/2024

Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd 

I weld ein Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd, cliciwch ar y ddolen canlynol:-

Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd

 

Deisebau

Mae'r Cyngor yn croesawu deisebau, ar bapur (wedi'u llofnodi) neu drwy'r cyfleuster e-Ddeiseb.  Mae deisebau'n rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i wrando ar safbwyntiau'r cyhoedd a gweithredu arnynt.

Mae dau fath o ddeiseb:

  • Bydd deisebau a lofnodir gan lai na 50 o etholwyr cofrestredig mewn perthynas â chopïau papur neu lai na 300 o etholwyr mewn perthynas ag e-ddeisebau yn cael eu cyfeirio'n awtomatig at yr adran sy'n gyfrifol am y maes gwasanaeth, a fydd yn ymateb yn uniongyrchol i'r deisebydd.
  • Mae'n rhaid i ddeisebau a gyflwynir i gyfarfod y Cyngor (o dan Reol 10B o Weithdrefn y Cyngor) gynnwys 50 llofnod etholwr cofrestredig ar gyfer copïau papur a 300 o lofnodion etholwr cofrestredig ar gyfer e-ddeisebau.

Mae'n rhaid i bob deiseb nodi enw, cyfeiriad a chod post trefnydd y ddeiseb.  

I greu eich e-ddeiseb, bydd angen i chi:

  • gofrestru gan ddefnyddio cyfeiriad yn Sir Gaerfyrddin
  • rhoi manylion llawn eich deiseb
  • rhoi enw byr ar gyfer eich deiseb

I gyflwyno deiseb bapur gyda llofnodion ffisegol, bydd angen i chi:-

  • gyflwyno'r ddeiseb bapur i'r Prif Weithredwr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP heb fod yn hwyrach na 10.00 a.m. 7 diwrnod gwaith llawn (DS nid yw diwrnodau llawn yn cynnwys y diwrnod y daw'r ddeiseb i law neu ddiwrnod y cyfarfod) cyn diwrnod y cyfarfod y bwriedir ei chyflwyno.

Cyn cyflwyno deiseb ac i gael arweiniad pellach, cymerwch amser i ddarllen ein Cynllun Deisebau

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau