Arglwydd Raglaw Dyfed (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion and Sir Benfro)
Mae gan bob sir Arglwydd Raglaw, sef cynrychiolydd lleol Ei Mawrhydi’r Frenhines yn y sir honno. Prif ddyletswydd yr Arglwydd Raglaw yw cynnal urddas y Goron. Mae’n ceisio hybu ysbryd cydweithrediad drwy annog gwasanaethau gwirfoddol a sefydliadau llesiannol, a drwy gymryd diddordeb gweithredol ym mywyd busnes, diwydiannol a chymdeithasol y sir. Mae rôl yr Arglwydd Raglaw, fel rôl y Frenhines, yn anwleidyddol yn y bôn.
Gellir crynhoi prif ddyletswyddau’r Arglwydd Raglaw fel a ganlyn:
- Trefnu ymweliadau gan Aelodau o’r Teulu Brenhinol, a derbyn a hebrwng Ymwelwyr Brenhinol fel y bo’n briodol.
- Cyflwyno medalau a gwobrau ar ran y Frenhines i unigolion, grwpiau gwirfoddol a sefydliadau busnes.
- Cymryd rhan mewn digwyddiadau dinesig, gwirfoddol a chymdeithasol yn y sir.
- Cysylltu ag unedau lleol y Llynges Frenhinol, y Môr-filwyr Brenhinol, y Fyddin, y Llu Awyr Brenhinol a’u Lluoedd Cadetiaid cysylltiedig.
Mae Arglwydd Raglawiaid yn cael eu penodi gan y Frenhines i wasanaethu nes eu bod yn 75 oed. Mae'r Arglwydd Raglaw hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghori Lleol ar gyfer y Llysoedd Ynadon. Mae Pwyllgorau Ymgynghori yn gyfrifol am ddewis ymgeiswyr addas ar gyfer mainc yr ynadon. Gall unrhyw un sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer bod yn ynad roi ei hun gerbron.
Arglwydd Raglaw presennol Dyfed yw’r Anrhydeddus Miss Sara Edwards a gychwynnodd ar ei phenodiad yn Chwefror 2016. Mae’r Arglwydd Raglaw wedi penodi nifer o Ddirprwy Raglawiaid i’w gynorthwyo wrth gyflawni ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau.
Y ffordd gywir o annerch yr Arglwydd Raglaw yw:
- Ysgrifenedig: Yr Anrhydeddus Miss Sara Edwards, Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi dros Ddyfed.
- Cyfarchiad: Annwyl Arglwydd Raglaw
- Mewn anerchiad: Yn y rhaglith, dylid cyfeirio at yr Arglwydd Raglaw fel a ganlyn: “Fy Arglwydd Raglaw”. Gallai anerchiad ddechrau fel a ganlyn: “Arglwydd Raglaw, Boneddigion a Boneddigesau”.
- Sgwrs: Ar achlysuron ffurfiol – Arglwydd Raglaw
Nid yw’r penodiad am gyfnod penodol. Bydd Arglwydd Raglaw yn gwasanaethu tan ei ben-blwydd/phen-blwydd yn 75 oed.
Mae’r Frenhines, yn ôl cyngor y Prif Weinidog, yn penodi Arglwydd Raglawiaid. Cesglir barn ystod eang o ddinasyddion yn y sir cyn y bydd y Prif Weinidog yn cynghori’r Frenhines ynghylch rhai y gellid eu penodi.
Mae unrhyw berson sy’n byw yn y sir yn gymwys i gael ei benodi/phenodi yn Arglwydd Raglaw.
Nid yw’r Arglwydd Raglaw yn cael ei dalu/thalu.
Mae Swyddfa’r Arglwydd Raglaw yn cysylltu â Phalas Buckingham, Swyddfa Breifat y darpar ymwelydd a’r sefydliad sy’n croesawu.
Ar gyfer y Frenhines: Eich Mawrhydi y tro cyntaf a Ma’am wedi hynny. Aelodau benywaidd eraill o’r Teulu Brenhinol sy’n meddu ar deitl Ei Huchelder Brenhinol: Eich Uchelder Brenhinol y tro cyntaf ac yna Ma’am.
Ar gyfer aelodau gwrywaidd o’r Teulu Brenhinol sy’n meddu ar deitl Ei Uchelder Brenhinol: Eich Uchelder Brenhinol y tro cyntaf a Syr wedi hynny.
Mae’r system anrhydeddau yn cydnabod pobl o deilyngdod neilltuol, a’r rheiny sydd wedi ymrwymo i wasanaethu’r genedl a’u cymunedau. Gallwch gyflwyno enwebiad unrhyw bryd. Gallwch ddod i wybod mwy am y broses anrhydeddau a sut y gallwch enwebu rhywun i dderbyn gwobr ar wefan DirectGov: Anrhydeddau, medalau a dyfarniadau.
Mae Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn cael ei dyfarnu am gyflawniad neilltuol gan grwpiau sy’n rhoi o’u hamser eu hunain yn rheolaidd i wella bywydau pobl eraill. Er mwyn enwebu grŵp neu ddod i wybod mwy, ewch i wefan Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol.
Mae Ei Mawrhydi’r Frenhines yn anfon negeseuon llongyfarch at y rheiny sy’n dathlu eu pen-blwydd yn 100 a 105 oed, a phob blwyddyn wedi hynny, ac at y rheiny sy’n dathlu eu pen-blwydd priodas 60, 65 a 70 mlynedd, a phob blwyddyn wedi hynny. Gallwch gael hyd i’r ffurflenni ac arweiniad pellach ar wefan y Frenhiniaeth Brydeinig.
Ym mis Ionawr bob blwyddyn, mae’r Arglwydd Raglaw yn paratoi i gyflwyno rhestr o enwau i’r Arglwydd Siambrlen y byddai’n argymell eu hystyried i fynychu Garddwest Frenhinol. Mae yna gyfyngiadau, er enghraifft, dylai’r holl westeion fod yn 18 oed neu drosodd er mwyn cael eu gwahodd yn eu rhinwedd eu hunain.
Gellir cyflwyno ceisiadau am negeseuon llongyfarch ar gyfer Pen-blwyddi Priodas Deimwnt, ac ati, drwy Swyddfa’r Arglwydd Raglaw.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
- Cyfansoddiad y Cyngor
- Cadeirydd 2020 - 21
- Swyddfa'r Crwner
- Arglwydd Raglaw
- Blog Arweinydd
- Blog Cadeirydd y Cyngor
Cynghorwyr, ACau, ASau a ASEau
- Eich Cynghorydd Sir
- Sut mae bod yn Gynghorydd
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Aelodau Senedd Ewrop
Adrannau'r Cyngor
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Bwrdd Gweithredol
- Penderfyniadau swyddogion
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
- Cyfarfodydd byw a rhithwir y Cyngor a rhai sydd i ddod
Strategaethau a chynlluniau
Cyllideb y Cyngor
Ymgynghori a Pherfformiad
- Ymgynghoriadau actif
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Amcanion lles
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2019-20
Canllawiau Brexit
Hysbysiadau cyhoeddus
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2020
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru'r Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Etholiad Senedd Ewrop 2019
- Etholiadau Lleol 2017
- Etholiad Seneddol 2017
Diogelu Data
Rhyddid Gwybodaeth
Ymchwil ac Ystadegau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth