Adolygiad Cymunedol - Ardaloedd Cyngor Cymuned Llanboidy a Hendy-gwyn ar Daf

Diweddarwyd y dudalen ar: 05/12/2024

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal Adolygiad Cymunedol o ardaloedd Cyngor Cymuned Llanboidy a Hendy-gwyn ar Daf, yn benodol y pwynt ffin lle mae safle Abaty Hendy-gwyn ar Daf wedi'i leoli.

Cam cyntaf yr adolygiad yw gofyn i bob parti â diddordeb ystyried y ffiniau cymunedol presennol a chyflwyno'u sylwadau ar unrhyw newidiadau sydd eu hangen i greu cymunedau sy'n darparu ar gyfer llywodraethu lleol effeithiol a chyfleus.

Yna bydd yr holl gyflwyniadau yn cael eu hystyried, a bydd y Cyngor yn cyhoeddi Adroddiad Cynnig Drafft a bydd yn cynnal ymgynghoriad ar y cynigion hynny. Yna bydd yr holl gyflwyniadau'n cael eu hystyried, a bydd yr Argymhellion Terfynol yn cael eu cyflwyno i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru.

Os yw Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn credu ei fod yn briodol, bydd yn cynnig bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn gwneud Gorchymyn i roi effaith i'r argymhellion naill ai fel y'u cyflwynwyd neu gydag addasiadau.

Mae'r cyfnod ymgynghori cychwynnol yn dechrau ddydd Llun 16 Rhagfyr 2024 ac yn dod i ben ddydd Llun 27 Ionawr 2025.

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, anfonwch eich sylwadau drwy e-bost at: gwasanaethauetholiadol@sirgar.gov.uk

 

Mae'r tabl yn nodi'r amserlen ar gyfer yr adolygiad:

Cam Cam Gweithredu Dyddiadau

Adrodd i Rag-gyfarfod y Cabinet

Y Cyngor Llawn

Mae'r Cyngor yn cymeradwyo egwyddor yr Adolygiad Cymunedol a'i Gylch Gorchwyl.

2 Rhagfyr 2024

11 Rhagfyr 2024

Ymgynghoriad Cyhoeddus 1

Cyfnod ymgynghori o chwe wythnos yn dechrau drwy gyhoeddi Cylch Gorchwyl yr Adolygiad.

16 Rhagfyr2024
Ymgynghoriad Cyhoeddus yn dod i ben Archwilir ac ystyrir pob sylw. 27 Ionawr 2025
Ystyried cyflwyniadau / sylwadau a pharatoi adroddiad ar gyfer y cyngor llawn Argymhellion drafft i'w hystyried gan y Cyngor a'u cymeradwyo ar gyfer ymgynghori pellach.

Rhag-gyfarfod y Cabinet - 31 Mawrth 2025

Cyngor Llawn - 9 Ebrill 2025

Ymgynghoriad Cyhoeddus 2

1. Ymgynghoriad chwe wythnos gyda Rhanddeiliaid ar yr argymhellion drafft

2. Paratoi argymhellion terfynol.

14 Ebrill 2025
Ymgynghoriad Cyhoeddus yn dod i ben. Archwilir ac ystyrir pob sylw. 26 Mai 2025
Ystyried cyflwyniadau / sylwadau a pharatoi adroddiad terfynol ar gyfer y cyngor llawn Y Cyngor i ystyried argymhellion terfynol.

Rhag-gyfarfod y Cabinet - 30 Mehefin 2025

Cyngor Llawn - 9 Gorffennaf 2025

Gorchymyn yn dod i rym Etholiadau llywodraeth leol nesaf. Mai 2027

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau