Polisi Diogelu Corfforaethol

Diogelu Pobl yn Sir Gaerfyrddin | Diweddarwyd fis Tachwedd 2023

Cyflwyniad

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl o niwed yn flaenoriaeth i Gyngor Sir Caerfyrddin. At ddiben y polisi hwn, caiff diogelu ei ddiffinio fel 'Atal ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl rhag cael eu cam-drin neu'u hesgeuluso ac addysgu'r rheiny sydd o'u cwmpas i adnabod yr arwyddion a'r peryglon’.1

Mae ‘Diogelu Corfforaethol’ yn disgrifio’r trefniadau sydd ar waith y mae’r Cyngor yn eu gwneud ac i sicrhau bod pob un o’i weithwyr yn chwarae eu rhan i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion a all fod mewn perygl o niwed.

Mae gan bawb – gweithwyr, contractwyr, gwirfoddolwyr a chynghorwyr – ran i’w chwarae o ran amddiffyn plant ac oedolion rhag niwed, boed y tu mewn neu’r tu allan i’r cartref. Cyfrifoldeb y Cyngor yw sicrhau bod staff, gwirfoddolwyr a chontractwyr yn ymwybodol o ddiogelu yn eu gwaith beunyddiol i’r Cyngor a gwybod pryd a sut i fynegi pryderon.'2

Mae'r Polisi Diogelu Corfforaethol hwn yn darparu fframwaith ar gyfer pob Cyfarwyddiaeth a maes Gwasanaeth o fewn ac ar draws y Cyngor. Mae'n nodi cyfrifoldebau unigol ac ar y cyd mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl ac yn sefydlu strwythur llywodraethu sy'n goruchwylio'r trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl. Mae'n nodi'r dulliau a fydd yn rhoi sicrwydd i'r Cyngor ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau a bod arferion effeithiol ar waith i gynorthwyo unigolion i fyw eu bywyd yn rhydd o niwed, camdriniaeth ac esgeulustod mewn ystod eang o leoliadau gan gynnwys y cartref, yr ysbyty, yr ysgol, amgylcheddau dysgu, grwpiau cyfoedion/cyfeillgarwch, cymdogaethau, cymunedau a mannau ar-lein. Yn Sir Gaerfyrddin mae Diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb.

 

1 Gweithdrefnau Diogelu Cymru (2019) https://diogelu.cymru/cy/
2 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (2021) Diogelu Corfforaethol Canllawiau Arferion Da https://bwrdddiogelu.cymru/wp-content/uploads/sites/9/2022/05/Diogelu-Corfforaethol-Canllaw-Arferion-Da.pdf

 

Gwybodaeth Allweddol

Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol | Jake Morgan
Aelod Arweiniol dros Ddiogelu | Y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rhoi gwybod am bryder - Oedolyn | 0300 333 2222
Rhoi gwybod am bryder - Plentyn | 01554 742322
Y tu allan i oriau - Oedolion a Phlant | 0300 333 2222
Mewn Argyfwng – Cysylltwch â Heddlu Dyfed-Powys | 999