Polisi Diogelu Corfforaethol

Cyflwyniad

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl o niwed yn flaenoriaeth i Gyngor Sir Caerfyrddin. At ddiben y polisi hwn, caiff diogelu ei ddiffinio fel 'Atal ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl rhag cael eu cam-drin neu'u hesgeuluso ac addysgu'r rheiny sydd o'u cwmpas i adnabod yr arwyddion a'r peryglon’.1

Mae ‘Diogelu Corfforaethol’ yn disgrifio’r trefniadau sydd ar waith y mae’r Cyngor yn eu gwneud ac i sicrhau bod pob un o’i weithwyr yn chwarae eu rhan i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion a all fod mewn perygl o niwed.

Mae gan bawb – gweithwyr, contractwyr, gwirfoddolwyr a chynghorwyr – ran i’w chwarae o ran amddiffyn plant ac oedolion rhag niwed, boed y tu mewn neu’r tu allan i’r cartref. Cyfrifoldeb y Cyngor yw sicrhau bod staff, gwirfoddolwyr a chontractwyr yn ymwybodol o ddiogelu yn eu gwaith beunyddiol i’r Cyngor a gwybod pryd a sut i fynegi pryderon.'2

Mae'r Polisi Diogelu Corfforaethol hwn yn darparu fframwaith ar gyfer pob Cyfarwyddiaeth a maes Gwasanaeth o fewn ac ar draws y Cyngor. Mae'n nodi cyfrifoldebau unigol ac ar y cyd mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl ac yn sefydlu strwythur llywodraethu sy'n goruchwylio'r trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl. Mae'n nodi'r dulliau a fydd yn rhoi sicrwydd i'r Cyngor ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau a bod arferion effeithiol ar waith i gynorthwyo unigolion i fyw eu bywyd yn rhydd o niwed, camdriniaeth ac esgeulustod mewn ystod eang o leoliadau gan gynnwys y cartref, yr ysbyty, yr ysgol, amgylcheddau dysgu, grwpiau cyfoedion/cyfeillgarwch, cymdogaethau, cymunedau a mannau ar-lein. Yn Sir Gaerfyrddin mae Diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb.

 

1 Gweithdrefnau Diogelu Cymru (2019) https://diogelu.cymru/cy/
2 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (2021) Diogelu Corfforaethol Canllawiau Arferion Da https://bwrdddiogelu.cymru/wp-content/uploads/sites/9/2022/05/Diogelu-Corfforaethol-Canllaw-Arferion-Da.pdf

 

Gwybodaeth Allweddol

Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol | Jake Morgan
Aelod Arweiniol dros Ddiogelu | Y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rhoi gwybod am bryder - Oedolyn | 0300 333 2222
Rhoi gwybod am bryder - Plentyn | 01554 742322
Y tu allan i oriau - Oedolion a Phlant | 0300 333 2222
Mewn Argyfwng – Cysylltwch â Heddlu Dyfed-Powys | 999

 


Pwrpas

Pwrpas y polisi yw nodi rolau a chyfrifoldebau gweithlu'r Cyngor gan gynnwys aelodau etholedig, a sicrhau bod pawb yn glir ynghylch eu rhwymedigaethau i hyrwyddo diogelwch a lles plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl.

Bydd y polisi yn darparu fframwaith i atal, canfod a rhoi gwybod am esgeulustod a chamdriniaeth mewn perthynas â phlant, pobl ifanc, ac oedolion sydd mewn perygl. Bydd y wybodaeth o fewn y polisi yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd, defnyddwyr gwasanaeth, cynghorwyr, gweithwyr, gwirfoddolwyr a phobl sy’n gweithio ar ran y Cyngor bod yna drefniadau cadarn ar waith i ddiogelu ac amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl.

Bydd y polisi yn rhoi canllawiau clir i weithwyr a chynghorwyr y Cyngor i adnabod pryd y gallai plentyn neu oedolyn fod mewn perygl o niwed a sut i ymateb. At ddiben y polisi, diffinnir 'gweithlu' fel y rheiny sy'n gwneud gwaith i'r Cyngor, gan gynnwys gweithwyr parhaol a dros dro, myfyrwyr, gwirfoddolwyr, gweithwyr a gyflogir gan asiantaethau cyflogaeth, contractwyr ac ymgynghorwyr.

Mae'r Polisi yn cwmpasu'r gweithlu cyfan ac aelodau etholedig, ac er y bydd gan bawb lefelau amrywiol o gyswllt â phlant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl, dylai pawb fod yn ymwybodol o arwyddion posibl o esgeulustod a chamdriniaeth a bod yn glir ynghylch beth i'w wneud os oes ganddynt bryderon.

Nid yw'r polisi yn gofyn i weithlu'r Cyngor ysgwyddo'r cyfrifoldeb o benderfynu a oes camdriniaeth/esgeulustod yn digwydd; fodd bynnag, mae'n angenrheidiol i unrhyw un sydd â lle rhesymol dros bryderu y gallai plentyn, person ifanc neu oedolyn fod yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso roi gwybod am y pryder hwnnw.


Egwyddorion

Mae'r Cyngor yn mabwysiadu'r egwyddorion canlynol mewn perthynas â diogelu plant ac oedolion;

  • Creu a chynnal amgylcheddau diogel ar gyfer plant ac oedolion y maent mewn cysylltiad â hwy.
  • Pan gaiff peryglon eu nodi, caiff camau gweithredu priodol eu cymryd.
  • Mae lles plant ac oedolion wrth wraidd polisïau a gweithdrefnau
  • Mae gan bob plentyn ac oedolyn yr hawl i gael ei amddiffyn rhag niwed, camfanteisio a chamdriniaeth.
  • Mae gweithio mewn partneriaeth â phlant, teuluoedd, gofalwyr ac oedolion wrth wraidd ein gwaith o ddiogelu plant ac oedolion a hyrwyddo eu lles.
  • Parchu hawliau, dymuniadau, teimladau a phreifatrwydd plant ac oedolion drwy wrando arnynt a lleihau unrhyw beryglon a allai effeithio arnynt.
  • Mae'r gweithlu cyfan yn deall diogelu a'u cyfrifoldebau a'u hatebolrwydd.
  • Buddsoddi mewn ymyrraeth gynnar a gwaith ataliol i geisio osgoi sefyllfaoedd lle gallai camdriniaeth neu honiadau o gamdriniaeth neu niwed ddigwydd.
  • Mae'r holl gontractau tendro a chomisiynu yn manylu'n benodol ar y rhwymedigaethau diogelu o fewn y polisi hwn a chânt eu rheoli/monitro trwy gydol oes y contract.
  • Herio arferion gwael ac anniogel.

Mae'r polisi hwn yn gofyn am waith partneriaeth, cydweithredu a chydweithio effeithiol rhwng pawb sy'n ymwneud â phlant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl i sicrhau bod yr egwyddorion uchod yn cael eu mabwysiadu.


Cwmpas

Er mai gwasanaethau plant ac oedolion arbenigol sy’n arwain y gwaith o ddelio ag ymholiadau ynghylch pryderon y gall unigolion fod mewn perygl o niwed, mae gan bawb gyfrifoldeb i ddiogelu lles oedolion a phlant a allai fod mewn perygl beth bynnag fo’u rôl.

Mae’r polisi’n cwmpasu holl swyddogaethau a gwasanaethau’r Cyngor ac mae'n berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig a gofalwyr maeth y Cyngor, unigolion sydd ar leoliadau gwaith gyda’r Cyngor, gwirfoddolwyr ac unrhyw un sy'n gwneud gwaith ar ran y Cyngor, gan gynnwys contractwyr ac ymgynghorwyr annibynnol.
Mae dyletswydd ar y Cyngor hefyd i sicrhau bod sefydliadau eraill a gomisiynir i ddarparu gwasanaethau ar ei ran yn rhoi sylw i’r angen i ddiogelu a hyrwyddo lles oedolion a phlant.

Bydd y Cyngor yn gweithio i ddiogelu plant ac oedolion yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sy'n diffinio fel a ganlyn:

Plentyn mewn perygl yw plentyn sy'n profi camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed neu sydd mewn perygl o hynny ac;

  • Sydd ag anghenion am ofal a chymorth, p'un a yw'r awdurdod yn diwallu unrhyw rai o'r anghenion hynny ai peidio.

Oedolyn mewn perygl yw oedolyn sy'n profi camdriniaeth neu esgeulustod neu sydd mewn perygl o hynny ac;

  • Sydd ag anghenion am ofal a chymorth, p'un a yw'r awdurdod yn diwallu unrhyw rai o'r anghenion hynny ai peidio ac;
  • Sydd o ganlyniad i'r anghenion hynny, yn methu amddiffyn ei hun rhag camdriniaeth neu esgeulustod neu'r perygl o hynny.

Deddfwriaeth, Polisi a Chanllawiau

Mae'r ddeddfwriaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr amryw Ddeddfau a enwir isod yn sefydlu’r hawl i bobl gael eu hamddiffyn rhag cael eu cam-drin. Y man cychwyn cyfreithiol i gyflawni’r amcan hwn yw dyletswydd gweithwyr proffesiynol i roi gwybod am honiadau o gam-drin ac esgeuluso. Mae’r gyfraith hefyd yn enwi’r Awdurdod Lleol fel yr awdurdod arweiniol ar gyfer gwneud ymholiadau i ganfod p'un a yw unigolyn mewn perygl ac i gydlynu’r ymateb i’w amddiffyn. Yn ymarferol nid yw hyn byth yn cael ei gyflawni ar ei ben ei hun na heb arweinyddiaeth glir ac atebolrwydd am y gwaith, sydd yn yr un modd wedi’i nodi mewn cyfraith, ynghyd â’r ddyletswydd i gydweithredu a chydweithio ag eraill.

Mae’r Cyngor yn cydnabod bod arferion da mewn diogelu yn dwyn ynghyd yr holl weithgarwch sydd wedi’i fwriadu i hybu arferion diogel ac atal pobl rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso. Am y rheswm hwn, ac oherwydd bod y gyfraith, polisi, canllawiau a rheoliadau yn newid o bryd i'w gilydd, mae'n amhosibl darparu rhestr gynhwysfawr o ddeddfwriaeth berthnasol a dogfennau cysylltiedig ond rhestrir y rhai mwyaf arwyddocaol isod:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Addysg 2002 – ynghyd â "Cadw Dysgwyr yn Ddiogel" – Rôl Awdurdodau Lleol, cyrff llywodraethu a pherchnogion ysgolion annibynnol dan Ddeddf Addysg 2002
  • Deddf Plant 1989 a 2004
  • Adran 17 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005
  • Deddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) 2019
  • Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
  • Deddf Tai 2004
  • Deddf Trwyddedu 2003 
  • Deddf Hawliau Dynol 1998
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP)
  • Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn a Hawliau Dynol 
  • Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015
  • Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015

Bydd y Cyngor yn sicrhau bod ei arferion yn cydymffurfio â’r polisïau a’r gweithdrefnau canlynol:

  • Gweithdrefnau Diogelu Cymru
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Chodau Ymarfer, Canllawiau a Rheoliadau cysylltiedig.
  • Gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu pobl cyfrol 5: ymdrin ag achosion unigol i amddiffyn plant sy’n wynebu risg3
  • Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl: Cyfrol 6 – ymdrin ag achosion unigol i amddiffyn oedolion sy’n wynebu risg4
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - Diogelu Corfforaethol - Canllaw Arferion Da
  • Polisi Datgelu Camarfer Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Polisi Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Cyngor Sir Caerfyrddin 
  • Polisi Safonau Ymddygiad Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Côd Ymddygiad Cyngor Sir Gaerfyrddin

Dylai gweithwyr a chynghorwyr hefyd weithredu yn unol â’r Côd Ymddygiad proffesiynol perthnasol. Y bwriad yw y bydd y Polisi Diogelu Corfforaethol yn ategu ac nid yn disodli unrhyw gyfrifoldebau sydd eisoes wedi’u nodi mewn deddfwriaeth, polisi neu ganllawiau a nodir uchod neu rywle arall. Rhaid i'r rheiny sy'n defnyddio'r polisi hwn fod yn ymwybodol o newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau, polisi a rheoliadau a allai fod wedi digwydd ar ôl cyhoeddi'r ddogfen hon.

3Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl: Cyfrol 5
4Ymdrin ag achosion unigol i amddiffyn oedolion syn wynebu risg - Cyfrol 6
5Diogelu Corfforaethol Canllaw Arferion Da (wlga.cymru)


Cyd-destun Strategol

Ar lefel strategol, mae'r dull hwn o ddiogelu yn seiliedig ar werthoedd craidd y cyngor:

  • Un Tîm
  • Uniondeb
  • Cwsmeriaid yn Gyntaf
  • Rhagori
  • Cymryd Cyfrifoldeb
  • Gwrando

ac yn cefnogi'r gwaith o gyflawni 4 amcan llesiant y Cyngor fel y nodir yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor.

  • Dechrau’n Dda
  • Byw’n Dda
  • Heneiddio’n Dda
  • Amgylchedd iach, diogel a llewyrchus

Ar lefel Cymru gyfan, mae cadw pobl yn ddiogel yn cyfrannu at y nodau Llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.6

6Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 - The Essentials (pdf)


Llywodraethu

Ar lefel gorfforaethol, caiff y cyfrifoldeb am fonitro effeithiolrwydd trefniadau diogelu ar draws y Cyngor ei ddirprwyo i'r Grŵp Diogelu Corfforaethol.

Mae gan bob Pennaeth Gwasanaeth rôl ddiogelu a bydd yna Bennaeth Diogelu arweiniol ar gyfer pob cyfarwyddiaeth a fydd yn mynd i gyfarfodydd y grŵp diogelu corfforaethol. Bydd y Cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau diogelu statudol strategol trwy Arweinwyr Diogelu Dynodedig ym mhob un o Gyfarwyddiaethau'r Cyngor. Yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, mae pob Pennaeth Gwasanaeth yn ymgymryd â rôl yr Arweinydd Diogelu Dynodedig.

Bydd yr Arweinwyr Diogelu Dynodedig yn cynrychioli eu Cyfarwyddiaeth ar y Grŵp Diogelu Corfforaethol ac yn gweithredu fel cyfrwng ar gyfer lledaenu gwybodaeth ddiogelu i'r Grŵp Diogelu Corfforaethol ac oddi wrtho.

Mae gan y Grŵp Diogelu Corfforaethol gyfrifoldebau adrodd i'r Tîm Rheoli Corfforaethol, y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Cabinet.

Y Grŵp Diogelu Corfforaethol (Llywodraethu Diogel)

Mae'r Grŵp Diogelu Corfforaethol yn darparu trefn 'Llywodraethu Diogel' a, thrwy raglen waith y cytunwyd arni, wedi'i datblygu a'i monitro gan ei grwpiau cyflawni diogelu corfforaethol cysylltiedig, a thrwy weithio mewn partneriaeth agos, yn ceisio sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau diogelu statudol. Bydd yn sicrhau bod gan bob maes gwasanaeth drefniadau diogelu cadarn ar waith sy'n cael eu harchwilio a'u monitro'n rheolaidd.

Bydd sylwadau'r Cabinet, y Pwyllgor Craffu, Archwilio Mewnol a rheoleiddwyr ac archwilwyr allanol yn llywio blaenoriaethau'r Grŵp Diogelu Corfforaethol ac yn dylanwadu arnynt. O dan Gylch Gorchwyl y Grŵp Diogelu Corfforaethol, mae Arweinwyr Diogelu Dynodedig yn 'gyfrifol am gael gwybodaeth a chamau gweithredu gan eu meysydd gwasanaeth a'u lledaenu yn ôl iddynt; byddant yn atebol am gwblhau camau gweithredu a thasgau a briodolir i'w maes gwasanaeth’.

Bydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a fydd yn nodi newidiadau mewn themâu a'r dysgu a strategaethau a weithredir i fynd i'r afael â'r newidiadau hynny, yn tynnu sylw at berfformiad y Cyngor wrth gydymffurfio â'r Polisi Diogelu Corfforaethol, ac yn cynnwys archwiliad o berfformiad diogelu pob maes gwasanaeth.’ Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol drwy'r Tîm Rheoli Corfforaethol.

Bydd Cadeirydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn rhoi gwybod i Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru am unrhyw faterion brys sy'n codi neu themâu sy'n dod i'r amlwg a allai fod yn berthnasol i'r rhanbarth ac ar draws asiantaethau.

Bydd aelodau'r Grŵp Diogelu Corfforaethol yn cynnwys y swyddogion canlynol-

  • Cadeirydd - Cyfarwyddwr Cymunedau (Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol)
  • Aelod Arweiniol dros Ddiogelu Corfforaethol (Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol)
  • Dirprwy Brif Weithredwr - Rheoli Pobl a Pherfformiad
  • Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant
  • Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
  • Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion
  • Rheolwr Gwasanaeth Amddiffyn Plant (Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol)
  • Uwch-reolwr Amddiffyn Oedolion (Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol)
  • Arweinwyr Diogelu Dynodedig y Gyfarwyddiaeth
  • Cadeirydd y Grŵp Cyflawni - Partneriaethau Diogel
  • Cadeirydd Grŵp Cyflawni - Gweithlu a Gweithle Diogel
  • Cadeirydd y Grŵp Cyflawni - Ymarfer a Pherfformiad Diogel


Bydd cymorth busnes dynodedig yn cael ei ddarparu. Bydd Swyddogion eraill yn cael eu cyfethol yn ôl yr angen a chytunir arnynt gan y grŵp.

Bydd aelodau’r Grŵp Diogelu Corfforaethol yn chwarae rôl weithredol wrth sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion. Bydd pob aelod o’r grŵp yn hyrwyddo diogelu o fewn ei gyfarwyddiaeth a’r sefydliad ehangach. Byddant yn gyfrifol am godi ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau diogelu corfforaethol a sicrhau lefelau uchel o gydymffurfiaeth.

Bydd gan bob aelod o’r grŵp fynediad brys at Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, y Prif Weithredwr Cynorthwyol neu’r Aelod Arweiniol dros Ddiogelu Corfforaethol os oes angen.

Caiff y Grŵp Diogelu Corfforaethol ei gefnogi gan dri Grŵp Cyflawni, pob un â’i feysydd ffocws allweddol ei hun. Bydd y grwpiau cyflawni yn cwrdd bob chwarter a byddant yn adrodd wrth y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn rheolaidd. Cadeirydd y grwpiau fydd uwch-swyddog a fydd yn sicrhau bod y meysydd blaenoriaeth a’r cynlluniau gweithredu a’r mesurau perfformiad cysylltiedig yn cael eu goruchwylio’n gadarn. Rhestrir rhai o’r prif feysydd ffocws isod:

 

Grŵp Cyflawni Gweithle/Gweithlu Diogel

  • Diogelu fel cyfrifoldeb ar bawb.
  • Recriwtio diogel
  • Dadansoddi anghenion hyfforddi
  • Darparu Hyfforddiant
  • Polisïau'r Gweithlu a'r Gweithle
  • Polisi/gwiriadau'r DBS
  • Contractau Allanol/Gwirfoddolwyr
  • Rolau a chyfrifoldebau
  • Codi ymwybyddiaeth/cyfathrebu.
  • Rhoi gwybod am gam-drin ac esgeuluso

 

Grŵp Cyflawni Arferion Diogel a Pherfformiad

  • Polisïau Diogelu
  • Mesurau perfformiad
  • Archwiliadau/arolygiad
  • Adolygu a Monitro
  • Ymgorffori Dysgu ar y Cyd
  • Rhannu gwybodaeth
  • Camau gwella/Arferion da
  • Ymyrraeth Gynnar/Atal
  • Llais y Plentyn/Oedolyn/gwneud diogelu'n bersonol.
  • Eiriolaeth
  • Cynnwys defnyddwyr gwasanaeth/adborth
  • Cyfathrebu

 

Grŵp Cyflawni Partneriaethau Diogel

  • Cysylltu â Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Cysylltu â'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
  • Cysylltu â'r Bwrdd Strategol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
  • Cysylltu â phartneriaid statudol
  • Cysylltu â'r Bartneriaeth Diogelwch
  • Cymunedol/Bwrdd Contest
  • Polisïau a Gweithdrefnau Amlasiantaeth
  • Hyfforddiant Amlasiantaeth
  • Archwiliadau Amlasiantaeth
  • Perfformiad ac Adolygiadau Amlasiantaeth

 

Byrddau Diogelu Rhanbarthol

Yn ogystal, mae gan y Cyngor rôl fel Partner Arweiniol ac aelod o Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru. (CYSUR a CWMPAS). Mae'r Bwrdd yn bartneriaeth statudol amlasiantaeth sy'n gweithio i amddiffyn a diogelu oedolion a phlant. Mae'n gyfrifol am:


  • Amddiffyn plant sy'n cael eu cam-drin, eu hesgeuluso, neu eu niweidio mewn rhyw ffordd arall, neu y mae perygl y bydd hynny'n digwydd iddynt, ac atal plant rhag bod mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso, neu eu niweidio mewn rhyw ffordd arall.
  • Amddiffyn oedolion sydd ag anghenion am ofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod lleol yn diwallu unrhyw un o'r anghenion hynny), ac sy'n cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso neu sydd mewn perygl o fod hynny'n digwydd iddynt. Atal yr oedolion hynny rhag bod mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Mae gan y Bwrdd ddyletswydd statudol i ddatblygu Cynllun Blynyddol ar sail ranbarthol ac mae ganddo gyfrifoldeb cyffredinol dros herio asiantaethau perthnasol mewn perthynas â'r mesurau sydd ar waith i amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl.

 

CYSUR yw Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru. Dyma air Cymraeg sydd hefyd yn Saesneg yn acronym ar gyfer 'Child and Youth Safeguarding; Unifying the Region'. Mae CYSUR yn gyfuniad o'r hen Fyrddau Diogelu Plant Lleol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

CWMPAS yw Bwrdd Diogelu Oedolion Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru. Dyma air Cymraeg sydd hefyd yn Saesneg yn acronym ar gyfer 'Collaborative Working and Maintaining Partnership in Adult Safeguarding'. Mae CWMPAS hefyd yn ymestyn ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Gyda'i gilydd caiff CYSUR a CWMPAS eu hadnabod fel Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru.

 

Grŵp Gweithredol Lleol Sir Gaerfyrddin (LOG)

Mae'r Grŵp Gweithredol Lleol yn adrodd wrth Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru a dyma'r corff amlasiantaeth gweithredol ar gyfer diogelu oedolion a phlant yn Sir Gaerfyrddin.

Mae aelodau'r Grŵp Gweithredol Lleol yn cynnwys rheolwyr ac ymarferwyr ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, Addysg Uwch ac Addysg Bellach, Iechyd, yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf a'r Sector Gwirfoddol.

Rhan o gylch gwaith y Grŵp Gweithredol Lleol yw cydweithio i sicrhau bod trefniadau diogelu ar y cyd yn gweithredu'n effeithiol yn Sir Gaerfyrddin.

 

Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Rôl y Pwyllgor Craffu yw adolygu a chraffu ar benderfyniadau a gwneud adroddiadau neu argymhellion mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r Cyngor, boed hynny gan y Cabinet neu ran arall o'r Cyngor.

Bydd y pwyllgor craffu yn rhoi her adeiladol i'r Cyngor ynghylch ei weithgarwch diogelu mewn modd diduedd ac annibynnol.

Lawrlwythwch y Strwythur Llywodraethu Diogelu Corfforaethol


Rolau a Chyfrifoldebau

Y Gwasanaethau Cymdeithasol (Gwasanaethau Oedolion a Phlant) sy'n gyfrifol am dderbyn ac ymateb i bryderon ynghylch plant a'r Gwasanaethau Oedolion sy'n gyfrifol am dderbyn ac ymateb i bryderon ynghylch oedolion sydd mewn perygl. Fodd bynnag, mae pob aelod o staff y Cyngor yn gyfrifol am ddiogelu.

Mae dyletswydd ar yr holl weithwyr, cynghorwyr a gwirfoddolwyr i roi gwybod am bryderon am gam-drin ac esgeuluso. Nid mater o ddewis personol yw hyn.


Cydnabod pryderon ac ymateb iddynt

Dylai pob gweithiwr fod yn effro i'r posibilrwydd o gam-drin. Gall unigolyn bryderu am ddiogelwch neu les unigolyn mewn sawl ffordd:

  • Efallai y bydd y person yn dweud wrthych.
  • Efallai y bydd y person yn dweud rhywbeth sy'n peri pryder i chi.
  • Efallai y bydd trydydd parti yn lleisio pryderon.
  • Efallai y byddwch yn gweld rhywbeth – digwyddiad neu anaf neu arwydd arall.

Gall staff, gwirfoddolwyr a chontractwyr fod yn 'llygaid a chlustiau' y Cyngor, wrth iddynt wneud eu swyddi o ddydd i ddydd, oherwydd mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb. Dyma enghreifftiau o'r rhain:

  • Swyddogion Tai – mae sawl adolygiad o blant ac oedolion sy'n cael eu niweidio wedi nodi pwysigrwydd Swyddogion Tai, sydd â mewnwelediad unigryw i fywydau teuluoedd ac sy'n gallu adnabod arwyddion o gamdriniaeth, esgeulustod neu gamfanteisio.
  • Rheoli Gwastraff – mae casglwyr sbwriel yn mynd i'r un tai a chymunedau bob wythnos a gallant sylwi pryd y gallai plentyn fod yn dioddef neu mewn perygl o gamdriniaeth.
  • Parciau a Gerddi – gall staff neu gontractwyr fod yn effro i fannau lle mae plant a phobl ifanc yn ymgynnull, ac adnabod ymddygiadau sy'n peri pryder a allai ddangos bod rhyw fath o gamdriniaeth neu gamfanteisio yn digwydd.
  • Iechyd yr Amgylchedd – yn ystod eu gwaith o ddydd i ddydd wrth arolygu safleoedd, gall swyddogion ystyried materion diogelu y gallent ddod ar eu traws, mewn safleoedd trwyddedig, gwestai neu gartrefi pobl.

Mae gan unrhyw berson sy'n gyfrifol am blant neu oedolion sydd mewn perygl neu sy'n gweithio gyda nhw, mewn unrhyw swydd boed yn gyflogedig neu'n ddi-dâl, ddyletswydd gofal tuag atynt yn gyfreithiol ac yn gontractiol ac fel dinesydd moesol cyfrifol. Mae hyn yn cynnwys dyletswydd i ymddwyn mewn modd nad yw'n bygwth pobl, yn eu niweidio neu'n eu rhoi mewn perygl o niwed gan eraill.

Mae gan bob rhan o'r gweithlu gyfrifoldeb i ymddwyn yn eu bywydau preifat mewn modd nad yw'n peryglu eu sefyllfa yn y gweithle neu sy'n codi cwestiynau ynglŷn â pha mor addas ydynt i weithio gyda phlant neu oedolion sydd mewn perygl. Mae hyn yn eglur yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru (adran 5)

Mae'r ddyletswydd i roi gwybod yn ofyniad cyfreithiol a bydd methu â rhoi gwybod yn briodol yn cael ei ystyried yn fater difrifol.

Nid cyfrifoldeb unrhyw un unigolyn yw penderfynu a yw cam-drin wedi digwydd ai peidio neu a yw unigolyn mewn perygl o niwed; fodd bynnag, mae ganddo gyfrifoldeb i weithredu os oes ganddo unrhyw bryderon.

Nid rôl Cynghorau yn unig yw diogelu plant ac oedolion, mae'n gofyn am weithio amlasiantaeth effeithiol a chydweithrediad y gymuned ehangach ac asiantaethau partner, i ddatblygu a gweithredu gweithgarwch cydlynol, gan ddefnyddio tystiolaeth a gwybodaeth leol, a gaiff ei rhannu'n briodol. Mae gan gynghorau rôl arweinyddiaeth ac eiriolaeth unigryw yn lleol ac yn gymunedol, gan weithio ochr yn ochr â'r gymuned, yr heddlu a chyrff cyhoeddus eraill, i sicrhau bod plant, pobl ifanc ac oedolion yn aros yn ddiogel yn y mannau lle maent yn byw ac yn cwrdd. Ni ddylid ystyried bod cam-drin yn digwydd yng nghartref y teulu yn unig. Mae angen deall ac ymateb hefyd i risg a niwed y tu allan i gartref y teulu, er mwyn creu mannau diogel i bobl Sir Gaerfyrddin.


Delio â phryder diogelu

  • Peidiwch â chynhyrfu a gwrandewch yn ofalus, rhowch dawelwch meddwl i'r plentyn, y person ifanc neu'r oedolyn.
  • Defnyddiwch wrando adfyfyriol a gofynnwch gwestiynau anfeirniadol agored – (beth, pwy, ble, pryd).
  • Peidiwch ag addo i'r plentyn neu oedolyn y byddwch yn cadw'r mater yn gyfrinachol.
  • Cofnodwch (yng ngeiriau'r person).
  • Gofynnwch am gyngor pellach gan eich Arweinydd Diogelu Dynodedig neu'ch gwasanaethau cymdeithasol os oes angen.
  • Esboniwch wrth y rhieni/unigolyn/gofalwr/teulu eich bod yn atgyfeirio'ch pryder ac yn cael caniatâd i wneud hynny, oni bai eich bod yn credu y byddwch trwy wneud hynny yn rhoi'r plentyn neu'r oedolyn mewn mwy o berygl o niwed.

Rhoi gwybod am bryder

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch diogelwch plentyn, person ifanc neu oedolyn, yna rhaid i chi roi gwybod i'ch Arweinydd Diogelu Dynodedig a/neu gysylltu â Thimau Atgyfeirio Canolog y Gwasanaethau Plant neu Oedolion.

Y Timau Atgyfeirio Canolog yw'r pwynt cyswllt cychwynnol i bobl sy'n chwilio am wasanaethau a gweithgareddau ar gyfer plant, teuluoedd ac oedolion yn lleol neu sydd am gael cyngor ac arweiniad ar sut i gael cymorth ychwanegol, neu i godi mater neu bryder ynghylch lles plentyn, person ifanc neu oedolyn.

Bydd staff yn y timau hyn yn sicrhau bod unrhyw faterion trawsffiniol yn cael eu harchwilio ac yn gwneud ymholiadau yn ôl yr angen fel rhan o'u dyletswyddau.

Os yw pryder yn ymwneud â phlentyn, cysylltwch â Thîm Atgyfeirio'r Gwasanaethau Plant (Gwasanaethau Plant) ar 01554 742322.

Os yw'r pryder yn ymwneud ag oedolyn, cysylltwch â Thîm Cyngor ac Asesu'r Gwasanaethau Oedolion (Llesiant Delta) ar 0300 333 22222.

Dylid cysylltu â Thîm y Tu Allan i Oriau Arferol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar 0300 333 2222 os yw’r mater yn codi ar ôl 5:00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener ac ar benwythnosau a Gwyliau Banc.

Rhaid cysylltu â’r Heddlu ar unwaith os yw plentyn neu oedolyn mewn perygl, neu os cyflawnwyd trosedd.

Gall gweithwyr hefyd gysylltu â: Swyddogion Dynodedig yr Awdurdod Lleol

Plant - Rebecca Robertshaw, RRobertshaw@sirgar.gov.uk
Oedolion - Cathy Richards, CRichards@sirgar.gov.uk

Neu Arweinwyr Diogelu Penonodedgi

Avril Bracey- Cymunedau, ABracey@sirgar.gov.uk
Jan Coles – Addysg a Phlant, JColes@sirgar.gov.uk
Paul Thomas – Prif Weithredwyr, PRThomas@sirgar.gov.uk
Helen Pugh – Gwasanaethau Corfforaethol, HLPugh@sirgar.gov.uk
Jackie Edwards – Lle a Seilwaith, JMEdwards@sirgar.gov.uk


Monitro ac Adolygu

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin fframwaith llywodraethu effeithiol. Bydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a fydd yn tynnu sylw at berfformiad y Cyngor o ran cydymffurfio â’r Polisi Diogelu Corfforaethol.

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Tîm Rheoli Corfforaethol, y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Cabinet a bydd yn rhoi cyfle i herio'r gwaith a wnaed.

Bydd y Polisi Diogelu Corfforaethol yn cael ei adolygu'n flynyddol.


Atodiad 1 - Categorïau ac arwyddion o gamdriniaeth ac esgeulustod - Plant

Categorïau ac arwyddion o gamdriniaeth ac esgeulustod - Plant

Mae diogelu’n golygu amddiffyn iechyd, llesiant a hawliau dynol pobl, a’u galluogi i fyw heb gael niwed a heb gael eu cam-drin na’u hesgeuluso.
Mae Adran 197(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi’r categorïau cam-drin, sef:

  • Corfforol
  • Rhywiol
  • Seicolegol/Emosiynol
  • Esgeulustod
  • Ariannol

Mae cam-drin ariannol wedi cael ei ychwanegu fel categori newydd ar gyfer Plant o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Diffinio Cam-drin ac Esgeuluso Plant – (Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008)

Mae plentyn yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso pan fydd rhywun yn achosi niwed iddo neu'n methu â gweithredu i atal niwed. Gall plant gael eu cam-drin mewn teulu neu mewn lleoliad sefydliadol neu gymunedol, gan bobl y maent yn eu hadnabod neu, yn fwy prin, gan rywun dieithr. Gall plentyn neu berson ifanc hyd at 18 oed gael ei gam-drin neu ei esgeuluso a gall fod angen ei amddiffyn trwy gynllun amddiffyn plant rhyngasiantaethol.

 

Diogelu plant mewn addysg

Bydd pob ysgol wedi dynodi Athro Dynodedig Amddiffyn Plant gyda chyfrifoldeb am ddiogelu ac amddiffyn plant. Bydd gan bob ysgol ei pholisi amddiffyn plant ei hun hefyd. Bydd y polisi’n nodi personél allweddol. Dylid hysbysu’r Athro Dynodedig Amddiffyn Plant neu’r dirprwy yn absenoldeb yr Athro Dynodedig Amddiffyn Plant ynghylch unrhyw bryderon am ddiogelu.

Dylai staff sicrhau eu bod yn cadw cofnodion llawn a chywir o’u pryderon, gan gynnwys manylion unrhyw ddatgeliadau, a dylent gynnwys camau a gymerwyd, e.e. ‘wedi atgyfeirio at yr Athro Dynodedig Amddiffyn Plant’. Mae cadw cofnodion yn allweddol bwysig wrth ymdrin â diogelu a dylai cofnodion fod yn glir, yn fanwl a gwahaniaethu rhwng ffeithiau a barn.

Rhaid i gofnodion wastad gynnwys enw’r plentyn, dyddiad y digwyddiad/pryder, enw llawn y person sy’n gwneud y cofnod a manylion y cam gweithredu a gymerwyd a’r bobl y siaradwyd gyda hwy.

Er mai’r Athro Dynodedig Amddiffyn Plant yw’r person â chyfrifoldeb am amddiffyn a diogelu plant, os oes gan aelod o staff bryderon nad yw mater wedi cael sylw gall wneud atgyfeiriad ei hun.

Dylid cofio bod Amddiffyn Plant yn gyfrifoldeb ar bawb ac y gall unrhyw unigolyn wneud atgyfeiriad at dîm asesu’r gwasanaethau plant. Ni all gweithwyr proffesiynol aros yn ddienw wrth wneud atgyfeiriadau.


Atodiad 1 parhad - Categorïau ac arwyddion o gamdriniaeth - Oedolion mewn Perygl

Categorïau ac arwyddion o gamdriniaeth - Oedolion mewn Perygl

Mae Adran 197(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu diffiniadau o ‘cam-drin’ ac ‘esgeuluso’.

Ystyr cam-drin yw cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol (ac mae’n cynnwys cam-drin sy’n digwydd mewn unrhyw leoliad, p’un ai mewn annedd breifat, mewn sefydliad neu mewn unrhyw fan arall)

Ystyr esgeuluso yw methiant i ddiwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol person, sy’n debygol o arwain at amharu ar lesiant y person (er enghraifft, amharu ar iechyd y person).

Mae’r canlynol yn rhestr anghynhwysfawr o enghreifftiau ar gyfer pob categori cam-drin ac esgeuluso:

 

Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)
Caiff ystod o fathau o drais eu cydnabod o dan y term Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Defnyddir llawer o'r termau hyn fel termau ymbarél, ac nid ydynt yn annibynnol ar ei gilydd, mae'r rhain yn cynnwys:

Trais ar Sail Rhywedd (GBV)
Mae trais ar sail rhywedd yn golygu trais sy'n cael ei gyfeirio at berson yn seiliedig ar rywedd. Mae'n torri'r hawl sylfaenol i fywyd, rhyddid, diogelwch, urddas,cydraddoldeb rhwng menywod a dynion, peidio â gwahaniaethu ac uniondeb corfforol a meddyliol (Cyngor Ewrop, 2011).

Trais rhwng partneriaid agos
Mae trais rhwng partneriaid agos yn ymddygiad gan bartner agos neu gynbartner sy'n achosi niwed corfforol, rhywiol neu seicolegol, gan gynnwys ymddygiad ymosodol corfforol, gorfodaeth rywiol, cam-drin seicolegol, cam-drin economaidd ac ymddygiadau rheoli (Sefydliad Iechyd y Byd, 2017)

Trais a cham-drin domestig
Defnyddir y term trais a cham-drin domestig i gyfeirio at drais mewn lleoliad domestig, gan gynnwys trais rhwng partneriaid agos, ond gall y term hefyd gwmpasu trais plentyn i riant neu gam-drin pobl hŷn neu gamdriniaeth gan unrhyw aelod o deulu neu aelwyd.

Trais a cham-drin rhywiol
Mae trais rhywiol, ymosodiad rhywiol neu aflonyddu rhywiol yn cynnwys unrhyw weithred rywiol, ymgais i gael gweithred rywiol, neu weithred arall a gyfeirir yn erbyn rhywioldeb unigolyn gan ddefnyddio gorfodaeth, gan unrhyw berson beth bynnag yw ei berthynas â'r dioddefwr, mewn unrhyw leoliad (Sefydliad Iechyd y Byd, 2012b). Gall gweithredoedd treisgar rhywiol ddigwydd mewn amrywiaeth o leoliadau a gallant gynnwys treisio o fewn priodas neu o fewn perthynas; trais gan ddieithriaid; cam-drin plant yn rhywiol; puteindra gorfodol neu fasnachu pobl at ddibenion camfanteisio rhywiol ac aflonyddu rhywiol (Krug et al., 2002).

Rheolaeth drwy orfodaeth
Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn weithred neu'n batrwm o weithredoedd o ymosod, bygythiadau, bychanu a dychrynu neu gam-drin arall a ddefnyddir i niweidio, cosbi neu ddychryn y dioddefwr. Mae'r ymddygiad rheoli hwn wedi'i fwriadu i wneud person yn ddibynnol trwy eu hynysu rhag cymorth, camfanteisio arnynt, eu hamddifadu o annibyniaeth a rheoli eu hymddygiad bob dydd (Cymorth i Fenywod, 2020b). Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn aml yn cynnwys trais corfforol a gorfodaeth rywiol ac mae tystiolaeth bod achosion sy'n ymwneud â rheoli drwy orfodaeth yn fwy tebygol o arwain at niwed difrifol, gan gynnwys lladdiad domestig, nag achosion sy'n cynnwys gweithredoedd ar wahân o drais corfforol (Myhill and Hohl, 2019)

Priodas dan Orfod
Priodas dan orfod yw pan nad yw un o'r ddau berson neu'r ddau ohonynt yn cydsynio i'r briodas (neu mewn achosion o bobl sydd â rhai anableddau dysgu, pan nad ydynt yn gallu gwneud hynny) a bod pwysau neu gamdriniaeth yn cael ei ddefnyddio. Caiff ei gydnabod fel math o drais yn erbyn menywod a dynion, cam-drin domestig/cam-drin plant, math o gaethwasiaeth fodern, a throsedd difrifol yn erbyn hawliau dynol.

Priodas plentyn
Mewn perthynas â phriodas plentyn, ystyrir nad yw unrhyw blentyn (o dan 18 oed) yn gallu dewis priodi o'i wirfodd. Mae cymhlethdodau'n codi pan fo hawl gyfreithiol i blentyn briodi'n gynharach (o 16 oed) gyda chaniatâd rhiant, fel yn y DU.

Cam-drin ar sail anrhydedd fel y’i gelwir
I rai cymunedau, ystyrir bod y cysyniad o 'anrhydedd' yn hynod bwysig, mae peryglu 'anrhydedd' teulu yn dod ag amarch a chywilydd a gall hyn arwain at ganlyniadau difrifol. Gall y gosb am ddod ag amarch fod yn gam-drin emosiynol, cam-drin corfforol, diarddel o'r teulu ac mewn rhai achosion hyd yn oed llofruddiaeth. Yn y rhan fwyaf o achosion o gam-drin ar sail anrhydedd fel y'i gelwir mae sawl un yn cyflawni'r trosedd.

Anffurfio Organau Cenhedlu Menywod (FGM)
Mae anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) yn cynnwys pob arfer sy'n cynnwys tynnu organau cenhedlu allanol benywod yn rhannol neu'n llwyr, achosi anaf arall iddynt, neu newid organau cenhedlu benywod am resymau anfeddygol.

Caethwasiaeth Fodern/Masnachu Pobl
Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd difrifol sy'n torri hawliau dynol. Mae’r troseddau hyn yn cynnwys dal person mewn swydd o gaethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur dan orfodaeth neu orfodol, neu hwyluso ei daith gyda’r bwriad o gamfanteisio arno’n fuan wedyn. Caiff dioddefwyr eu gorfodi, eu bygwth neu eu twyllo i sefyllfaoedd o ddarostyngiad, diraddiad a rheolaeth sy'n tanseilio eu hunaniaeth bersonol a'u hymdeimlad o'r hunan. O fewn hyn, mae masnachu pobl yn cynnwys camfanteisio gorfodol ar eraill, fel arfer at ddibenion rhywiol neu lafur.

Er bod masnachu mewn pobl yn aml yn cynnwys elfen drawsffiniol, mae hefyd yn bosibl bod yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern yn eich gwlad eich hun. Mae’n bosibl bod yn ddioddefwr hyd yn oed os rhoddwyd cydsyniad i gael eich symud.

Ni all plant roi cydsyniad i rywun gamfanteisio arnynt, felly nid oes angen i’r elfen o orfodaeth neu dwyll fod yn bresennol i brofi bod trosedd wedi digwydd.

Aflonyddu rhywiol
Caiff aflonyddu rhywiol ei ddiffinio fel ymddygiad rhywiol digroeso. Mae hyn yn cynnwys derbyn negeseuon e-bost neu negeseuon testun digroeso a/neu anweddus, neu gynigion anweddus a/neu amhriodol ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol

Trais mewn perthnasoedd ymhlith pobl ifanc.
Mae trais mewn perthnasoedd ymhlith pobl ifanc, a elwir hefyd yn gam-drin mewn perthnasoedd ymhlith pobl ifanc, yn cyfeirio at gam-drin partner mewn perthynas neu bartner rhywiol yn emosiynol, yn gorfforol neu'n rhywiol lle mae o leiaf un person yn ei arddegau.

Troseddau Casineb
Ystyr Digwyddiad Casineb yw unrhyw ddigwyddiad y mae’r dioddefwr, neu unrhyw un arall, yn meddwl ei fod yn seiliedig ar ragfarn rhywun tuag at y dioddefwr oherwydd ei hil, ei grefydd, ei gyfeiriadedd rhywiol, ei anabledd neu am ei fod yn drawsryweddol.

Ceir rhagor o wybodaeth am Droseddau Casineb (gan gynnwys sut i roi gwybod am drosedd casineb) ar wefan Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gaerfyrddin. Troseddau Casineb.


Atodiad 2 - Offeryn Archwilio - Hunanasesiad Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflwyniad

Yn unol â Pholisi Diogelu Corfforaethol Sir Gaerfyrddin, disgwylir i bob sefydliad sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer oedolion sydd mewn perygl, plant, pobl ifanc a theuluoedd, neu sy'n gweithio gyda nhw, gynnal archwiliad o'u harferion diogelu, yn seiliedig ar broses o hunanwerthuso.

Bydd cyfarwyddwyr yn gyfrifol am sicrhau bod ganddynt weithdrefnau gweithredol diogelu ar waith a'u bod yn cynnal archwiliad blynyddol o'u cyfarwyddiaeth gan ddefnyddio'r Offeryn Archwilio - Hunanasesiad Diogelu Corfforaethol.

Mae'r fframwaith hunanasesu canlynol wedi'i drefnu mewn tair adran sy'n cwmpasu tair safon benodol sy'n sail i 'ddiogelu' ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i bob maes gwasanaeth feddwl am eu harferion a'u gweithdrefnau eu hunain yn eu lleoliadau perthnasol. Mae wedi'i fwriadu i roi dealltwriaeth o sut y mae'r thema 'diogelu' yn cael ei chyflawni'n llwyddiannus mewn maes gwasanaeth penodol ar hyn o bryd, a sut y gellid datblygu hyn.

Yn ogystal, mae'r hunanasesiad yn rhoi trosolwg i'r Cyngor o arferion diogelu ar draws ei holl feysydd gwasanaeth a gall sicrhau bod cydymffurfiaeth â'r gofynion diogelu a'r dyletswyddau yn cael eu bodloni'n effeithiol. Bydd y data o'r hunanwerthusiadau blynyddol yn rhan annatod o lywio'r gwaith o gynllunio gwasanaethau a thrwy hynny wella'r canlyniadau llesiant i ddinasyddion Sir Gaerfyrddin.

Bydd yr archwiliad hunanasesu yn cael ei gwblhau bob blwyddyn a bydd yn gofyn i chi ystyried y cyfnod treigl diwethaf o 12 mis.

Safonau:

  1. Polisi/Ymarfer (Cadarn) - Pa mor gadarn yw eich arferion diogelu yn eich maes gwasanaeth? (polisïau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd ac a ddefnyddir/ recriwtio diogel/cydymffurfio/hyfforddiant/archwiliadau ac arolygiadau/ rhoi gwybod).
  2. Amgylchedd (Diogel) - Pa mor ddiogel mae eich maes gwasanaeth yn teimlo i ddinasyddion sy'n defnyddio'ch gwasanaethau, ac i'ch staff sy'n gweithio yn eich maes wasanaeth? (awyrgylch/adeiladau/e-ddiogelwch / rhannu gwybodaeth/ cwynion a chanmoliaeth).
  3. Diwylliant (Effeithiol) - Pa mor effeithiol yw ymagwedd eich maes gwasanaeth tuag at ddiogelu? (Gweithio'n effeithiol gydag eraill i amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl a hyrwyddo lles dinasyddion, h.y. trwy wasanaethau a gomisiynir/cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol â staff a gwirfoddolwyr i wreiddio diogelu mewn ymarfer ac wrth gynllunio meysydd gwasanaeth)

 

Canllawiau ar gyfer cwblhau'r Offeryn Archwilio Hunanasesiad

Mae'r offeryn archwilio yn offeryn hunanasesu sy'n cwmpasu'r tair safon. O fewn pob un o'r safonau ceir mesurau y dylech eu darparu i ddangos pa mor effeithiol y mae eich maes gwasanaeth yn bodloni pob safon ar hyn o bryd, a ble mae modd gwneud gwelliannau.

Yn yr adran dystiolaeth rydych wedi cael rhai enghreifftiau byr mewn print italig, nid yw hon yn rhestr ofynnol o ddisgwyliadau a chânt eu darparu fel enghraifft eglurhaol er cymorth yn unig. Eich cyfrifoldeb chi fel rheolwr gwasanaeth eich meysydd gwasanaeth yw darparu'r dystiolaeth gywir i ddangos sut y caiff y mesurau eu cyflawni'n effeithiol. Meddyliwch yn ofalus am yr arferion a'r gweithdrefnau ar draws eich maes gwasanaeth perthnasol a'r sgôr RAG fel yr amlinellir isod.

Cofiwch y bydd angen i chi o bosibl feddwl am nifer o safleoedd / lleoliadau wrth ateb y cwestiynau. Rydych yn cyflwyno'r hunanwerthusiad mewn perthynas â'ch cyfran o'r maes gwasanaeth; fodd bynnag, bydd hyn wedyn yn cael ei goladu gydag ymatebion y rheolwyr gwasanaethau eraill i wneud hunanwerthusiad ar y cyd ar gyfer y maes gwasanaeth cyfan.

Lle bo'n berthnasol, byddwch yn benodol yn eich archwiliad ynghylch pa wasanaeth sy'n cael sylw os ydych yn nodi problem gydag un safle/gwasanaeth penodol yn eich maes. Er enghraifft, yn eich portffolio efallai y byddwch yn gyfrifol am sawl safle ac yn nodi bod yr arferion ar gyfer presenoldeb contractwyr ar y safle yn cael eu rheoli'n wahanol i'r polisi sydd ar waith a pholisi safleoedd eraill. Felly, dylai eich archwiliad ddangos y prif sgôr RAG ar gyfer eich perfformiad cyffredinol ac os nodir mater penodol ar gyfer safle / gwasanaeth penodol, dylid cofnodi hyn yn y blwch "Angen camau pellach" ynglŷn â sut y rhoddir sylw i hyn.

Byddwch yn barod i ganiatáu digon o amser i gasglu'r wybodaeth angenrheidiol ac ymgynghori â'ch rheolwyr tîm/gweinyddwyr/ac ati a allai fod â'r wybodaeth fesul safle /lleoliad, ac ati.

Cofiwch y gallwch hefyd gysylltu â'ch Arweinydd Diogelu Dynodedig yn eich maes gwasanaeth, partneriaid Adnoddau Dynol (e.e. ar gyfer data ar gofnodion hyfforddi), neu'r Uwch-reolwr Diogelu ar gyfer Gwasanaethau Plant neu Oedolion am unrhyw gyngor neu gymorth arall ar ôl cwblhau'r adnodd hunanasesu hwn.

Sgôr Hunanasesiad

Mae'r system goleuadau traffig yn ymwneud â sut y mae maes gwasanaeth yn asesu ei hun o ran cyrraedd y safon ofynnol. Os yw eich maes gwasanaeth yn ei asesu ei hun fel coch neu oren dylech gofnodi yn y blwch "Angen camau pellach" yr hyn sydd ei angen yn eich barn chi, neu os nad ydych yn siŵr, nodwch pa gymorth/cyngor sydd ei angen gan eich Arweinydd Diogelu Dynodedig i wella ar y mesur hwn i symud ymlaen.

Ar ddiwedd pob safon, cewch gyfle i fyfyrio ar y mesurau gan roi adroddiad ar yr hyn yr ydych chi'n teimlo eich bod yn ei wneud yn dda fel maes gwasanaeth; ble gallwch wella ac os oes angen unrhyw gymorth arnoch i ymgorffori 'diogelu.’

GWYRDD - Mae'n golygu bod popeth yn ei le, yn gyfoes, ac yn cyrraedd y safon ofynnol
OREN - Mae'n golygu bod angen adolygu neu wella rhywbeth
COCH - Mae'n golygu bod angen datblygu rhywbeth ar frys neu
fod angen mynd i'r afael â'r mesur ar frys

Ar ôl ei chwblhau, dylid dychwelyd y ffurflen hunanwerthuso ar y dyddiad penodedig i'ch Arweinydd Diogelu Dynodedig.

Templed archwilio llawn ar gael gan yr Uwch Reolwr Diogelu Corfforaethol
Cathy Richards, CRichards@sirgar.gov.uk