Polisi Diogelu Corfforaethol

Diogelu Pobl yn Sir Gaerfyrddin | Diweddarwyd fis Tachwedd 2023

Cwmpas

Er mai gwasanaethau plant ac oedolion arbenigol sy’n arwain y gwaith o ddelio ag ymholiadau ynghylch pryderon y gall unigolion fod mewn perygl o niwed, mae gan bawb gyfrifoldeb i ddiogelu lles oedolion a phlant a allai fod mewn perygl beth bynnag fo’u rôl.

Mae’r polisi’n cwmpasu holl swyddogaethau a gwasanaethau’r Cyngor ac mae'n berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig a gofalwyr maeth y Cyngor, unigolion sydd ar leoliadau gwaith gyda’r Cyngor, gwirfoddolwyr ac unrhyw un sy'n gwneud gwaith ar ran y Cyngor, gan gynnwys contractwyr ac ymgynghorwyr annibynnol.
Mae dyletswydd ar y Cyngor hefyd i sicrhau bod sefydliadau eraill a gomisiynir i ddarparu gwasanaethau ar ei ran yn rhoi sylw i’r angen i ddiogelu a hyrwyddo lles oedolion a phlant.

Bydd y Cyngor yn gweithio i ddiogelu plant ac oedolion yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sy'n diffinio fel a ganlyn:

Plentyn mewn perygl yw plentyn sy'n profi camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed neu sydd mewn perygl o hynny ac;

  • Sydd ag anghenion am ofal a chymorth, p'un a yw'r awdurdod yn diwallu unrhyw rai o'r anghenion hynny ai peidio.

Oedolyn mewn perygl yw oedolyn sy'n profi camdriniaeth neu esgeulustod neu sydd mewn perygl o hynny ac;

  • Sydd ag anghenion am ofal a chymorth, p'un a yw'r awdurdod yn diwallu unrhyw rai o'r anghenion hynny ai peidio ac;
  • Sydd o ganlyniad i'r anghenion hynny, yn methu amddiffyn ei hun rhag camdriniaeth neu esgeulustod neu'r perygl o hynny.