
Mynediad ar gyfer cerdded a beicio (Teithio Llesol)
Mae gennym ddyletswydd statudol o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i ddatblygu, gwella a hyrwyddo llwybrau cerdded a beicio ar gyfer teithiau byr bob dydd, megis cerdded i'r siopau, i'r ysgol, i'r gwaith.
Os nad yw'n bell, gadewch y car, a gallwch feicio neu gerdded yn lle hynny. Dyma'r opsiwn iachach i chi a'r amgylchedd. Arbedwch arian ar danwydd, costau rhedeg a pharcio a lleihau tagfeydd a llygredd aer.
Ar hyn o bryd rydym yn ceisio eich barn ar gynllun Teithio Llesol Caerfyrddin. Ewch i'r dudalen isod am fwy o wybodaeth ac i ddweud eich dweud.
YMGYNGHORIAD TEITHIO LLESOL Caerfyrddin