Cerdded i'r Ysgol
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024
Mae ein Rhaglen Cerdded i'r Ysgol yn eich annog chi i gerdded, beicio neu fynd ar gefn sgwter i'r ysgol ac yn ôl adref gyda'ch plentyn/plant.
Mae cerdded i'r ysgol o fantais i ddisgyblion, rhieni, yr ysgol a'r gymuned leol mewn amryw o ffyrdd:
- Mae'n datblygu sgiliau cerdded yn ddiogel a sgiliau diogelwch ffordd
- Mae'n lleihau tagfeydd traffig o amgylch gatiau'r ysgol - dim mwy o ymladd am y lle parcio olaf
- Mae'n arbed amser - yn aml mae'n gyflymach i gerdded (pellter bach hyd yn oed) yn hytrach nag eistedd mewn traffig!
- Mae disgyblion yn cyrraedd yr ysgol yn fwy effro ac ar amser
- Mae llai o nwyon o geir yn golygu gwell ansawdd aer
- Mae'n hybu ymarfer corff cymedrol
Os hoffech roi cynnig arni, bydd y cynlluniau canlynol yn rhoi ychydig o syniadau i chi ynghylch sut i fynd ati yn ogystal ag adnoddau defnyddiol i'w lawrlwytho.
Cerdded ar ddydd Mercher / Cerdded unwaith yr wythnos
Beth am osod her i'ch plentyn/plant o gerdded i'r ysgol o leiaf unwaith yr wythnos am dymor cyfan neu'r flwyddyn ysgol gyfan hyd yn oed? Beth am lawrlwytho'r garden gofnodi i nodi cynnydd eich plentyn/plant o ran yr her o gerdded i'r ysgol unwaith yr wythnos?
Parcio a Chamu
Os ydych chi'n byw yn rhy bell i ffwrdd o'r ysgol i gerdded y siwrnai gyfan, beth am barcio ychydig i ffwrdd a cherdded 5/10 munud olaf y siwrnai? Bydd hyn yn helpu i leihau tagfeydd wrth gatiau'r ysgol ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol.
Pa ffordd heddiw?
Cystadleuaeth wythnos o hyd sy'n cael ei chynnal mewn ysgolion ac sy'n ymwneud â dosbarth yn cystadlu yn erbyn dosbarth arall er mwyn gweld pa un sy'n gallu 'Camu' bellaf o'ch ysgol yw Her Pa Ffordd Heddiw. Cynhelir yr Her yn ystod wythnosau a ddynodwyd yn arbennig ar gyfer Her Pa Ffordd Heddiw.
Drwy ddechrau ar y tirnod agosaf i'ch ysgol ar y map Pa Ffordd Heddiw bob tro y mae ef/hi yn teithio i'r ysgol ar droed, ar feic, drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rhannu car neu gyda phlant eraill neu drwy barcio a chamu*. Y dosbarth buddugol yw'r un sy'n lliwio'r mwyaf o olion traed fesul disgybl ac sy'n mynd bellaf o amgylch Sir Gaerfyrddin mewn wythnos.
*Parcio a chamu = parcio o leiaf 5-10 munud i ffwrdd o'r ysgol a cherdded gweddill y daith yn ddiogel.
Addysg ac Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu Sir Gâr
Cyrsiau Dysgu Oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Cymorth Ariannol
Colli ysgol : Colli cyfle
Cyllideb ysgolion
Llywodraethwyr ysgol
Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr
Addysg Sir Gâr 2022-2032
- Pam mae angen y strategaeth hon arnom?
- Gweledigaeth ar gyfer 2032
- Ein canlyniadau dymunol 2022-2032
- Cyswllt â'r amcanion llesiant
- Cefndir polisi