Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Mae Hawl Tramwy Cyhoeddus yn llwybr y mae gan y cyhoedd hawl cyfreithiol trwy Gyfraith Priffyrdd i’w dramwyo a’i ail-dramwyo. Mae Hawliau Tramwy i’w gweld mewn trefi, pentrefi ac yng nghefn gwlad. Mae arwyneb ar rai llwybrau ond mae’r rhan fwyaf yn draciau a chaeau sy’n eiddo i dir berchnogion. Ni ddylid cymysgu llwybrau cyhoeddus gyda llwybrau priffyrdd er enghraifft, sef palmentydd ar ochr y ffordd.

Yr enw cyffredin ar hawliau tramwy cyhoeddus yw llwybrau cerdded cyhoeddus, llwybrau ceffylau cyhoeddus a chilffyrdd cyhoeddus. Oherwydd hyd y rhwydwaith, ac weithiau, anghysondebau cyfreithiol ynghylch y Map Diffyniadol, nid oes arwyddion ar bob Hawl Tramwy. Fodd bynnag, mae’r Cyngor Sir yn ceisio gofalu fod arwyddion ar bob llwybr poblogaidd. Fe welwch y disgiau nodi llwybr canlynol ar arwyddbyst neu mewn mannau amlwg ar hyd y llwybrau.

Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn briffyrdd cyhoeddus ac fe’u cofnodir ar Fap a Datganiad Diffyniadol (cofnod cyfreithiol o Hawliau Tramwy Cyhoeddus). Ni sy’n gyfrifol am gadw’r map hwn yn gyfredol.

Mae ein swyddfeydd bellach ar agor ddydd Llun a ddydd Mercher rhwng 10.00am a 3.00pm drwy apwyntiad yn unig. Cysylltwch â prow@sirgar.gov.uk i drefnu apwyntiad.