Canllaw i Dirfeddianwyr ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Rolau a Chyfrifoldebau

1. Cyflwyniad

Mae hawliau tramwy cyhoeddus yn rhan o'r Rhwydwaith Priffyrdd Cyhoeddus ac yn cael eu gwarchod gan y gyfraith. Mae gan dirfeddianwyr a chynghorau sir gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau bod y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus yn agored, yn hygyrch, ac yn ddiogel ar gyfer y cyhoedd. Mae'n ddyletswydd ar y Cyngor Sir hefyd i fynnu a diogelu hawl y cyhoedd i ddefnyddio a mwynhau'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus.

Mae pedwar math o hawl dramwy gyhoeddus:

  • Llwybr troed - lle mae gan y cyhoedd hawl dramwy ar droed yn unig, gyda chymorth symud lle bo hynny'n briodol.
  • Llwybr Ceffylau - lle mae gan y cyhoedd hawl dramwy ar droed, ar geffyl neu ar feic.
  • Cilffordd Gyfyngedig - lle mae gan y cyhoedd hawl dramwy ar droed, ar geffyl neu ar feic ac mewn cerbydau nad ydynt yn cael eu gyrru'n fecanyddol e.e. car a cheffyl
  • Cilffordd - lle mae gan y cyhoedd hawl dramwy ar droed, ar geffyl, ar feic neu mewn cerbyd a dynnir dan geffyl a cherbyd modur gan gynnwys beiciau modur.

Caniateir cŵn (dan reolaeth agos), cadeiriau gwthio a phramiau ar bob math o hawliau tramwy cyhoeddus; maent yn cael eu hystyried yn ychwanegiadau arferol i ddefnyddiwr hawl dramwy gyhoeddus cyfreithlon.

Mae'r Map a'r Datganiad Diffiniol yn dystiolaeth bendant o fodolaeth hawliau tramwy cyhoeddus. Cedwir y dogfennau hyn yn y Swyddfeydd Mynediad i Gefn Gwlad a gellir eu gweld trwy drefnu apwyntiad.

Mae map digidol o rwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus Sir Gaerfyrddin ar gael ar ein gwefan. MAP