Canllaw i Dirfeddianwyr ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Rolau a Chyfrifoldebau

6. Pa mor llydan yw hawl dramwy gyhoeddus?

Nid oes lled cyffredin sy'n berthnasol i bob hawl dramwy gyhoeddus oni bai bod hynny wedi'i gofnodi yn y Datganiad Diffiniol, ac mae angen ystyried pob llwybr yn unigol.

Mae rhagdybiaeth fod lled hawl dramwy gyhoeddus sy'n dilyn llwybr neu lôn ddiffiniedig yn ymestyn i'r lled hanesyddol llawn, o ffin i ffin neu, os nad oes ffiniau, i'r lled sydd wedi'i fesur wrth raddfa ar fapiau hanesyddol.

Lle na ellir diffinio lled drwy'r naill ddull uchod na'r llall neu drwy unrhyw ddull arall, ein nod yw cynnal o leiaf y lled canlynol ar hyd pob hawl dramwy gyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin.

Hawl dramwy gyhoeddus ar draws cae: Llwybr troed 1 metr. Llwybr ceffylau 2 fetr. Cilffordd 3 metr.

Hawl dramwy gyhoeddus ar hyd ymyl cae: Llwybr troed 1.5 metr. Llwybr ceffylau 3 metr. Cilffordd 3 metr.

Os bydd tirfeddiannwr/meddiannydd yn dymuno ffensio hawl dramwy gyhoeddus oddi wrth dir cyfagos, rydym yn gofyn am ganiatáu lled ychwanegol o 0.5 metr. Mae'r lled ychwanegol yn golygu nad oes rhaid i lystyfiant sy'n ymledu gael ei reoli'n agos ac yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn er mwyn i'r llwybr barhau i fod yn hygyrch.