Canllaw i Dirfeddianwyr ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Rolau a Chyfrifoldebau
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Prif Gyfrifoldebau Tirfeddianwyr
- 3. Pwy sy'n gyfrifol am gamfeydd a gatiau ar hawliau tramwy cyhoeddus?
- 4. Pwy sy'n gyfrifol am bontydd ar hawliau tramwy cyhoeddus?
- 5. Pa fath o ffensys sy'n cael eu caniatáu ger hawl dramwy gyhoeddus?
- 6. Pa mor llydan yw hawl dramwy gyhoeddus?
- 7. Pwy ddylai gynnal a chadw wyneb hawl dramwy gyhoeddus?
- 8. Pwy ddylai gynnal perthi?
- 9. A gaf aredig a thyfu cnydau ar draws hawl dramwy gyhoeddus?
- 10. A gaf newid llwybr hawl dramwy gyhoeddus?
- 11. A gaf ddileu hawl dramwy gyhoeddus o'm tir?
- 12. A allaf herio cywirdeb y Map a'r Datganiad Diffiniol?
- 13. A allaf ddiogelu fy nhir rhag i fwy o hawliau tramwy cyhoeddus gael eu hychwanegu?
- 14. Cysylltwch â ni
3. Pwy sy'n gyfrifol am gamfeydd a gatiau ar hawliau tramwy cyhoeddus?
Weithiau mae angen celfi cefn gwlad (e.e. gatiau a chamfeydd) ar dirfeddianwyr at ddibenion rheoli fferm a rheoli stoc. Cyfrifoldeb y tirfeddiannwr/meddiannydd yw'r strwythurau hyn ac maent yn eiddo iddo.
Dylai gatiau a chamfeydd newydd gydymffurfio â'r Safon Brydeinig - gellir cael rhagor o wybodaeth am y Safon Brydeinig gyfredol ar gyfer camfeydd a gatiau gan y tîm Mynediad i Gefn Gwlad.
Mae Polisi Codi Tâl Dodrefn Hawliau Tramwy Cyhoeddus y Cyngor Sir yn amlinellu lefel y cymorth y gall perchnogion tir ei ddisgwyl ar gyfer dodrefn HTC ar eu tir. Gall tirfeddianwyr hawlio 25% tuag at gost cynnal a chadw dodrefn HTC, gellir cynyddu hyn yn ôl disgresiwn y Cyngor. Y cam cyntaf yw cysylltu â’r Cyngor i drafod unrhyw gyfraniad tuag at ddodrefn HTC cyn mynd i gostau.
Mae angen cael caniatâd gan yr awdurdod lleol cyn gosod unrhyw strwythur newydd megis gât neu gamfa ar draws hawl dramwy gyhoeddus. Dim ond o dan amgylchiadau penodol y gellir caniatáu celfi llwybr newydd; cysylltwch â'r tîm Mynediad i Gefn Gwlad i gael rhagor o wybodaeth.
Mae tirfeddianwyr yn atebol am unrhyw anaf a achosir gan gelfi cefn gwlad sy'n adfeiliedig, yn amhriodol, ar goll neu wedi'u cynnal a'u cadw'n wael ar y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus.