Canllaw i Dirfeddianwyr ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Rolau a Chyfrifoldebau

2. Prif Gyfrifoldebau Tirfeddianwyr

Gall tirfeddianwyr ddisgwyl y bydd ymwelwyr yn trin eu tir gyda pharch ac yn dilyn y Côd Cefn Gwlad

Côd Cefn Gwlad

Mae disgwyliadau ar y tirfeddiannwr hefyd.

Os oes hawl dramwy gyhoeddus yn croesi eich tir, fel tirfeddiannwr neu denant mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod modd i'r cyhoedd gael mynediad iddi. Mae hyn yn golygu bod yr hawl dramwy gyhoeddus:

  • yn rhydd o rwystrau megis gatiau dan glo, perthi, ffensys trydan, coed yn tyfu dros y llwybr, cnydau (heblaw am borfa) neu ymddygiad bygythiol sy'n atal y cyhoedd rhag cael mynediad i hawliau tramwy cyhoeddus
  • yn rhydd o arwyddion camarweiniol neu fygythiol a allai atal y cyhoedd rhag defnyddio'r hawl dramwy gyhoeddus.
  • celfi llwybr wedi'u rheoli'n dda megis camfeydd a gatiau sy'n addas ar gyfer y math o hawliau tramwy cyhoeddus, yn hawdd ac yn ddiogel i'w defnyddio, ac wedi'u cynnal a'u cadw'n briodol.
  • dim teirw buchesi godro dros ddeg mis oed yn cael eu cadw ar dir y mae hawl dramwy gyhoeddus yn ei groesi (mae bridiau godro cydnabyddedig yn cynnwys: Ayrshire, Jersey, Dairy Shorthorn, Kerry, Friesian Prydeinig, Holstein Prydeinig a Guernsey)*
  • bridiau teirw cyfreithlon yn cael eu cadw ar dir y mae hawl dramwy gyhoeddus yn ei groesi dim ond os ydynt gyda gwartheg neu heffrod*
  • yn rhydd o unrhyw anifeiliaid peryglus neu ymosodol a allai atal y cyhoedd rhag defnyddio'r hawl dramwy gyhoeddus a/neu fod yn beryglus.

Bydd hawliau tramwy cyhoeddus ag arwyddbyst clir, sy'n cael eu cynnal a'u cadw'n dda, yn atal y cyhoedd rhag mynd ar goll, gan sicrhau eu bod yn cadw at y llwybr cywir ac i ffwrdd o ardaloedd nad ydynt yn cael eu rheoli ar gyfer mynediad cyhoeddus.

 

*Gallwch weld Canllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ynghylch rheoli da byw yn ddiogel a mynediad cyhoeddus yma Gwartheg a mynediad cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr

Canllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch