Fforwm Mynediad Lleol

Diweddarwyd y dudalen ar: 03/02/2025

Yn ôl Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, caiff 'fforymau mynediad lleol' eu sefydlu ledled Cymru a Lloegr i roi cyngor i awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill ar wella mynediad y cyhoedd i dir ar gyfer hamdden awyr agored a mwynhau'r ardal.  

Mae pob fforwm yn cynnwys rhwng 12 ac 20 o unigolion o blith y gymuned leol ac maent yn cynrychioli trawstoriad eang o ddiddordebau. Rydym wedi sefydlu fforwm i gwmpasu'r Sir gyfan heblaw am ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy'n rhan o Fforwm Mynediad Lleol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae'r Fforwm yn cyfarfod sawl gwaith bob blwyddyn i ystyried amrywiaeth o bynciau mynediad, er enghraifft:

  • Bydd mynediad hamdden o bob math yn cael ei ystyried gan y Fforwm gan gynnwys cerdded, marchogaeth, beicio a gyrru oddi ar y ffordd.
  • Adolygu strategaethau hamdden a mynediad
  • Monitro 'cynlluniau gwella hawliau tramwy'
  • Adolygu mapiau o 'wlad agored' mewn cysylltiad â gwella mynediad cyhoeddus i 'wlad agored'.

Mae pob cyfarfod o'r fforwm ar agor i'r cyhoedd ac yn dechrau am 6pm.

Dyddiadau ar gyfer 2024 Amser Lleoliad
9 Rhagfyr 2024 - Wedi ei ohirio 4yp

Canolfan Hamdden Caerfyrddin, Tre Ioan

Bydd tymor presennol 3 blynedd y Fforwm Mynediad Lleol yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2024.

Byddwn yn recriwtio Fforwm Mynediad Lleol newydd yn fuan a byddwn yn chwilio am drigolion o Sir Gaerfyrddin ar gyfer y tymor nesaf o 3 blynedd ac sydd am gael y cyfle i ddweud eu dweud ar wella mynediad cyhoeddus i gefn gwlad.

Bydd angen i aelodau:

  • Glynu at yr adrannau sy’n ymwneud â Fforymau Mynediad Lleol yn Neddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, rheoliadau perthnasol a’r Cylch Gorchwyl hwn
  • Dangos ymrwymiad i gyrraedd nodau’r FfMLl drwy weithio’n adeiladol gydag aelodau eraill
  • Gallu rhoi’r amser angenrheidiol i fynychu cyfarfodydd a rhwydweithio y tu allan i gyfarfodydd
  • Bod â digon o brofiad o fynediad i gefn gwlad yn yr ardal leol i allu gwneud cyfraniad cytbwys ac adeiladol i wella’r ddarpariaeth mynediad
  • Gallu gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau buddiannau.

Cadwch lygad am yr hysbyseb i recriwtio ar gyfer y Fforwm Mynediad Lleol yma ar dudalen we y Fforwm Mynediad Lleol, ac yn y wasg leol.