Polisi Codi Tâl Mynediad i Gefn Gwlad - Celfi Llywybrau Cyhoeddus
Yn yr adran hon
Adran 1 - Crynodeb
Yr Awdurdod Lleol fel yr awdurdod priffyrdd perthnasol sy'n gyfrifol am ddiogelu Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTC) a chynnal eu harwynebedd. Fodd bynnag, nid yw darparu a chynnal a chadw celfi ar hyd hawliau tramwy cyhoeddus, megis sticil, gatiau mochyn a gatiau ceffyl yn ddyletswydd ar yr awdurdod priffyrdd; cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw hyn.
Ers penodi Ceidwaid Cefn Gwlad yn 2003, a chyn hynny i raddau llai, mae tîm Mynediad i Gefn Gwlad Sir Gaerfyrddin wedi ariannu'r gwaith o gyflenwi a gosod celfi ar draws y rhanbarth ar ran y tirfeddianwyr ym mron pob achos.
O ganlyniad i gyflenwi a gosod celfi heb unrhyw gost i'r tirfeddiannwr, mae gwrthwynebiad gan dirfeddianwyr i gynnal a chadw hawliau tramwy cyhoeddus a gwelliannau wedi bod yn fach iawn, ac mae hyn wedi arwain at lai o achosion o orfodaeth ffurfiol.
Roedd y cyllid sydd ar gael, yn enwedig y grant Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (ROWIP), yn caniatáu i'r gwasanaeth dalu'r costau sy'n gysylltiedig â'r ffordd hon o weithio. Yn anffodus, mae'r grant Cynllun Gwella Hawliau Tramwy bellach wedi dod i ben ac mae'r rhagolygon ariannol yn parhau i fod yn heriol, felly ni all y gwasanaeth barhau â'r dull presennol o gyflenwi a gosod celfi.
Mae'r polisi hwn yn nodi sut y mae'r gwasanaeth yn bwriadu adolygu ei ffordd o weithio mewn perthynas â chyflenwi a gosod celfi, gan ddarparu cyfres glir a chyson o reolau, wrth ystyried ein cyfrifoldebau statudol.