Polisi Codi Tâl Mynediad i Gefn Gwlad - Celfi Llywybrau Cyhoeddus

Adran 5 - Codi tâl am gyflenwi/gosod celfi

Mae’r amgylchiadau lle bydd yr Awdurdod yn ceisio adennill costau fel y nodir isod.

5.1

Gatiau Ansafonol

Bydd yn ofynnol i dirfeddianwyr/rheolwyr sy'n dangos cydymffurfiaeth pan fydd aelod o'r tîm Mynediad Cefn Gwlad yn cysylltu â nhw, ond a hoffai i'r Awdurdod osod math o gât nad yw'n stoc safonol, dalu hanner cyfanswm cost cyflenwi a gosod y gât honno.
Bydd hyn yn amodol ar y meini prawf canlynol:

i.Ni ddylai fod unrhyw achosion wedi’u riportio o ymddygiad ymosodol neu fygythiol tuag at ddefnyddwyr hawliau tramwy cyhoeddus neu staff sy'n gysylltiedig â'r tirfeddiannwr/rheolwr.

ii. r wahân i gyflwr gwael neu absenoldeb celfi, ni ddylai fod unrhyw dystiolaeth o rwystr bwriadol mewn perthynas ag unrhyw hawliau tramwy cyhoeddus ar draws y daliad.

iii. ae’n rhaid i’r tirfeddiannwr/rheolwr dderbyn cyfrifoldeb am y celfi ar ôl eu gosod, yn unol â’u dyletswydd o dan Ddeddf Priffyrdd 1980.

5.2

Sticlau

Os yw’r tirfeddiannwr/rheolwr yn dymuno gosod sticil ar y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus o fewn ei ddaliad mae’n rhaid iddo dalu cost lawn y sticil/sticlau a’r gwaith gosod yn unol â’i ddyletswydd statudol. Rhaid i bob sticil fodloni’r Safon Brydeinig gyfredol BS5709:2018 a rhaid iddi fod yn un a ganiateir ar y rhwydwaith.

Nid yw sticlau’n cael eu hannog yn Sir Gaerfyrddin. Nid yw sticil yn ffordd hygyrch yn eang o gael mynediad i hawliau tramwy cyhoeddus i gerddwyr ac felly nid yw'n bodloni ein Polisi o Fynediad Lleiaf Rhwystrol. Mae sticil yn peri risg uwch o anaf i'r cyhoedd a risg uwch o atebolrwydd i'r tirfeddiannwr. Gan eu bod wedi'u creu o bren yn bennaf, gall sticlau ddadfeilio mewn byr o dro.

Os yw'r tirfeddiannwr yn ymgymryd â'r gwaith cyflenwi a gosod, gall hawlio'r 25% statudol yn ôl gan yr Awdurdod am gostau sticil/sticlau. Rhaid darparu prawf o'r costau.

Os cyflenwir a gosodir sticil/sticlau gan yr Awdurdod, ar ran y tirfeddiannwr, bydd 75% o gyfanswm y costau yn cael ei adennill oddi wrth y tirfeddiannwr, a bydd yr hawl statudol o 25% yn cael ei dynnu'n awtomatig.

5.3

Gorfodaeth

Bydd tirfeddianwyr/rheolwyr nad ydynt yn cydymffurfio pan fydd aelod o'r tîm Mynediad i Gefn Gwlad yn cysylltu â hwy, gan arwain wedyn at gamau gorfodi, yn gorfod talu cost lawn unrhyw waith gosod celfi a wneir fel rhan o’r camau hynny.

Os bydd tirfeddiannwr/rheolwr, yn dilyn cam gweithredu llwyddiannus drwy’r llys, yn dewis contractio gwasanaethau'r tîm Mynediad Cefn Gwlad i wneud unrhyw waith gosod celfi angenrheidiol, bydd disgwyl iddynt dalu costau llawn y gwaith.

5.4

Gorchmynion Gwyro

Os yw hawliau tramwy cyhoeddus wedi bod yn destun Gorchymyn Gwyro oherwydd cais ffurfiol, yna mae’r ymgeisydd yn atebol am yr holl gostau sy’n gysylltiedig â chreu’r llwybr newydd. Mae hyn yn cynnwys cost lawn yr holl gelfi angenrheidiol. Nid yw adennill costau o 25% oddi wrth yr Awdurdod o dan Ddeddf Cefn Gwlad (1968) yn berthnasol o dan yr amgylchiadau hyn.

*Am restr brisiau o’r holl gelfi hawliau tramwy cyhoeddus sy’n berthnasol i’r adran hon, gweler atodiad 1*