Polisi Codi Tâl Mynediad i Gefn Gwlad - Celfi Llywybrau Cyhoeddus
Yn yr adran hon
- Adran 1 - Crynodeb
- Adran 2 - Cyd-destun Cyfreithiol
- Adran 3 - Egwyddorion y Polisi hwn
- Adran 4 - Telerau Talu
- Adran 5 - Codi tâl am gyflenwi/gosod celfi
Adran 2 - Cyd-destun Cyfreithiol
Mae Adran 146 o Ddeddf Priffyrdd 1980 yn mynnu bod unrhyw gamfa neu gât ar draws llwybr troed, llwybr ceffyl neu gilffordd gyfyngedig yn cael eu cynnal gan y tirfeddiannwr mewn cyflwr diogel ac i’r safon sydd ei hangen i atal tarfu afresymol ar hawliau defnyddwyr. Mae hyn yn wir am y celfi i gyd ar y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus oni bai bod cytundeb cyfreithiol penodol yn groes i hynny.
Os bydd perchennog tir yn methu â chyflawni ei ddyletswydd, caiff yr Awdurdod Lleol, fel yr awdurdod priffyrdd perthnasol, ar ôl rhoi o leiaf 14 diwrnod o rybudd i’r perchennog a’r deiliad, wneud unrhyw waith sy’n angenrheidiol i atgyweirio, cyfnewid neu symud celfi a chodi tâl ar y perchennog. Nid yw bodolaeth y pŵer hwn yn tynnu oddi ar ddyletswydd yr awdurdod priffyrdd i gymryd camau gorfodi os yw cyflwr camfa neu gât yn achosi rhwystr.
Os yw perchennog tir yn cydymffurfio â'i ddyletswydd i gynnal a chadw celfi hawliau tramwy cyhoeddus, mae ganddo'r hawl i adennill o leiaf 25% o'i gostau gan yr awdurdod. Yn ymarferol, os yw'r Awdurdod yn gwneud y gwaith ar ran y tirfeddiannwr, dylai godi 75% o gyfanswm y gost, os yw'r tirfeddiannwr yn gwneud y gwaith ei hun, gall hawlio 25% o gyfanswm y gost.
Cyflwynwyd hyn gan Ddeddf Cefn Gwlad 1968 i rannu cyfrifoldeb yn deg rhwng perchnogion a'r awdurdod priffyrdd. Pan fo awdurdodau wedi methu â gorfodi tirfeddianwyr i gyflawni eu dyletswyddau, fel yn Sir Gaerfyrddin, nid yw tirfeddianwyr wedi hawlio’r grantiau a fyddai’n ddyledus iddynt fel arall.