Polisi Codi Tâl Mynediad i Gefn Gwlad - Celfi Llywybrau Cyhoeddus
Yn yr adran hon
- Adran 6 - Cyflenwi/gosod celfi yn Rhad ac am Ddim
- Adran 7 - Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb
- Atodiad 1 - Rhestr Brisiau
- Atodiad 2 - Celfi Mynediad i Gefn Gwlad Rhad ac am Ddim
Adran 6 - Cyflenwi/gosod celfi yn Rhad ac am Ddim
Ar hyn o bryd bydd yr Awdurdod yn parhau i ymgymryd â chyfrifoldebau tirfeddiannwr mewn perthynas â chelfi hawliau tramwy cyhoeddus yn yr amgylchiadau a nodir isod.
6.1
Rhwydwaith Hyrwyddol
Oherwydd y pwysigrwydd a roddir ar hawliau tramwy cyhoeddus a hyrwyddir yn y Sir a'r baich ychwanegol a roddir arnynt, bydd y tîm Mynediad Cefn Gwlad yn parhau i ariannu'r gwaith o gynnal a chadw celfi a darparu celfi newydd ar ran y tirfeddiannwr.
Dylid cadw’r llwybrau hyn sy’n cael eu hyrwyddo, er enghraifft Llwybr Arfordir Cymru, Llwybr Calon Cymru, a Llwybr Cothi, yn y cyflwr gorau posibl er mwyn arddangos y gorau o’r hyn sydd gan y Sir i’w gynnig i bobl leol a thwristiaid sy’n ymweld â’r Sir.
6.2
Rhwydwaith Ehangach
Bydd tirfeddianwyr/rheolwyr sy'n dangos cydymffurfiaeth glir pan fydd aelod o'r tîm Mynediad Cefn Gwlad yn dal i gael cynnig gosod celfi yn rhad ac am ddim er mwyn agor llwybr/llwybrau ar eu daliad, yn amodol ar feini prawf llym:
i. Rhaid derbyn math o gelfi penodol yn ôl statws y PROW – gweler atodiad 2.
ii. Ni ddylai fod unrhyw achosion wedi’u riportio o ymddygiad ymosodol neu fygythiol tuag at ddefnyddwyr hawliau tramwy cyhoeddus neu staff sy'n gysylltiedig â'r tirfeddiannwr/rheolwr.
iii. Ar wahân i gyflwr gwael neu absenoldeb celfi, ni ddylai fod unrhyw dystiolaeth o rwystr bwriadol mewn perthynas ag unrhyw hawliau tramwy cyhoeddus ar draws y daliad.
iv. Mae'n rhaid i dirfeddianwyr/rheolwr gymryd cyfrifoldeb dros y celfi ar iddynt gael eu gosod, yn unol â'u dyletswyddau o dan Ddeddf Priffyrdd 1980.
Bydd hyn yn sicrhau bod Gwasanaeth Cefn Gwlad mor effeithlon â phosibl. Bydd yn cyflawni gwelliannau gwerthfawr y mae galw amdanynt i'r rhwydwaith ar lawr gwlad ac yn gwobrwyo cydymffurfiaeth tirfeddianwyr ynghyd â pharhau i fod yn ymwybodol o droseddau hawliau tramwy cyhoeddus bwriadol a fydd yn diddymu cymhwysedd ar gyfer y cynnig hwn. Bydd hefyd yn gwella'r rhwydwaith, gan agor llwybrau mewn cydweithrediad â thirfeddianwyr wrth ddarparu'r mynediad lleiaf rhwystrol ar draws y rhwydwaith yn gyson.