Gerddi Aberglasne
Llangathen, Sir Gaerfyrddin, SA32 8QH
Daeth Aberglasne yn enwog yn sgil cyfres deledu’r BBC "A Garden Lost in Time" a oedd yn mynd ar drywydd ei adferiad. Erbyn heddiw, mae'n un o erddi gorau Cymru, a'i chanolbwynt yw gardd gloestr o Oes Elisabeth sydd wedi'i hadnewyddu'n llwyr, sef yr unig enghraifft o'i bath sydd wedi goroesi yn y DU. Y tu hwnt i hyn, gall ymwelwyr grwydro drwy 10 erw o dros 20 o wahanol erddi o rai ffurfiol i goetiroedd, rhai egsotig a modern, ynghyd â llawr gwaelod plasty rhestredig Gradd II* Aberglasne sydd wedi'i adnewyddu'n llwyr ac yn lleoliad trawiadol ar gyfer ffilmio.
Parcio: Meysydd parcio mawr – 60 o leoedd parcio i ymwelwyr ac mae maes parcio mawr i staff / coetsis
Arlwyo: Oes, mae ystafell de ar y safle
Cyfyngiadau ffilmio: Ar gau Dydd Nadolig a Dydd Calan. Ni fyddai llawer o gyfyngiadau ar gyfer ffilmio.
Cyfyngiadau ar ddefnyddio drôn: Dim
- Plasty
- Coetir
- Gardd Trofannol Dan Do