Theatr y Ffwrnes
Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE
Mae Theatr y Ffwrnes yn theatr gyfoes ddeg oed o'r radd flaenaf sydd â phedwar gofod. Mae'r prif dŷ yn fan hyblyg a all fod yn theatr draddodiadol â 504 o seddi, ond mae ganddo seddi hydrolig y gellir eu tynnu'n ôl sy'n cuddio'r seddi gan adael llawr gwastad agored. Gellir defnyddio hwn wedyn ar gyfer seddi tebyg i gabaret neu fan arddangos ac ati. Mae'r seddi wedi'u clustogi mewn gwyrdd neu oren. Mae yna dwr hedfan modur ac adlewyrchyddion acwstig ACS. Mae pwll cerddorfa ar gyfer cerddorfa 30-darn, y gellir ei droi yn 60 sedd ychwanegol pan nad oes angen cerddorfa. Mae yna hefyd bwyntiau rigio syrcas. Mae sawl piano yn yr adeilad, gan gynnwys Steinway. Mae naw ystafell wisgo o wahanol feintiau.
Mae lle i hyd at 100 o bobl yn y man llai, sef Stiwdio Stepni, ac fe’i defnyddir ar gyfer sioeau llai, clwb comedi, digwyddiadau llenyddol ac ati. Mae'r mannau eistedd yn hyblyg iawn a gellir eu trefnu mewn arddull cabaret neu arddull draddodiadol, ymhlith eraill.
Mae’r Crochan yn fan hyblyg iawn y gellir ei ddefnyddio fel gofod ymarfer neu addysgu, ar gyfer cynadleddau, neu ar gyfer dangos ffilmiau. Mae ganddo offer clyweled adeiledig.
Mae'r Ffwrnes Fach yn hen Gapel Seion (a adeiladwyd ym 1857) ac ar hyn o bryd mae’n cael ei rhentu i’r fenter gymdeithasol, People Speak Up. Mae ganddo organ bib, oriel eistedd mewn arddull eglwys, a phulpud.
Parcio: Mae maes parcio talu-ac-arddangos wrth ymyl y theatr, a maes parcio bychan i staff/criw yng nghefn y theatr gan gynnwys man llwytho.
Arlwyo: Mae yna gaffi gyda cheginau a man eistedd cyfforddus. Mae'r man ymarfer/cynadledda (Crochan) yn fan mawr sydd hefyd wedi'i ddefnyddio at ddibenion arlwyo. Mae lle hefyd yn y maes parcio ar gyfer fan/lori arlwyo.
Cyfyngiadau ffilmio: Yr oriau agor swyddogol yw 9am i 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (swyddfa) a rhwng 10am a 2pm ar ddydd Sadwrn (swyddfa docynnau yn unig), ynghyd â phob sioe. Fodd bynnag, gallwn fod yn hyblyg iawn os oes angen ffilmio.
Cyfyngiadau ar ddefnyddio drôn: Dim
- Prif dŷ'r Ffwrnes, awditoriwm
- Stiwdio Stepni
- Ffwrnes Fach