Strategaeth Hybu’r Gymraeg

Mae Strategaeth Hybu'r Gymraeg, Sir Gâr 2023–28 yn nodi'r camau sydd eu hangen i gryfhau sefyllfa'r Gymraeg yn y sir drwy gynyddu nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg, cynyddu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol, codi statws yr iaith, cefnogi cymunedau Cymraeg a chyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'r Strategaeth yn un o ofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac mae'n adeiladu ar waith partneriaeth a thystiolaeth a ddatblygwyd dros nifer o flynyddoedd, gan gynnwys dadansoddiad o ganlyniadau Cyfrifiad 2021 a'u goblygiadau i ddyfodol y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin.

Lluniwyd y Strategaeth gan aelodau Fforwm Strategol Sirol y Gymraeg Sir Gâr, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o sefydliadau a phartneriaid. Cefnogir y Strategaeth gan Gynllun Gweithredu sy'n cael ei adolygu a'i ddiweddaru'n rheolaidd gan y Fforwm er mwyn ymateb i heriau a chyfleoedd newydd.

 

Y Gymraeg yn Sir Gâr – Cyfrifiad 2021

Mae adroddiad Y Gymraeg yn Sir Gâr – Cyfrifiad 2021 yn darparu dadansoddiad manwl o ddata'r cyfrifiad ar gyfer y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r adroddiad yn archwilio tueddiadau mewn nifer y siaradwyr Cymraeg, sgiliau iaith Gymraeg a newidiadau mewn patrymau defnydd ar draws y sir. Mae'r canfyddiadau'n darparu sail dystiolaeth bwysig i lywio cynllunio ieithyddol, datblygu polisïau a chyflawni blaenoriaethau Strategaeth Hybu'r Gymraeg Sir Gâr

Darllenwch y Strategaeth

Lawrlwythiadau

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau, cynlluniau a pholisïau